Blwyddyn academaidd newydd, Stonewall, Mary Rose
30 Mehefin 2021Darllenwch neges a anfonodd yr Is-Ganghellor at yr holl staff heddiw (30 Mehefin 2021).
Annwyl gydweithiwr
Mae’r ffordd y mae argyfwng Covid yn tarfu ar ein gallu i gynllunio wedi effeithio ar bob un ohonom yn bersonol, ac mae Prifysgol Caerdydd yn union yr un cwch. Dyna pam, wrth edrych ymlaen at y flwyddyn academaidd nesaf, y gwnaethom benderfynu paratoi ar gyfer tri phrif senario, gan ddefnyddio system goleuadau traffig i nodi graddau rheoli. Y senario cyntaf yw’r un sydd fwyaf tebygol yn ein barn ni o ystyried llwyddiant y rhaglen frechu yn y DU a’r ffordd bwyllog y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli Covid yng Nghymru. Yn y senario gwyrdd hwn, byddwn yn parhau i roi rhai mesurau ar waith i helpu i gyfyngu ar ledaeniad unrhyw haint posibl. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein systemau rhybuddio cynnar ar waith (trwy ein gwasanaeth sgrinio a dulliau monitro eraill) a bydd hyn yn ein galluogi i gymryd camau cyflym os oes angen. Am y tymor cyntaf o leiaf, byddwn yn argymell gwisgo masgiau yn adeiladau’r Brifysgol ac yn cadw pob elfen o’n systemau unffordd, neu rai ohonynt. Ar ben hynny, byddwn yn gwneud yn siŵr bod mesurau hylendid priodol ar waith a bod awyru’n parhau i fod yn brif ystyriaeth. Fodd bynnag, yn y senario hwn byddwn yn gwneud llawer mwy o ddefnydd o’n hadeiladau a’n cyfleusterau o gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf, hyd yn oed os bydd rhai cyfyngiadau o hyd. Mae’r ail senario, yr un ambr, yn un lle byddem yn cadw neu’n ailgyflwyno’r protocolau cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr yr ydym wedi dod i arfer â nhw. Bydd hyn yn caniatáu i ni fwrw ymlaen ag ychydig o addysgu ar y campws a defnyddio cyfleusterau. Mae’r trydydd yn senario coch a fyddai’n golygu mai addysgu a dysgu personol a hanfodol yn unig fyddai’n digwydd, a byddai cyfyngiadau sylweddol ar ddefnyddio ein cyfleusterau (fel yn y cyfnod ar ôl y Nadolig eleni). Rydym yn hyderus y byddwn yn gallu newid rhwng y senarios hyn yn gyflym yn ôl yr angen.
Wrth i mi ysgrifennu’r neges hon, rydym yn disgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru fydd, yn gyffredinol, yn caniatáu inni symud ymlaen ar sail y senario gwyrdd fel yr amlinellwyd uchod. Gallwn ddisgwyl ychydig mwy o hyblygrwydd na’r hyn a awgrymwyd yn wreiddiol y byddai angen i unrhyw ddosbarth gyda thros 60 o fyfyrwyr gael ei gynnal ar-lein. Byddai hynny’n cael gwared ar yr anfantais o orfod pennu trothwy ar gyfer dosbarthiadau a sefyllfaoedd lle byddai cael 59 o fyfyrwyr yn dderbyniol, ond byddai cael 61 ohonynt yn annerbyniol. O dan y canllawiau a ddisgwylir gan Lywodraeth Cymru, bydd mwy o opsiynau o ran amserlennu a mwy o ryddid i Ysgolion ddewis pa ddosbarthiadau y dylid eu cynnal ar y campws, a pha rai fyddai’n cael eu cyflwyno’n well ar-lein. Fe ddylen ni hefyd allu defnyddio ein mannau cymdeithasol, labordai, llyfrgelloedd a chyfleusterau tebyg eraill mewn ffordd sy’n amddiffyn iechyd a diogelwch pob defnyddiwr, ond sy’n nes at y sefyllfa yn 2019 na 2020.
Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol y cafodd llythyr agored gan 16 o academyddion Prifysgol Caerdydd ei gyhoeddi yn gynharach y mis hwn. Fe gafodd ei anfon ata i ac roedd yn awgrymu y dylai’r Brifysgol adolygu ein haelodaeth o gynllun Hyrwyddwyr Amrywiaeth a gynhelir gan elusen LHDTQ+ Stonewall, gan nodi bygythiadau i ryddid academaidd a rhyddid mynegiant. Fe gyhoeddwyd gwrth-lythyr wedi hynny, a anfonwyd ata i eto, a’i lofnodi gan dros 145 o staff a thros fil o fyfyrwyr, cynfyfyrwyr ac eraill yn mynegi eu gwrthwynebiad i’r llythyr gwreiddiol. Roedd hefyd yn herio nifer o’r honiadau a wnaed ynddo ac yn gofyn i ni gadw ein cysylltiad â Stonewall. Fe aethom ati wedi hynny i gyhoeddi datganiad yn ymateb i faterion a godwyd yn y ddau lythyr. Mae’r datganiad hwn i’w weld yma. Fe atebais y naill grŵp o lofnodwyr ar wahân hefyd, gan fynd i’r afael â’u pryderon penodol. Yn ystod y cyfnod hwn o drafodaeth gyhoeddus, fe gefais nifer fach o negeseuon eraill, ac rwyf wedi ymateb i bob un o’r rhain.
Ar ôl cyhoeddi’r llythyr cyntaf, fe gynhaliwyd gwrthdystiad bach y tu allan i’r Prif Adeilad. Yn ystod y gwrthdystiad, fe ddosbarthwyd deunydd (a’i gylchredeg yn ddiweddarach ar gyfryngau cymdeithasol) a fyddai’n torri ein canllawiau ynghylch urddas a pharch. Fe gafodd ei gyfeirio y deunydd at yr heddlu er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon dealladwy a fynegwyd gan lofnodwyr y llythyr gwreiddiol. Nid aelodau’r Brifysgol sy’n gyfrifol am y cynnwys hwn yn ôl pob golwg, ond rhaid imi bwysleisio bod ymddygiad o’r fath yn gwbl annerbyniol ac na chaiff ei oddef yn ein cymuned. Yn yr un modd, rhaid amddiffyn hawliau ac anghenion ein cymuned LHDTQ +, ac rwy’n arbennig o awyddus ein bod yn cefnogi ac yn amddiffyn yr aelodau o’n cymuned sy’n staff a myfyrwyr traws. Rwy’n hynod ymwybodol o’r rhagfarn a’r cam-drin y mae pobl traws yn eu hwynebu o ddydd i ddydd ac rwy’n gwbl ymrwymedig i sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cael eu cefnogi yma. Yn amlwg, nid yw hyn yn golygu peidio â chefnogi hawliau grwpiau eraill hefyd, a rhaid i ni wrando ar bryderon pawb a mynd i’r afael â nhw yn y ffordd orau y gallwn fel cymuned.
Rwy’n nodi bod llofnodwyr y llythyr gwreiddiol yn cadarnhau ar y dechrau eu hymrwymiad i hawliau traws, ac maent yn pwysleisio bod eu gwrthwynebiad yn ymwneud â Stonewall a’i bolisïau sydd, yn eu barn nhw, yn effeithio ar ryddid academaidd a rhyddid mynegiant. Ar y mater hwn, rwy’n pwysleisio bod rhyddid academaidd a rhyddid mynegiant yn gwbl ganolog i’n gwerthoedd, a bod gan bob aelod o’r Brifysgol rwydd hynt i fynegi eu barn o fewn y gyfraith. Yn anochel, mae hyn yn golygu y bydd anghytuno ar adegau, a’n dyletswydd ni fel sefydliad yw hwyluso trafodaeth gwrtais a chynhwysfawr rhwng gwahanol grwpiau. O ran Stonewall, mae’r farn ar eu polisïau yn amrywio’n fawr a gellir trafod y rhain dros gyfnod yr haf. Fodd bynnag, hoffwn nodi rôl bwysig Stonewall dros nifer o flynyddoedd wrth ein helpu i ddatblygu ein polisïau a’n harferion mewn modd sydd wedi creu’r gymuned gefnogol ac amrywiol yr ydym yn ei gwerthfawrogi cymaint.
Gan symud ymlaen at faterion llai dadleuol, fe wnes i wylio fideo newyddion byr gan y BBC yn ddiweddar, o’r enw Uncovering the Mary Rose’s ethnically diverse crew. Roedd yn trafod ymchwil gan Dr Richard Madgwick a Ms Jessica Scorrer o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, sydd wedi gweithio ar weddillion dynol a adferwyd o’r Mary Rose, un o’r llongau mwyaf yn llynges Harri VIII. Mae’r adroddiad mwy cynhwysfawr a welwyd y mis diwethaf yn rhoi mwy o fanylion ac yn cyfeirio at yr erthygl academaidd y mae’r adroddiadau’n seiliedig arni. Mae’r gwaith o ddiddordeb rhannol bersonol i mi gan fy mod wastad wedi cael fy nghyfareddu gan y cyfoeth o wybodaeth a ddaeth i’r amlwg yn sgîl codi’r llong ym 1982. Pan oeddwn yn arholwr allanol ym Mhrifysgol Portsmouth yn y 1990au, fe wnes i fanteisio ar bob cyfle i ymweld â’r safle lle’r oedd y llong yn cael ei chadw (ac i weld HMS Victory hefyd). Mae adnoddau archaeolegol y Mary Rose yn parhau i gynnig canfyddiadau hynod ddiddorol. Mae’r penawdau o ymchwil Richard a Jessica yn nodi bod dadansoddiad isotop o esgyrn wyth o aelodau’r criw yn dangos bod pedwar ohonynt yn dod o du allan i’r DU yn ôl pob tebyg, ac y gallen nhw fod wedi dod o Ogledd Affrica a gorllewin Môr y Canoldir. (Mae gweddillion 179 o unigolion wedi’u hadfer a thybir bod dros 400 o bobl ar y llong i gyd). Mae hyn yn awgrymu y gallai llynges y Tuduriaid fod yn llawer mwy amrywiol nag a dybiwyd yn flaenorol. Mae hefyd yn dystiolaeth wyddonol sy’n rhoi gwybodaeth newydd hanfodol i’r cofnod hanesyddol. O ganlyniad i waith yr hanesydd David Olusoga – yn enwedig yn ei lyfr Black and British – ac eraill, rydym bellach yn ymwybodol o agwedd gyfan ar ein hanes oedd wedi cael ychydig iawn o sylw yn flaenorol, os o gwbl. Mae hefyd yn rhoi mwy o dystiolaeth o rôl cymunedau amrywiol mewn digwyddiadau allweddol a bywyd beunyddiol trwy gydol ein hanes fel cenedl.
Cofion gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014