Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Neges gan y Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr: 15.06.20

15 Mehefin 2020

Annwyl Fyfyriwr,

Mae’r wythnosau olaf hyn wedi bod yn rhai poenus dros ben ac wedi’n hatgoffa – os oedd angen gwneud hynny o gwbl – am yr anghyfiawnderau a’r arwahanu systematig y mae llawer o’n myfyrwyr, cydweithwyr a’r rheiny yn y gymuned ehangach yn eu profi – weithiau bob dydd.

Er i ni weld protestiadau fel hyn i’r blaen, mae bob diwrnod yn awgrymu y byddwn o’r diwedd o bosibl yn gweld y newid o bwys sydd ei angen. A minnau’n newydd i’r swydd, rwyf yn awyddus dros ben i ni fel Prifysgol fachu ar y cyfle hwn i roi newid ar waith, ac i gefnogi ein myfyrwyr yn llawn yn ystod y cyfnodau anodd hyn.

Y gefnogaeth sydd ar gael i chi

Eich lles chi, ein myfyrwyr, sy’n bwysig i mi ac rwy’n cydnabod y bydd llawer ohonoch wedi teimlo effeithiau’r digwyddiadau diweddar. I’r perwyl hynny, hoffwn amlinellu’r gefnogaeth sydd ar gael i’n myfyrwyr, gan y Brifysgol ac o ffynonellau eraill hefyd.

Mae ein Tîm Cefnogi a Lles Myfyrwyr yn cynnig ystod o wasanaethau proffesiynol a chyfrinachol sy’n cefnogi myfyrwyr. Mae’r rhain ar gael o bell yn ystod pandemig presennol y Coronafeirws, ac maent yn cynnwys:

  • Cefnogaeth benodol i’r rheiny sy’n profi camdriniaeth a/neu drais, gan gynnwys camdriniaeth hiliol, drwy ein Tîm Ymateb i Ddatgeliadau. Mae hyn yn cynnwys: cefnogaeth i reoli pryderon parhaus ynghylch diogelwch; cyswllt dros y ffôn neu ar-lein, i drafod eich profiad a’r holl opsiynau cefnogi sydd ar gael; cyngor ymarferol ar anghenion llety, ariannol ac academaidd; cefnogaeth os yw’r sawl sydd wedi bod yn dreisgar/camdriniol yn byw neu’n astudio gyda chi.
  • Model unigryw o gefnogaeth emosiynol a seicolegol, gan gynnwys cwnsela a sesiynau, gweithdai a grwpiau lles seicolegol. Drwy gydol y broses atgyfeirio bydd gennych y cyfle i drafod unrhyw ofynion neu beth allai fod yn well gennych, gan gynnwys siarad â rhywun BAME, siaradwr Cymraeg neu aelod staff benywaidd/gwrywaidd.
  • Talk Campus – sy’n eich galluogi i gysylltu ag eraill yn ddienw, gan roi gofod i chi drafod y materion sy’n effeithio arnoch gyda chymuned o fyfyrwyr o bob rhan o’r byd.
  • Yn olaf, os ydych yn teimlo bod digwyddiadau diweddar wedi effeithio ar eich perfformiad academaidd, gallwch gael rhagor o fanylion yma.

Hoffwn hefyd sôn bod Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) wedi casglu ystod dda o adnoddau a chanllawiau ymarferol.

Beth fyddwn ni’n ei wneud nesaf

Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi datganiad ar y cyd gydag Undeb y Myfyrwyr, yn amlinellu rhagor o fentrau a chefnogaeth mewn cysylltiad â materion cydraddoldeb hiliol. Yn y cyfamser, mae’r Ganolfan Cefnogaeth Addysg ac Arloesedd yn gweithio i sicrhau bod ein cwricwlwm, yn ogystal â’n hamgylcheddau dysgu, yn gynhwysol, ac i sicrhau nad ydynt yn rhoi unrhyw fyfyriwr dan anfantais. Yn hytrach, byddant yn eu galluogi nhw wrth astudio gyda ni. Mae hyn yn ategu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024.

Gobeithio bydd yr adnoddau hyn yn gallu rhoi lefel o gefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn. Fel soniodd yr Is-Ganghellor Colin Riordan yr wythnos ddiwethaf, rydym yn benderfynol: does dim lle i hiliaeth nac arwahanu yn ein cymdeithas fodern, ac mae’n rhaid i’n Prifysgol rhoi newid ar waith.

Dymuniadau gorau

Claire Morgan,
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr