Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Rhyfel yn Wcráin a gwasanaeth dangos cefnogaeth

7 Mawrth 2022

Annwyl gydweithiwr

Wrth i oresgyniad barbaraidd Vladimir Putin o Wcráin barhau i ddinistrio’r wlad, hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y camau rydym yn eu cymryd mewn ymateb i’r digwyddiadau hyn.

Mewn ymateb i ohebiaeth a gefais, rwyf wedi ysgrifennu at Is-Ganghellor Prifysgol Dechnegol Genedlaethol Wcráin i fynegi ein dicter at weithredodd mileinig gwladwriaeth Rwsia dan arweiniad Putin a chadarnhau ein bod yn cydsefyll â phawb yn y brifysgol a phobl Wcráin. Rwyf yn siŵr fy mod yn siarad ar ran pawb ym Mhrifysgol Caerdydd pan ddywedaf ein bod yn gweld, gyda’r arswyd pennaf, y creulondeb affwysol a’r difaterwch llwyr ynghylch bywyd dynol y mae Putin wedi eu dangos. Yn yr un modd â llawer o brifysgolion ledled y byd, rydym yn condemnio, a hynny mewn ffordd ddigamsyniol, yr ymosodiad trychinebus hwn.

Mae ein dylanwad ymarferol o reidrwydd yn gyfyngedig, ond pan fo’n bosibl, byddwn ni’n cynnig ein cymorth. Yn amlwg, hwyrach y bydd y goresgyniad yn golygu y bydd academyddion o Wcráin yn chwilio am loches yn y wlad hon, ac rydym yn gweithio i gynnig cymorth mewn achosion o’r fath drwy ein prosiect hirsefydlog ar y cyd â’r Cyngor dros Academyddion mewn Perygl (CARA). Calonogol oedd clywed hefyd fod rhai cydweithwyr yng Nghaerdydd eisoes yn gwirfoddoli lleoliadau tymor byr i helpu academyddion o Wcráin i ailsefydlu eu hunain ar sail fwy parhaol.

Rydym bellach wedi cysylltu â holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy’n dod o Wcráin, Rwsia a Belarws, i’r graddau y mae ein cofnodion yn caniatáu hyn, ac mae Penaethiaid yr Ysgolion wedi bod yn cysylltu ag aelodau staff. Yn ogystal ag unrhyw gymorth emosiynol y bydd ei angen, rydym yn ystyried gofynion ymarferol megis y posibilrwydd o gyllid caledi i fyfyrwyr sy’n wynebu anhawster ariannol, yn ogystal â sicrhau bod y myfyrwyr hynny nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w mamwlad (yn enwedig y rheiny o Wcráin) yn gallu parhau i gael llety yng Nghaerdydd pan ddaw’r tymor i ben.

Mae gan yr ymdrechion i ynysu Rwsia’n rhyngwladol nifer o oblygiadau i Brifysgol Caerdydd. O ran ein cysylltiadau â’r wlad, gwyddom nad oes yr un prosiect ymchwil a ariennir gan Rwsia gennym, na chwaith gysylltiadau â phrifysgolion Rwsia o ran cyfnewid myfyrwyr. O ran cysylltiadau posibl eraill (er enghraifft ym myd diwydiant) byddwn yn annog pwyll, yn enwedig gan y gallai unrhyw waith o’r fath fod yn destun cosbau. Mae’n rhaid inni sicrhau bod unrhyw waith ar y cyd ag asiantaethau llywodraeth Rwsia neu ffynonellau cyllido llywodraeth Rwsia yn dod i ben ar unwaith. Hyd yn hyn nid ydym wedi nodi unrhyw achosion o’r math hwn, ond a fyddech cystal â rhoi gwybod i’r Athro Ruedi Allemann, y Rhag Is-Ganghellor Rhyngwladol, os byddwch yn dod yn ymwybodol o hyn.

Mae’n bwysig dweud bod yn rhaid inni fod yn ofalus i beidio â thynnu ein cefnogaeth oddi wrth gydweithwyr academaidd o Rwsia a allai fod wedi gwrthwynebu Putiniaeth ers blynyddoedd, gan fod llawer o filoedd ohonynt yn wynebu cryn berygl yn sgîl llofnodi datganiadau sy’n gwrthwynebu’r rhyfel a gweithredoedd eu llywodraeth. Amgylchiadau cymhleth yw’r rhain ac mae’n bwysig cofio mai un o swyddogaethau allweddol prifysgolion yw creu pontydd academaidd pan fydd llywodraethau yn eu dinistrio.

Rwyf wedi dweud o’r blaen mai cryfder Prifysgol Caerdydd yw cefndir a phrofiadau cyfunol ac amrywiol ein cymuned, ac yn yr amgylchiadau mwyaf enbyd hyn mae tosturi ein cymuned wedi fy syfrdanu unwaith yn rhagor.  Bydd y cryfder hwnnw’n amlygu ei hun drwy’r cyfle inni ddod at ein gilydd a myfyrio ar y digwyddiadau ofnadwy hyn ddydd Mercher 9 Mawrth am 11:00, ar Rodfa’r Bedol, ger y Prif Adeilad, mewn gwasanaeth i ddangos cefnogaeth a drefnir gan y caplaniaid aml-ffydd. Edrychaf ymlaen at weld rhai ohonoch yn y digwyddiad hwnnw, a byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y camau yr ydym yn eu cymryd i ymateb i’r argyfwng hwn.

Cofion cynnes

Colin Riordan
Is-Ganghellor