Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Ebost i’r holl fyfyrwyr ym mhreswylfeydd Tal-y-bont ynghylch yr Uned Profion Symudol

12 Hydref 2020
Claire Morgan

Annwyl Fyfyriwr

Ddydd Gwener, fe rannais neges a anfonais at fyfyrwyr sy’n byw yn Ne Tal-y-bont er mwyn gwneud yn siŵr eich bod i gyd yn ymwybodol o’r mesurau ychwanegol rydym yn eu cymryd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i’n cadw ni i gyd mor ddiogel â phosibl.

Dros y penwythnos, fe gytunwyd y byddem hefyd yn cynnig prawf i unrhyw fyfyriwr sy’n byw yn unrhyw ran o Dal-y-bont sydd â symptomau’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r neges i hysbysu myfyrwyr yn Nhal-y-bont ynglŷn â’r datblygiad hwn i’w gweld isod er gwybodaeth. Bydd rhaid i unrhyw fyfyriwr sy’n profi’n bositif hunan-ynysu, a gallwch weld sut byddwn yn eu cefnogi yma (https://intranet.cardiff.ac.uk/students/health-and-wellbeing/coronavirus/self-isolation).

Mae hyn yn parhau i fod yn rhan o’r dull rhagweithiol y gwnes i sôn wrthych amdano ddiwedd yr wythnos ddiwethaf. Mae pethau’n newid o hyd ac, wrth gwrs, byddaf yn parhau i gyfathrebu’n rheolaidd ac yn agored â chi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â’r gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr: studentconnect@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)29 2251 8888.

Dymuniadau gorau

Claire Morgan

Annwyl Breswylydd,

Cysylltais â’r holl fyfyrwyr drwy ebost ddydd Gwener i roi gwybod iddynt am y profion coronafeirws (COVID-19) sy’n cael eu cynnal yn Ne Tal-y-bont.  Mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym wedi cytuno erbyn hyn i gynnal rhagor o brofion ar draws holl neuaddau preswyl Tal-y-bont.

Felly, rydym yn ysgrifennu i roi gwybod y bydd Uned Profion Symudol, a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn Nhal-y-bont rhwng 9.00 a 17.00, gan ddechrau fore Llun.

Profi’r rhai sydd â symptomau’r coronafeirws (COVID-19)

Dylai unrhyw fyfyriwr sy’n byw yn byw mewn neuadd breswyl ym Nhal-y-bont sydd â symptomau’r coronafeirws (COVID-19) drefnu prawf ar gyfer eu hunain ar unwaith. Caiff apwyntiadau eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

Os ydych eisoes wedi cael eich profi gan y tîm o nyrsys cymunedol sydd yn Ne Tal-y-bont y penwythnos hwn, neu wedi cael ebost i ddweud y cewch eich profi heddiw, nid oes angen i chi gael ail brawf.

Bydd Uned Profion Symudol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y cyfleusterau newid awyr agored ger y neuadd chwaraeon a’r meysydd awyr agored yng Ngogledd Tal-y-bont. Dyma’r Uned Profion gyntaf yn y DU y cytunwyd arni i’w defnyddio gan fyfyrwyr yn unig. Mae’n rhan o gyfres o fesurau rhagofalus ac ataliol i nodi’r feirws yn well a helpu i’w atal rhag lledaenu a’ch cadw yn ddiogel. Yn unol â chanllawiau blaenorol y llywodraeth, peidiwch â theithio adref, a chodi’r risg o ledaenu’r feirws ymhlith eich teulu neu ofalwyr.

Mae’n ofnadwy o bwysig eich bod yn cefnogi’r gwaith ac yn cydymffurfio’n llawn. Mae’r Brifysgol yn gwbl hyderus eich bod yn cydnabod pa mor bwysig yw hyn i’ch lles a’r gymuned rydych yn byw ynddi, ac y byddwch yn gweithio gyda ni a’n partneriaid yn y GIG.

Os byddwch yn profi’n bositif, bydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a’r Fro yn cysylltu â chi. Bydd swyddog olrhain cysylltiadau yn eich ffonio o’r rhif 02921 961133 yn unig. Byddant yn gofyn i chi am eich iechyd, pwy rydych wedi bod mewn cysylltiad ag ef/hi yn ddiweddar a ble rydych wedi bod. Mae’n bwysig eich bod yn ateb yn onest ac yn darparu cymaint o wybodaeth ag y gallwch chi. Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio at ddibenion olrhain cysylltiadau ar gyfer y GIG yn unig.

Ni fydd swyddog olrhain cysylltiadau byth yn gofyn i chi wneud unrhyw daliad, ffonio rhif cyfradd premiwm, roi manylion eich cyfrif banc, roi cyfrineiriau na PINs, na lawrlwytho unrhyw feddalwedd. 

Gwasanaeth sgrinio i’r rhai heb symptomau

Ar ben hynny, bydd gwasanaeth sgrinio’r Brifysgol ar gyfer y rhai ohonoch sydd â symptomau yn agor ddydd Mawrth. Bydd rhagor o fanylion ar gael maes o law am sut bydd y gwasanaeth sgrinio yn gweithredu yn Nhal-y-bont.

Hunan-ynysu

Darllenwch y wybodaeth am y gefnogaeth rydym yn ei chynnig i’r rheiny sy’n hunan-ynysu gan gynnwys gwasanaeth golchi dillad newydd i’r rheiny sydd ym mhreswylfeydd y Brifysgol.

Bydd pob myfyriwr sy’n hunan-ynysu ym mhreswylfeydd y Brifysgol yn cael £20 hefyd i’w defnyddio ym marchnad y myfyrwyr er mwyn i chi allu cael bwyd ffres a hanfodion eraill. Byddwn yn rhannu manylion am hyn cyn bo hir ac yn diweddaru’r wybodaeth am hunan-ynysu ar ein mewnrwyd cyn gynted â phosibl.  

Ceir hefyd nodyn atgoffa pwysig bod angen i chi sicrhau bod eich gwybodaeth ar SIMS wedi’i diweddaru. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn gallu parhau i gael mynediad at eich adnoddau dysgu.

Rydym yn eich annog i barhau i ddilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru a lawrlwytho ap COVID-19 y GIG sy’n eich galluogi i gadarnhau eich symptomau, trefnu prawf os oes angen un, mewngofnodi i leoliadau, a rheoli eich cyfnod hunan-ynysu. Ar nodyn perthnasol, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny – cofrestrwch â meddyg teulu lleol.

Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar fewnrwyd y myfyrwyr ac ar ein gwefan. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â’r gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr: studentconnect@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)29 2251 8888.

Yn olaf, diolch i chi am cydweithrediad wrth i ni weithio gyda’n partneriaid yn y GIG ar iechyd a diogelwch cymuned y myfyrwyr.

Dymuniadau gorau

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr