Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Cefnogaeth i fyfyrwyr sydd wedi’u heffeithio gan drais a cham-drin

22 Ebrill 2021
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd ar 22 Ebrill.

Annwyl Fyfyriwr

Ysgrifennaf atoch i gydnabod y sylw parhaus yn yr wasg ac yn gyhoeddus sy’n ymwneud â thrais a cham-drin a’r materion sy’n peri pryder i fyfyrwyr. Rwyf am ei gwneud yn hollol glir i bob myfyriwr nad yw’r brifysgol yn goddef trais a cham-drin o unrhyw fath ac os ydych wedi cael eich effeithio, byddwn yn eich cefnogi.

Mae’n hynod o annifyr ac yn drist gwybod bod rhai o’n myfyrwyr yn profi aflonyddwch, troseddau casineb, trais rhywiol, cam-drin mewn perthnasoedd a mathau eraill o ymddygiad annerbyniol. Os ydych wedi wynebu materion o’r fath, cofiwch nad ydych ar eich pen eich hun.

Mae ein Tîm Ymateb i Ddatgeliadau wedi bod yn cefnogi myfyrwyr ers 2017 trwy roi cefnogaeth anfeirniadol i’r rhai sydd ei angen. Mae’r tîm yn cynnwys ystod o staff proffesiynol, cymwys ac arbenigol sydd yno i chi pe byddech chi’n datgelu digwyddiadau o drais neu gam-drin trwy ein teclyn datgelu ar-lein. Yn yr un modd, mae ein hymrwymiad trais a cham-drin yn sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio gyda staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Fel y nodir yn ein Siarter Myfyrwyr, rydym yn disgwyl i fyfyrwyr ymddwyn mewn ffordd sy’n parchu ein cymuned, ac mae gennym weithdrefnau ar waith os oes pryderon nad yw disgwyliadau o ran ymddygiad yn cael eu cyflawni a/neu fod risg o niwed. neu dramgwydd i chi neu aelodau eraill o’r gymuned.

Mae ein Hyfforddiant Bod yn Wyliwr sy’n Ymyrryd hefyd ar gael i bob myfyriwr, gan ganolbwyntio ar effaith pob math o drais a cham-drin a all effeithio ar fyfyrwyr, a darparu ffyrdd diogel i fyfyrwyr ymyrryd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol os ydynt yn dyst i drais neu gamdriniaeth.

Rydym yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr hefyd fel eich bod yn gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael. Mae’r ‘Ymrwymiad i Wella Diogelwch Myfyrwyr’ i’w drafod yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 27 Ebrill yn gyfle pwysig i glywed mwy gennych chi y materion hyn, yn ogystal â chyfle i ni weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â nhw.

Yn anffodus, rydym yn byw mewn cymdeithas lle mae trais a cham-drin digroeso yn parhau i fod yn bryder gwirioneddol a pharhaus – peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun os ydych chi wedi profi unrhyw fath o drais a cham-drin, boed hynny yn y gorffennol neu’r presennol, yn barhaus neu’n ddigwyddiad unigol – cysylltwch â’n Tîm Ymateb i Ddatgeliadau.

I’r rhan fwyaf o fyfyrwyr mae’n annhebygol y bydd eich diogelwch personol mewn perygl tra yn y brifysgol, fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod i gyd yn amddiffyn ein hunain ac yn defnyddio’r arweiniad, y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael.

Dymuniadau gorau

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr