Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Gohirio dechrau addysgu wyneb yn wyneb ar gyfer y mwyafrif o raglenni

7 Ionawr 2021

Darllenwch neges gan yr Is-Ganghellor a anfonwyd at y staff heddiw (7 Ionawr 2021).

Annwyl gydweithiwr

Yn fy ebost diwethaf, addewais y baswn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi cyn gynted â phosibl.

Rwyf yn ysgrifennu nawr i roi gwybod ein bod wedi penderfynu gohirio addysgu wyneb yn wyneb ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni (ac eithrio rhaglenni ymarferol a’r rhai sy’n gysylltiedig ag iechyd lle mae angen gweithgaredd ar y campws i fodloni deilliannau dysgu’r rhaglenni) tan Chwefror 22 yn y lle cyntaf. Byddwn yn adolygu’r sefyllfa cyn y dyddiad hwnnw i wneud yn siŵr bod pawb yn cael gwybod ymlaen llaw pryd y bydd yn bosibl ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb.

Mae’r penderfyniad hwn yn cael ei roi ar waith ar unwaith.

Bydd rhagor o fanylion ar gael cyn gynted â phosibl am sut y bydd hyn yn effeithio ar raglenni addysgu, a bydd cyfleusterau’r Brifysgol (gan gynnwys labordai ymchwil, ac ati) yn parhau i fod ar agor yn amodol ar asesiadau risg.

Rydym wedi cymryd y cam hwn oherwydd yr ansicrwydd a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r amrywiad newydd a’r ffaith ei fod yn trosglwyddo’n haws, ac rwyf yn ymwybodol o’r pryder y gall yr ansicrwydd hwn ei achosi ymhlith staff a myfyrwyr. Nid oes unrhyw reswm i gredu nad yw’r mesurau diogelwch sydd ar waith gennym yn ddigonol ar gyfer yr amrywiad newydd, ac nid oes unrhyw dystiolaeth o drosglwyddo mewn lleoliadau addysgu. Fodd bynnag, mae angen amser arnom i adolygu ein hasesiadau risg a chynnal dadansoddiad pellach o’r posibilrwydd o drosglwyddo ymhlith myfyrwyr a staff y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Bydd addysgu ar-lein am y tro ar gyfer y rhaglenni lle mae hynny’n bosibl yn rhoi’r cyfle hwnnw inni.

Mae’r cyngor arbenigol mewnol yr wyf yn ei gael yn cefnogi’r dull hwn, ac mae trafodaethau ac ymgynghoriadau eang o fewn y Brifysgol yn dweud wrthyf fod y mwyafrif llethol o blaid cymryd camau gofalus o dan yr amgylchiadau presennol.

Bydd oedi cyn ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb yn gyffredinol yn rhoi’r cyfle inni ganolbwyntio ein hymdrechion a’n hadnoddau ar y meysydd hynny lle mae addysgu wyneb yn wyneb yn parhau i fod yn angenrheidiol. Ar ben hynny, byddwn yn gallu cefnogi’r nifer fawr o fyfyrwyr sydd yng Nghaerdydd o hyd neu a allai fod yn awyddus i ddychwelyd er mwyn parhau i ddefnyddio llyfrgelloedd a chyfleusterau astudio eraill. I fod yn glir, mae Llywodraeth Cymru a’r DU wedi cadarnhau bod teithio at ddibenion addysgol yn esgus rhesymol dros deithio.

Byddwn yn rhoi rhagor o fanylion cyn gynted â phosibl (ac yn cyfathrebu â myfyrwyr mewn ffyrdd tebyg) ond roeddwn i am roi gwybod i chi am y penderfyniad hwn cyn gynted â phosibl er mwyn i gydweithwyr allu dechrau cymryd camau i roi’r newidiadau angenrheidiol ar waith.

Diolch yn fawr iawn am eich amynedd a’ch dealltwriaeth. Yn ôl yr arfer gyda’r coronafeirws, rydym yn wynebu sefyllfa sy’n newid yn gyflym a llawer o ansicrwydd. Fodd bynnag, bydd defnyddio’r dull hwn yn rhoi mwy o amser i’r rhaglen frechu ddod i rym. Bydd hefyd yn ein galluogi i ddeall y datblygiadau newydd hyn yn well ac yn lleihau’r ansicrwydd sy’n ein hwynebu.

Cofion gorau,

Colin Riordan
Is-Ganghellor