Datganiad ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr
25 Mehefin 2020Annwyl Fyfyriwr
Yr wythnos ddiwethaf fe dderbynioch chi ebost yn amlinellu’r gefnogaeth sydd ar gael i chi yng nghyd-destun protestiadau diweddar, yn ogystal â’r addewid o fanylion ynghylch ein mentrau cydraddoldeb hiliol.
Ers hynny, efallai eich bod wedi darllen am y pryderon a godwyd gan fyfyrwyr o’r Ysgol Deintyddiaeth. Mae ymchwiliad i’w pryderon bellach yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac rydym yn ymrwymedig i gefnogi Pennaeth newydd yr Ysgol wrth iddo weithredu’r argymhellion a godir. Rydym yn annog unrhyw fyfyriwr yn y Brifysgol sydd â phryderon tebyg i leisio ei farn, naill ai drwy roi gwybod amdanynt i’w Hysgol neu i’r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau, fel y gellid ymchwilio i honiadau o’r fath yn llawn.
Mae Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol yn benderfynol o weithio gyda’i gilydd i wella cydraddoldeb hiliol ar draws y Brifysgol. Bydd ein gweithredoedd yn sicrhau ein bod yn rym sy’n cefnogi newid, ac y gallwn chwarae ein rhan i sicrhau bod cymdeithas yn dod yn lle tecach.
Cofion,
Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr a Jackie Yip, Llywydd Undeb y Myfyrwyr
Sut gallwch gymryd rhan
Rydym yn cydnabod bod mwy o waith i’w wneud i gefnogi cydraddoldeb hiliol yn y Brifysgol hon, ac yn credu ei bod yn hanfodol bod ein myfyrwyr yn cymryd rhan ym mhob cam o’r broses. Rydym wrthi yn chwilio am fwy o gynrychiolwyr myfyrwyr ac yn gobeithio y byddan nhw’n agored ac yn onest am eu profiadau. Isod gallwch weld lle mae angen mewnbwn myfyrwyr ar hyn o bryd. Sylwer nad oes angen unrhyw brofiad o fentrau tebyg.
Gweithgor Myfyrwyr Cydraddoldeb Hiliol
Mae’r gweithgor hwn yn hyrwyddo cydraddoldeb i fyfyrwyr o gymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd ethnig (BAME), drwy gynnwys ac ymgynghori ar gynlluniau, strategaethau, polisïau, ymarfer newid sefydliadol ac arweiniad y Brifysgol. Bydd myfyrwyr sy’n ymuno yn helpu’r Brifysgol i feithrin diwylliant campws cyfan lle gall pob aelod o gymuned y Brifysgol gymryd rhan a chyflawni eu potensial ta waeth beth fo’u hethnigrwydd, eu hil neu eu cenedligrwydd.
Os hoffech gymryd rhan yn y grwp hwn cysylltwch â: Abyd Quinn-Aziz: quinnaziza@caerdydd.ac.uk
Siarad am Banel Trafod Cydraddoldeb Hiliol
Mae’r panel hwn yn hyrwyddo newid yn yr amgylchedd diwylliannol sy’n adlewyrchu profiadau amrywiol ein staff a’n myfyrwyr, gan ddarparu lle diogel hanfodol i gynnal sgyrsiau hanfodol am hil.
Mae Paneli Trafod Cydraddoldeb Hiliol yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn a chânt eu rhestru ar ein tudalen digwyddiadau ar y rhyngrwyd. Gallwch gofrestru eich diddordeb pan gaiff digwyddiadau eu rhestru gyda’r trefnwr: Susan Cousins: cousinss@caerdydd.ac.uk
Caffi Llyfrau BAME+
Mae Caffi’r Clwb Llyfrau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME)+ yn fenter sydd â’r nod o gefnogi amrywiaeth, hyrwyddo amgylchedd agored a chynhwysol ac adeiladu adeiladweithiau defnyddiol o brofiad myfyrwyr a staff BAME+.
Cynhelir Caffi Llyfrau BAME+ ddwywaith y flwyddyn yn seiliedig ar lyfrau a ddewiswyd gan Undeb y Myfyrwyr a chânt eu rhestru ar ein tudalen digwyddiadau ar y rhyngrwyd. Gallwch gofrestru eich diddordeb pan gaiff digwyddiadau eu rhestru gyda’r trefnwr: Susan Cousins: cousinss@caerdydd.ac.uk
Bydd mentrau a digwyddiadau yn y dyfodol yn cael eu hyrwyddo yn ystod y flwyddyn academaidd newydd drwy newyddion myfyrwyr ac mewn cydweithrediad ag Undeb y Myfyrwyr.
Gallwch hefyd gael gwybod am y camau ychwanegol sy’n cael eu cymryd i gefnogi cydraddoldeb hiliol yn y Brifysgol;
1. Grŵp Gorchwyl a Gorffen at y Bwlch Dyfarnu BAME
2. Panel Cynghori EDI allanol yr Is-gangellorionl
3. Mis Hanes Pobl Dduon
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014