Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Rhagor o brofion ym mhreswylfeydd y Brifysgol

9 Hydref 2020
Claire Morgan

Annwyl Fyfyriwr,

Rwyf yn ysgrifennu atoch er mwyn eich gwneud yn ymwybodol o gynnydd yn y profion coronafeirws (COVID-19) a gynhelir yn un o Breswylfeydd ein Prifysgol. Peidiwch â gadael i fy ebost eich dychryn, fy nod yw rhoi sicrwydd i chi ein bod yn gwneud popeth posibl i flaenoriaethu iechyd a diogelwch cymuned ein prifysgol.

Mewn cydweithrediad â thîm Profi, Olrhain a Diogelu y GIG rydym wedi cytuno ar gynnig prawf coronafeirws (COVID-19) gwirfoddol y GIG i fyfyrwyr yn rhai o’n preswylfeydd yn Ne Tal-y-Bont.

Mae hyn yn dilyn cynnydd yn y profion positif a myfyrwyr yn hunan-ynysu yn y preswylfeydd penodol hyn. Efallai y byddwch yn gweld nyrsys cymunedol ar y safle y penwythnos hwn, mewn cyfarpar diogelu personol, gyda chefnogaeth yr Uned Profi Symudol.

Rwy’n deall y gall y newyddion hyn beri pryder i breswylwyr eraill yn Nhal-y-bont a’n myfyrwyr yn fwy cyffredinol. O ganlyniad, rwy’n awyddus i bob myfyriwr fod yn ymwybodol o’r cynnydd hwn yn y profion, ac i roi gwybod i chi am sut rydym yn rheoli’r sefyllfa. Felly, rwy’n rhannu’r llythyr isod sy’n cael ei anfon at bob un o’r myfyrwyr hynny sydd wedi’u heffeithio.

Noder nad yw hyn yn golygu ‘cyfnod clo’ fel rydym wedi’i weld mewn rhai Prifysgolion eraill, yn hytrach mae hyn yn fesur mwy cyfyngedig, rhagweithiol er mwyn ein helpu i reoli lledaeniad y feirws er diogelwch a lles ein myfyrwyr a’r gymuned ehangach.

Copi o’r llythyr sy’n cael ei anfon at fyfyrwyr a effeithiwyd yn Ne Tal-y-bont

Annwyl Breswylydd

Rydym yn ysgrifennu i roi gwybod i chi y bydd nyrsys cymunedol o dîm Profi, Olrhain, Diogelu y GIG ar safle De Tal-y-Bont heddiw (ddydd Gwener 9 Hydref) a thros y diwrnodau nesaf.

Rydym yn cysylltu’n barhaus o hyd â’n partneriaid yn y GIG ac rydym yn ymwybodol o gynnydd yn nifer y preswylwyr yn Ne Tal-y-Bont sy’n hunan-ynysu a chynnydd yn nifer yr achosion a gadarnhawyd gan y GIG o’r coronafeirws (COVID-19).

O ganlyniad, bydd tîm o nyrsys cymunedol yn ymweld â’r safle o heddiw ymlaen a byddant ar y safle dros y diwrnodau nesaf. Nid oes angen pryderi. Gofynnir i chi gymryd prawf coronafeirws (COVID-19) gwirfoddol y GIG a hunan-ynysu tan eich bod yn gwybod canlyniad y prawf, neu tan ddiwedd eich cyfnod hunan-ynysu gwreiddiol os yw’n hirach.

Byddant wrth law i drafod unrhyw bryderon neu gwestiynau y gall fod gennych am y prawf. Bydd angen i chi roi gwybod i’r Brifysgol eich bod yn hunan-ynysu drwy SIMS a rhoi gwybod i ni am ganlyniad eich prawf.

Hoffwn eich sicrhau mai mesur rhagofalus ac ataliol yw hwn er mwyn gallu nodi lledaeniad y feirws yn well a helpu i’w atal, ac ynghyd â mesurau eraill rydym wedi’u rhoi ar waith, i’ch cadw’n ddiogel. Yn unol â chanllawiau blaenorol y llywodraeth, peidiwch â theithio adref, a chodi’r risg o ledaenu’r feirws.

Nid ‘cyfnod clo’ yw hwn ac mae’n berthnasol i flociau neu dai penodol yn Ne Tal-y-bont yn unig.

Mae’n andros o bwysig eich bod yn cefnogi’r gwaith ac yn cydymffurfio’n llawn. Gallwn eich sicrhau mai eich lles yw ein blaenoriaeth.  Mae’r Brifysgol yn gwbl hyderus eich bod yn cydnabod pa mor bwysig yw hyn i’ch lles a’r gymuned rydych yn byw ynddi.

Os byddwch yn profi’n bositif efallai y bydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a’r Fro yn cysylltu â chi. Bydd swyddog olrhain cysylltiadau yn eich ffonio o’r rhif 02921 961133 yn unig. Byddant yn gofyn i chi am eich iechyd, pwy rydych wedi bod mewn cysylltiad ag ef/hi yn ddiweddar a ble rydych wedi bod. Mae’n bwysig eich bod yn ateb yn onest ac yn darparu cymaint o wybodaeth ag y gallwch chi. Mae hwn yn nodyn atgoffa pwysig bod angen i chi gadw i ddiweddaru eich gwybodaeth ar SIMS.

Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio at ddibenion olrhain cysylltiadau ar gyfer y GIG yn unig.

Ni fydd swyddog olrhain cysylltiadau byth yn gofyn i chi wneud unrhyw daliad, ffonio rhif cyfradd premiwm, roi manylion eich cyfrif banc, roi cyfrineiriau na PINs, na lawrlwytho unrhyw feddalwedd.

Mae’n flin gennym am yr anghyfleustra y bydd hwn yn ei achosi ond rydym yn gofyn i chi weithio gyda ni a’n partneriaid yn y GIG er budd eich iechyd a chymuned ehangach y myfyrwyr.

Yn olaf, rydym yn eich annog i barhau i ddilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru a lawrlwytho ap COVID-19 y GIG sy’n eich galluogi i gadarnhau eich symptomau, trefnu prawf os oes angen un, mewngofnodi i leoliadau, a rheoli eich cyfnod hunan-ynysu. Ar nodyn perthnasol, os nad ydych eisoes – cofrestrwch â meddyg teulu lleol.

Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar eingwefan a mewnrwyd y myfyrwyr.

Yn gywir,

Claire Morgan 
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr