Diweddaru’r profion a chydweithrediad GIG Cymru
16 Hydref 2020Darllenwch neges a anfonodd yr Is-Ganghellor at yr holl staff heddiw (16 Hydref 2020).
Annwyl gydweithiwr
Rwy’n ysgrifennu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y sefyllfa gyda’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr cartref yng Nghaerdydd ac addysgu wyneb yn wyneb yn digwydd ar draws ein Hysgolion academaidd. Cyn sôn am unrhyw beth arall, hoffwn ddiolch i bawb am eich ymrwymiad a’ch ymroddiad er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau i roi’r profiad dysgu ac addysgu gorau i’n myfyrwyr. Rwy’n gwybod cymaint mae ein myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth sy’n cael ei rhoi iddynt. Rwy’n gwybod hefyd pa mor ymwybodol ydynt o’n hymdrechion i sicrhau eu bod yn gallu profi cymaint o fywyd brifysgol â phosibl o ystyried yr amgylchiadau eithafol yr ydym i gyd yn byw ac yn gweithio ynddynt. Rydym yn gwneud popeth drwy gydweithio’n agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwneud pob penderfyniad allweddol o ran polisïau drwy ymgynghori â nhw ac, yn amlwg, rydym bob amser yn parhau i gadw at reoliadau Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â’r coronafeirws.
Rwy’n pwysleisio’r elfen hon o weithio mewn partneriaeth oherwydd mae’n bwysig cydnabod — yng nghyd-destun yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yr ochr arall i Glawdd Offa dros yr wythnosau diwethaf — pa mor wahanol yw dull rheoli’r pandemig yn y Brifysgol hon, yn ninas Caerdydd, ac yng Nghymru’n fwy cyffredinol.
Yn gyntaf, mae Tasglu Coronafeirws Prifysgol Caerdydd wedi gweithio’n galed dros ben er mwyn sicrhau bod ein campws mor ddiogel â phosibl at ddibenion addysgu. Mae’r grŵp arbenigol wedi ystyried pob ffactor, gan gynnwys erosolau, defnynnau a ffomid, ac mae wedi sicrhau bod yr holl fesurau posibl wedi’u cymryd i atal yr haint rhag lledaenu. Rwy’n meddwl y gallwn fod yn hyderus bod y risg o heintio yn ein hystafelloedd addysgu yn isel iawn. Mae hyn yn wir cyn belled ein bod yn dal ati i gadw pellter cymdeithasol, gorchuddio wynebu lle bo’n briodol ac yn golchi dwylo, yn enwedig wrth gael egwyl y tu allan i’r ystafell ddosbarth, wrth ryngweithio’n gymdeithasol neu wrth gerdded o gwmpas adeiladu gydag eraill. Dyma neges a glywodd uwch-staff ddydd Mawrth gan gydweithwyr sy’n gweithio mewn partneriaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a Phrofi, Olrhain, Diogelu Cyngor Caerdydd. Fe wnaethant bwysleisio hefyd mai mewn tai a lleoliadau cymdeithasol sydd heb ragofalon covid digonol y mae’r haint yn lledaenu’n bennaf.
Yn ail, fe gofiwch i lefel uwch o gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu cyflwyno yn ardal Caerdydd ar 27 Medi. Roedd y rhain yn mynnu nad oedd aelwydydd i gymysgu mewn cartrefi preifat neu mewn lleoliadau lletygarwch. Roeddent hefyd yn cynghori yn erbyn teithio i mewn ac allan o’r ardal, oni bai ar gyfer gwaith, addysg neu ystod gyfyngedig o resymau hanfodol eraill. Y mesurau hyn, a rhai eraill, yw’r mesurau sy’n cael eu cyflwyno mewn rhai ardaloedd yn Lloegr ar hyn o bryd.
Yn drydydd, ac yn bwysig, mae’r system Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru wedi cael ei chynnal gan awdurdodau lleol yn cydweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru o’r cychwyn cyntaf. Mae’r dull hwn yn defnyddio timau profiadol lleol sy’n gweithio mewn modd cydlynol. Nid yw Cymru wedi defnyddio darparwr preifat canolog i gyflwyno’r system Profi, Olrhain a Diogelu, ac mae gan y Brifysgol berthynas wych gyda Thîm Profi, Olrhain a Diogelu Cyngor Caerdydd.
O ganlyniad i’n perthynas waith agos gyda’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu, pan welwyd cynnydd yn nifer yr achosion ymhlith myfyrwyr yn ein preswylfeydd yn Nhal-y-bont, roeddent yn gallu cynnig tîm o nyrsys yn ddiymdroi. Ers y penwythnos, mae’r tîm hwn wedi cynnal dros 1,200 o brofion swab yn ogystal â sefydlu uned profion symudol fore Llun. Mae ein gwasanaeth sgrinio mewnol ar gael hefyd yn Nhal-y-bont, gan olygu bod gennym, rhyngom, adnoddau unigryw yn y DU. Nid oes gan unrhyw brifysgol arall, na lleoliad arall o ran hynny, uned profion bwrpasol ar gyfer myfyrwyr yn unig, ac ychydig iawn sy’n gallu gweinyddu profion poer asymptomatig ar yr un raddfa â Gwasanaeth Sgrinio Prifysgol Caerdydd (500+ y dydd, gyda’r adnoddau ar fin cynyddu). Fe ysgrifennodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr, at fyfyrwyr yn amlinellu’r opsiynau profi sydd gael ar eu cyfer ddoe.
Mae canlyniadau’r gwasanaethau profi wedi’u cynnwys yn y ffigurau rydym yn eu rhannu’n ddyddiol am nifer yr achosion o’r coronafeirws sydd wedi’u cadarnhau ymhlith ein staff a’n myfyrwyr.
Rwyf yn ymwybodol y gallai profi a sgrinio ar y fath raddfa gynyddu pryderon ymhlith rhai o’n cydweithwyr ynghylch addysgu wyneb yn wyneb. Er bydd ein rhaglen sgrinio yn rhoi data gwerthfawr i ni am ba mor gyffredin yw’r feirws ac yn ein galluogi i ymyrryd yn gyflymach ac mewn ffyrdd llawer mwy effeithiol na’r mesurau cyffredinol sydd eu hangen pan nad oes gweithdrefn ddigonol o brofi ac olrhain, mae’n golygu y daw mwy o achosion i’r amlwg. Dylai’r ffaith ein bod yn gwybod am ba mor gyffredin yw’r feirws dawelu meddyliau i raddau gan ei fod yn galluogi myfyrwyr a’u cyd-letywyr i hunanynysu. Mae hyn ddiogelu’r campws ac yn atgyfnerthu diogelwch rhag covid, fel yn yr enghraifft yn Nhal-y-bont uchod.
Byddai gohirio addysgu wyneb yn wyneb, neu ei atal yn gyfan gwbl, yn creu anfanteision a risgiau o bwys. Rhaid i ni osgoi sefyllfa lle gallai myfyrwyr deimlo y byddai’n well ganddynt fynd adref, gan arwain at y posibilrwydd o ledaenu’r haint ledled y wlad. Nid oes unrhyw dystiolaeth y byddai osgoi ystafelloedd dosbarth yn gostwng cyfraddau heintio yn sylweddol o ystyried y mesurau rydym wedi’u rhoi ar waith. Mae’n bwysig hefyd cofio’r materion iechyd eraill i’w hystyried ar wahân i’r coronafeirws, yn enwedig iechyd meddwl ein myfyrwyr. Gallai gohirio dros dro roi mwy o amser i gymryd camau pellach, ond nid yw’n glir beth fyddai’r camau hynny. Ar yr un pryd, gallai’r effeithiau negyddol ar fyfyrwyr o ganlyniad i golli strwythur a rhyngweithio personol fod yn fwy niweidiol.
Mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr wedi dod i Gaerdydd i elwa ar brofiad dysgu cyfunol o’r radd flaenaf. I rai, mae hyn yn dilyn haf o gwblhau eu Safon Uwch mewn modd a fyddai wedi bod yn gwbl wahanol i’r hyn yr oeddent wedi’i obeithio amdano. Mae’r pandemig wedi tarfu’n aruthrol ar addysg a datblygiad y genhedlaeth hon yn benodol mewn sawl ffordd. Dylem werthfawrogi bod y mwyafrif llethol o’n myfyrwyr yn dilyn y mesurau a’r canllawiau diogelwch. Mae Tasglu’r Coronafeirws yn hyderus y bydd ein gwasanaeth sgrinio, ochr yn ochr â gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Caerdydd, yn arwain at ostyngiad yn nifer yr achosion maes o law yn dilyn y cynnydd cychwynnol hwn. Er ei bod yn anochel y bydd nifer fawr o’n myfyrwyr yn hunanynysu am bythefnos ar y tro, gall y rhai nad ydynt yn gorfod gwneud hynny fyw eu bywydau fel arfer o fewn y canllawiau a’r gyfraith, a dylai’r niferoedd sy’n hunanynysu ostwng hefyd.
Rwy’n gwybod y byddai’n ddefnyddiol pe gallai staff glywed yn uniongyrchol gan yr arbenigwyr iechyd cyhoeddus yr ydym yn cydweithio’n agos â nhw. Felly, rwy’n falch y bydd y cydweithwyr hynny yn gallu ymuno â ni ar gyfer gweminar i’r holl staff:
- Dr Gwen Lowe, Ymgynghorydd mewn Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Ms Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Ms Isabelle Bignall, Profi, Olrhain a Diogelu, Cyngor Caerdydd
Byddwch eisoes wedi cael gwahoddiad brynhawn Mercher gyda chyfarwyddiau ynghylch sut i ymuno. Gallwch anfon cwestiynau perthnasol ymlaen llaw at internalcomms@caerdydd.ac.uk cyn 12:00 ddydd Mawrth, 20 Hydref. Gallwch ofyn cwestiynau yn ystod y gweminar hefyd, a chaiff ei recordio ar gyfer y rhai sy’n methu ei gwylio’n fyw.
Rwy’n ddiolchgar iddynt am gytuno i siarad â’n staff. Bydd y gweminar yn rhoi’r cyfle i holi arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus yn uniongyrchol. Gyda lwc, byddwn yn gallu tawelu meddyliau’r rhai sy’n poeni drwy ddangos ein bod yn dod o hyd i’r cydbwysedd rhwng sicrhau diogelwch staff a myfyrwyr a rheoli lledaeniad y feirws, heb orfod rhoi mesurau cyffredinol ar waith a allai gael effeithiau negyddol difrifol.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014