Bod yn gynaliadwy
4 Mawrth 2021Darllenwch neges gan Karen Holford, y Dirprwy Is-Ganghellor, am gynaliadwyedd.
Er bod nifer o’n myfyrwyr a staff oddi ar y campws, roeddwn i’n falch iawn i weld diddordeb yn yr wythnos cynaliadwyedd, rhwng 1 a 5 Mawrth. Fe wnaethom gynnal ystod o ddigwyddiadau ar-lein i helpu pobl i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd o ble bynnag y maent yn gweithio neu’n astudio, a oedd yn cynnwys sesiynau ymarferol fel gwneud rhywbeth i leihau drafft neu anghofio am y cling film a gwneud taflen lapio o gwyr gwenyn.
Yn ein Fforwm Argyfwng Carbon gwnaethom rannu mwy o wybodaeth am ein prosiect modelu carbon sef y cam cyntaf wrth fesur ein hallyriadau sylfaenol sy’n dod o’n holl weithgareddau . Bydd ein Panel Sero Carbon Net sydd newydd ei sefydlu yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu ein cynllun rheoli carbon ymhellach i’n galluogi i ddod yn garbon niwtral ar allyriadau cwmpas 1 a 2 erbyn 2030.
Rydym hefyd yn benderfynol o fynd i’r afael â’n hallyriadau cwmpas 3, ac er bod mesur y rhain yn fanwl yn her sy’n wynebu pob sefydliad, byddwn yn gwneud gwaith pellach ar ein hamcangyfrif sylfaenol i’n galluogi i osod targedau priodol a chytuno ar gamau lliniaru. Mae nod y DU o gyrraedd allyriadau tiriogaethol sero net erbyn 2050 yn ymrwymiad sylweddol a’r unig ffordd y gallwn gyrraedd y targed yw os rydym ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i newid pethau.
Yn ogystal â lleihau’r deunyddiau rydym yn eu defnyddio, mae ailgylchu hefyd yn chwarae rhan enfawr o ran bod yn gynaliadwy. Mae’n gyffrous gweld bod y gorsafoedd ailgylchu newydd yn cael eu gosod ar draws ein hystâd gyfan , gan gyflwyno ailgylchu chwe ffrwd, ac yn ein helpu i gyflawni ein nod o gyrraedd cyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2023 – diolch i Lywodraeth Cymru am eu cyllid yn y maes hwn.
Os gofynnwyd amdanynt, anfonwyd pecynnau o hadau blodau gwyllt am ddim at staff a myfyrwyr i annog bioamrywiaeth, a gwnaethom hefyd rannu mwy am ein cynlluniau ar gyfer datblygu campws cyfeillgar i ddraenogod.
Gallwch nawr ddarllen ein strategaeth cynaliadwyedd amgylcheddol wedi’i diwygio ac rwy’n edrych ymlaen at gyflawni’r nodau newydd hyn trwy weithio gyda’n gilydd ar draws y Brifysgol.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014