Cyfyngiadau lleol ychwanegol oherwydd y coronafeirws
25 Medi 2020Mae Llywodraeth Cymru wedi ein cynghori y bydd cyfyngiadau lleol ychwanegol yng Nghaerdydd oherwydd y coronafeirws. Daw mesurau newydd i rym o 18.00 ar 27 Medi 2020.
Eu diben yw diogelu iechyd pobl a chyfyngu ar ledaeniad y feirws. Fel rhan o’r gymuned leol, mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae o ran cefnogi’r mesurau eithriadol hyn.
Goblygiadau uniongyrchol y cyfyngiadau newydd
Mae’r cyfyngiadau ychwanegol wedi’u cyflwyno yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion a gadarnhawyd o’r coronafeirws (COVID-19) yn lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y mesurau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd wrth i’r sefyllfa ddatblygu, ac yn parhau i fod mewn cysylltiad cyson â Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ar hyn o bryd gallwn gadarnhau’r canlynol:
- Bydd lleoliadau addysgol, gan gynnwys prifysgolion, yn parhau i fod ar agor a gall dosbarthiadau gael eu cynnal. Bydd cyfleusterau ymchwil yn parhau i fod ar agor ac ar gael hefyd hyd nes y cawn rybudd pellach.
- Os nad oes gennych symptomau (ac nid ydych yn gorfod hunan-ynysu) gallwch deithio i’n campws o hyd er mwyn gweithio, gan gynnwys addysgu ac ymchwil (lle cytunwyd ar hynny’n flaenorol gyda’ch rheolwr llinell).
Cefnogi ein gilydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad hwn er budd iechyd y cyhoedd. Disgwyliwn i’n holl staff (a’n myfyrwyr) gydymffurfio â’r cyfyngiadau ychwanegol, a’r canllawiau ehangach, sydd ar waith. Mae’r disgwyliad hwn yn rhan allweddol o’n hymrwymiad cymunedol.
Yn amlwg, rwyf i a’m cyd-aelodau o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol yn cydnabod y gallai hyn achosi braw a/neu anghyfleustra ychwanegol, ac mae gwybodaeth, adnoddau a llinellau cymorth ar gael i’ch cefnogi yn ystod pandemig y Coronafeirws (COVID-19).
Byddwn yn parhau i adolygu’r sefyllfa, a byddaf mewn cysylltiad eto pan fydd datblygiadau pellach.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014