Barddoniaeth Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
25 Mai 2021Mae’r llwybr dysgu wedi bod yn llawer yn fwy serth na chrymedd sylweddol yr adeilad colofnog ar hyd Plas y Parc neu hyd yn oed ongl serth ei ddarlithfa (mae unigolyn yn mynd i mewn ar y llawr cyntaf ac yn gadael ar y trydydd – cyfrifwch chi’r geometreg).
Mae’r broses o ymgymryd â rôl Noddwr Gweithredol Canolfan Bwyd y Myfyrwyr a goruchwylio prif gam olaf y gwaith adeiladu a’r hyn a elwir yn ‘Ailgynllunio Gwasanaethau’ (sy’n cynnwys y gwasanaethau mewnol o ddydd i ddydd, dynameg gweithredol a diwylliant hollbwysig yr adeilad sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr) wedi golygu datblygu sgiliau (yn gyflym) a dysgu ieithoedd technegol newydd er mwyn deall yn llawn sut mae adeilad sy’n arwain y sector yn cael ei gynllunio, ei adeiladu a’i lenwi er budd ein myfyrwyr, nawr ac yn y dyfodol.
Drwy fod yn Noddwr Gweithredol ar gyfer adeilad sbarc I spark hefyd, cefais ddechrau da diolch byth, ac roedd y timau gwych o gydweithwyr a myfyrwyr oedd yn cyflwyno mentrau, ar gael o’r cychwyn cyntaf i ateb fy nghwestiynau, ymateb i fy heriau a thaflu goleuni ar lawer o hanesion cymhleth, cydberthnasau â rhanddeiliaid, cytundebau, is-gytundebau, rhwydweithiau a chadwyni cyflenwi y cafodd yr adeiladau hyn, sy’n canolbwyntio ar bobl, eu creu ohonynt. Serch hynny, mae cael gafael gadarn ar y manylion – o ddyluniad y peiriannau sebon ac union natur y cladin, y gwydr a’r ‘gorffeniad acwstig’ – tra’n cadw’n agos at y weledigaeth arweiniol ar gyfer yr adeilad, yn aml yn heriol. Efallai y byddai rhywun yn meddwl nad gyrfa o ymchwilio i lenyddiaeth Saesneg yn oes y Chwyldro Ffrengig, na chyhoeddi casgliadau o farddoniaeth, yw’r paratoad mwyaf ymarferol ar gyfer rôl o’r fath. Efallai; ac eto, mae fy niddordeb mewn effeithiau iaith wedi bod wrth wraidd pam rwyf wedi mwynhau’r prosiect hwn gymaint. Yr hyn yr hoffwn ei gynnig yma (sydd, gyda lwc, fymryn yn anghonfensiynol) yw rhywfaint o sylwadau ar farddoniaeth – neu gerddi – Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.
Bob mis, rwy’n cadeirio prosiect y Bwrdd Llywio Cyffredinol. Dechreuodd y ‘Diweddariad Adeiladu’ diweddaraf gyda’r datganiad digamsyniol o uniongyrchol a syml ‘Ni chafwyd unrhyw ddamweiniau yn y mis diwethaf’ cyn i ni gyd ymgolli yn yr eirfa dechnegol haenog fel ‘symiau cymudo’, ‘mynediad buddiol’, ‘A/20/00093MNR’ a ‘gwaith yr Amgylchfyd Cyhoeddus’. Nid yw disgwrs Canolfan Bywyd y Myfyrwyr byth yn mynd i adael i chi aros mewn un patrwm ieithyddol: rydych yn neidio, yn egnïol, rhwng termau technegol a thermau mwy demotig – rhwng ‘draenio pwll storio’ a chiwbiclau cawod; rhwng y ‘Cynllun Pontio Ailgynllunio Gwasanaethau’ a gwyntoedd cryfion; rhwng ‘snagio’ a ‘Ti ar ‘Mute’, Damian’; rhwng ‘Wrth Gefn Drawdown’ a thostwyr; rhwng ‘creithio wyneb y ffordd’ ac ystafelloedd ymgynghori myfyrwyr.
BAM yw enw ein hadeiladwr. Mae’r enw’n codi yn y papurau ac yn ein trafodaethau ar zoom fel y geiriau mawr lliwgar yng nghylchgrawn Batman yn yr 1960au (Biff! Bam! Pow!). (BOF yw enw ein cyflenwr dodrefn.) Mae bywyd symbolig y fenter hefyd yn ddifyr dros ben: ar hyn o bryd rydym ‘yn yr awyr’ ac mae angen i drafodaethau a phenderfyniadau ‘lanio’. Gofynnir i mi am fy marn ar ‘Pantone 555, softened to 80%’ ar gyfer yr ystafelloedd gweithdy a’r gofod cyhoeddus ar yr ail lawr, a pha mor addas yw ‘Pantone 527’ i ardal aros yr adran Les (ar gyfer 121 o apwyntiadau myfyrwyr) ar y pedwerydd llawr. Baswn i’n dweud fy mod i’n hoff iawn ohonynt, o ystyried bod y cyntaf yn lliw olif gosgeiddig a’r ail un yn arlliw nodedig o borffor. A barddoniaeth acronymau! – CCC, DMA, NWR, TFW, AKIL, NPV – pob un yn rhan o’r eirfa law-fer pwrpasol sy’n arbenigol ac a berchnogir ar y cyd.
Yn aml, rwy’n dod o hyd i farddoniaeth yn Niweddariadau Adeiladu rhagorol ein cydweithiwr, Richard Clement; y cyfan sydd angen i rywun ei wneud yw eu trefnu (gweler y canlynol o’r mis hwn):
Glazed screens
have been installed
to the office area
along with
doors
and window
boards.
The final coat
of decorations
has commenced
and the atrium scaffolding
struck.
Mae hynny’n hyfryd, fel yr adeilad. Mae gan hyd yn oed ‘Completed IPS cubicles to main toilet areas’ rythm rwy’n ei hoffi, ac ni ellir peidio ag edmygu’r frawddeg ‘Lecture theatre belly has been boarded’. Yna mae geiriau fel ‘screeded’ (wedi’u gwneud yn llyfn ac yn wir drwy ddefnyddio teclyn alwminiwm arbenigol); ymadroddion i gyd-fynd â nhw fel ‘nenfydau chwifiedig’ a ‘draenio disgyrchiant a sffonig’; ac unwaith eto’r eiliadau digymell hynny ym mhrofiad llafar a chlywedol cyfarfod lle nad oes rhywun yn gwybod ai’r hyn yr adroddir arno yw deunydd yr adeilad ei hun neu’r hyn a fydd yn cael ei werthu gan Greggs ar y llawr gwaelod: ‘wrap thermacoustig’ a ‘gwaith toddi poeth’.
Felly, nid wyf yn gweld unrhyw wahaniaeth rhwng Canolfan Bywyd y Myfyrwyr a barddoniaeth dda – barddoniaeth i mi, yw ecoleg sydd wedi’i lunio’n ofalus lle mae canfyddiad newydd yn cael ei gyfleu ar lafar lle mae pob elfen wedi’i rhwymo’n dynn, gan weithio gyda’i gilydd i newid canfyddiad y darllenydd o’r byd. ‘Cerdd dda’ yn ôl Dylan Thomas, ‘yw cyfraniad at realiti. Nid yw’r byd byth yr un peth ar ôl i gerdd dda gael ei hychwanegu ati. Mae cerdd dda yn helpu i newid siâp y bydysawd’. Noder, cerdd dda. Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn gerdd dda; mae ei gofodau a ddyluniwyd yn ddeallus a’i gwasanaethau cydgysylltiedig cyfannol yn gyfraniad materol (ym mhob ystyr) at lywio dyfodol (barddonol, gobeithio) ein myfyrwyr.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014