Gwasanaeth Profi’r Brifysgol a’r cymorth sydd ar gael
5 Hydref 2020Darllenwch neges gan Claire Morgan, y Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd heddiw (5 Hydref) ynghylch gwasanaethau sgrinio, ble i gael cefnogaeth ac ymddygiad myfyrwyr.
Annwyl Fyfyriwr,
Ysgrifennais atoch ddiwethaf yn syth ar ôl y cadarnhad bod cyfyngiadau lleol yn cael eu rhoi ar waith yng Nghaerdydd ddydd Sul 27 Medi. Gwn y gallai’r mesurau newydd hyn fod wedi ychwanegu at eich pryderon. I eraill, rwy’n gwybod eich bod yn benderfynol o wneud y gorau o’ch profiad fel myfyriwr.
Croeso (‘nôl)
Yn neges heddiw, rwy’n falch iawn nawr o groesawu myfyrwyr newydd i Brifysgol Caerdydd, ac i’r myfyrwyr hynny sy’n dychwelyd, croeso yn ôl i gam nesaf eich rhaglen. Bûm yn lwcus o weld rhai ohonoch yn cyrraedd neuaddau preswyl yr wythnos ddiwethaf ac yn ymrestru’r wythnos hon. Nid dyma’r bywyd Prifysgol yr oeddem wedi’i ddychmygu, ond rwy’n falch iawn o weld cynifer ohonoch yn dechrau neu’n ail-ddechrau eich teithiau prifysgol.
Mae adborth o Sesiynau Ymsefydlu’r Ysgolion hyd yn hyn yn gadarnhaol, a dylid eich canmol am yr ymgysylltiad rhagorol â phrofiad gwahanol iawn o’r Brifysgol, ac i’r myfyrwyr hynny sydd wedi bod ar y campws, mae tystiolaeth o bellter cymdeithasol a chanllawiau eraill yn cael eu dilyn.
Ymddygiad myfyrwyr
Cafwyd rhai digwyddiadau ynysig mewn neuaddau, a hoffwn eich atgoffa o’n hymrwymiad cymunedol i ddilyn y canllawiau a’r mesurau diogelwch, i ddiogelu eich iechyd eich hun ac iechyd pobl eraill o’ch cwmpas. Mae’r newyddion yn llawn straeon sy’n dangos beth allai ddigwydd nesaf os na fydd y canllawiau’n cael eu dilyn. Diolch ymlaen llaw am eich cefnogaeth barhaus i’r ymrwymiad hwn.
Ble i gael cefnogaeth
I’r rheini ohonoch sy’n teimlo’n bryderus, efallai’n ansicr ynghylch gadael eich llety, rwy’n eich sicrhau ein bod ni fel Prifysgol yn gwneud y gorau i fod yno i chi.
Bwriad cyhoeddiad dydd Gwener o gyfyngiadau lleol yng Nghaerdydd yw ein helpu ni i gyd i gadw’n ddiogel , gan gynnwys y gymuned leol. Mae hefyd yn caniatáu i chi brofi cymaint o fywyd ‘myfyriwr arferol’ â phosibl. Mae’r Brifysgol a’i chyfleusterau gan gynnwys ein llyfrgelloedd, caffis/bwytai a chyfleusterau chwaraeon yn parhau ar agor, er mewn ffordd wahanol. Mae siopau, bariau a bwytai i gyd ar agor yn y ddinas. Ac rydym wedi gwneud ymdrech eithriadol i sicrhau y gallwch gael addysg wyneb yn wyneb yn ddiogel, ac osgoi bod yn ‘gyswllt‘ ag unrhyw un y tu allan i’ch cartref neu lety. Mae’r erthygl newyddion hon yn nodi’r hyn y gallwch chi ei wneud i gyfyngu ar y siawns o ddal neu ledaenu’r coronafeirws (COVID-19), sut i helpu eraill, osgoi gorfod hunan-ynysu, neu gyfrannu at osod mwy o gyfyngiadau.
Os oes angen cymorth arnoch gallwch siarad â’ch Tiwtor Personol, aelod o Dîm y Rhaglen neu Swyddfa eich Ysgol. Fel arall, gallwch gysylltu â ‘Cyswllt Myfyrwyr‘ drwy:
- ebost: studentconnect@caerdydd.ac.uk
- ffôn: +44 (0)29 2251 8888
- gofyn eich cwestiynau i’r sgyrsfot 24/7 pan welwch y botwm sgwrsio glas a gwyn yng nghornel dde isaf eich sgrîn ar fewnrwyd y myfyrwyr
Sgrinio
Os ydych eisoes yng Nghaerdydd, rydym hefyd wedi cyflwyno dull newydd er mwyn i fyfyrwyr allu roi gwybod os oes ganddynt symptomau’r coronafeirws (COVID-19) neu wedi cael prawf positif wedi’i gadarnhau. Cewch hyd i hwn yn SIMS ar-lein – Rhowch wybod am brawf positif COVID-19 a gawsoch gyda’r GIG neu os oes gennych symptomau. Bydd rhoi’r wybodaeth hon i ni yn golygu y gallwn gysylltu â gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu y GIG i’ch cadw chi a’r rhai o’ch cwmpas mor ddiogel â phosibl, a sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch yn academaidd ac o safbwynt lles os oes rhaid i chi hunan-ynysu.
Yn olaf, efallai fod rhai ohonoch wedi gweld y llythyr agored ysgrifennodd yr Is-Ganghellor Colin Riordan a minnau’r wythnos diwethaf at eich rhieni/gofalwyr. Cymerwyd y cam hwn i geisio eu sicrhau mai eich addysg a’ch diogelwch yw ein prif flaenoriaeth – rhywbeth rwy’n gobeithio sy’n cael ei gyfleu hefyd yn y negeseuon hyn.
Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014