Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

REF 2021 – Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

11 Mai 2022

Annwyl gydweithiwr,

Rwy’n ysgrifennu i ddiolch o waelod calon i bawb a gyfrannodd at Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, ac i’ch llongyfarch.

Mae eich ymdrech ar y cyd wedi helpu’r Brifysgol i fod yn y 14eg safle yn y DU am bŵer ymchwil, ac yn y 19eg safle am ansawdd. Rydym yn yr 11eg safle am gyrhaeddiad ac arwyddocâd ein heffaith, ac yn yr 16eg safle am ein hamgylchedd a’n diwylliant ymchwil. Mae deg o’n 23 o gyflwyniadau yn y chwartel uchaf o ran perfformiad cyffredinol. Mae 13 o’n 23 o gyflwyniadau yn y chwartel uchaf o ran effaith ymchwil.

Mae’r canlyniadau hyn yn newyddion da dros ben i Brifysgol Caerdydd, ac yn benllanw strategaeth lle gwnaethom fanteisio i’r eithaf ar gyfartaledd pwynt gradd yn 2014. Ein nod oedd cynnal y dimensiwn hwnnw, neu ei wella, ochr yn ochr â gwneud yn siŵr bod cynifer â phosibl yn cael eu cynnwys y tro hwn. Yn unol â hynny, aethom ati i geisio cynnwys ac annog cynifer â phosibl i gyflwyno eu gwaith i’w asesu. O ganlyniad, fe wnaethom bron â dyblu nifer yr unigolion a gyflwynodd i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn ogystal â chynyddu cyfran yr ymchwil a gyflawnodd 4*. Mae Prifysgol Caerdydd wedi dangos ehangder, dyfnder ac ansawdd: Fe aseswyd bod 90% o’n hymchwil gyda’r gorau yn y byd (4*) neu’n rhagorol yn rhyngwladol (3*). Mae hyn yn gynnydd o bron 5% o’i gymharu â’n cyflwyniad llawer mwy dethol yn 2014.

Ein Dangosydd Perfformiad Allweddol ar gyfer REF oedd cyrraedd y 12fed safle o ran pŵer ymchwil (y cyfuniad o ansawdd a maint). Roedd hwn wastad yn mynd i fod yn her, a gallwn fod yn hapus iawn ein bod yn y 14eg safle ar gyfer y mesur hwnnw, o gymharu â’r 18fed safle y tro diwethaf.

I’r holl staff academaidd a gyfrannodd eu hymchwil rhagorol at y cyflwyniad y mae’r diolch am y llwyddiant hwn, yn ogystal â’r cydweithwyr proffesiynol sy’n hwyluso eu hymchwil mewn modd mor rhagorol. Rhaid sôn yn arbennig am bawb a weithiodd mor galed ar gyflwyniad Prifysgol Caerdydd pan oedd y pandemig yn ei anterth. Fe gafodd y gwaith hwn ei wneud mewn amgylchiadau nad oedd o unrhyw gymorth i’r gwaith manwl gywir oedd ei angen i lunio pob datganiad. Mae amlygu unigolion yn dalcen caled, gan fod cannoedd wedi chwarae eu rhan ar draws y sefydliad. Fodd bynnag, byddwn ar fai pe na byddwn yn diolch i’r Athro Kim Graham a James Vilares am eu hymroddiad a’u hymrwymiad drwy gydol proses y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, yn ogystal â’r cymorth cyson y maent wedi’i roi i gydweithwyr ar draws y sefydliad. Gwn fod llawer o bobl eraill eisoes wedi mynegi eu diolchgarwch.

Byddwn yn treulio peth amser yn dadansoddi’r canlyniadau’n fanylach, a bydd llawer o gyfleoedd pellach i fyfyrio ar ba wersi y gallem eu dysgu o’r canlyniadau. Yn yr un modd ag unrhyw REF, ac Ymarferion Asesu Ymchwil yn y gorffennol, nid yw popeth bob amser yn mynd yn union fel yr oeddem wedi’i gynllunio. Rwy’n sylweddoli y gallai rhai fod wedi cael siom ond mae’r ymarferion hyn yn rhan o ymdrech barhaus, a bydd llawer mwy o gyfleoedd yn y dyfodol. Yn gyffredinol, mae Prifysgol Caerdydd wedi gwneud yn dda iawn. Fel bob amser, ein cymuned yw ein cryfder, ac mae’n enghraifft wirioneddol o’n llwyddiant pan rydym yn gweithio gyda’n gilydd. Mae canlyniadau heddiw yn golygu y gallwn droi ein meddyliau at gyfeiriad ymchwil yng Nghaerdydd yn y dyfodol gyda gobaith a hyder, gan wybod y byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i greu ymchwil sy’n wirioneddol bwysig.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor