Diweddariad i’n myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig gan Rhag Is-Gangellorion
2 Mehefin 2020Annwyl bawb,
Yn dilyn gohebiaeth flaenorol yr Is-Ganghellor, roeddem am ddiolch i chi am barhau i fod yn amyneddgar gyda’r symud i weithio o bell yn ystod cyfyngiadau symud Covid-19 y Brifysgol. Gwyddom i’r sefyllfa hon greu ansicrwydd i chi, ac mewn rhai achosion iddi effeithio ar waith ymchwil, fel casglu data, mynediad at labordai, ymweliadau astudio a recriwtio cyfranogwyr newydd i astudiaethau. Roedd hi’n allweddol i ni gymryd y cam hwn er mwyn gallu sicrhau eich diogelwch chi, yn ogystal â diogelwch ein staff a’n cyfranogwyr ymchwil, a hynny’n cyd-fynd â’r ymdrechion cenedlaethol i leihau lledaeniad Covid-19.
A ninnau bellach yn dechrau gweld cwymp yn nifer yr achosion, a’r marwolaethau, diolch byth, o Covid-19, roeddem eisiau ysgrifennu a rhoi diweddariad i chi am y camau yr ydym wedi’u rhoi yn eu lle yn barod i gefnogi ein myfyrwyr ôl-raddedig ymchwil, yn ogystal â’r camau y byddwn yn ceisio eu datblygu a’u rhoi ar waith wrth symud ymlaen.
Mesurau cefnogi sydd eisoes wedi’u rhoi ar waith
Wrth i ni symud yn gyflym i’r cyfyngiadau symud ym mis Mawrth, sylweddolon ni fod angen gwneud newidiadau i’r ffordd yr oeddem yn gweithio er mwyn rhoi cymorth yn syth i’n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Roedd y rhain yn cynnwys:
Cronfeydd Caledi: Sicrhau bod myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn gallu cael mynediad hawdd at Raglen Cymorth Ariannol y Brifysgolsy’n rhoi taliadau sy’n dibynnu ar brawf modd i fyfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol.
Arholiadau llafar: Caniatáu i draethodau ymchwil gael eu cyflwyno’n electronig a chynnig cyfle i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gynnal arholiadau llafar ar-lein os oedden nhw’n dymuno, gan sicrhau na fyddai unrhyw oedi o ran cwblhau eu hastudiaethau. Mae’r digwyddiadau ar-lein hyn wedi gweithio’n wirioneddol dda, ac rydym bellach yn ystyried sut gallem barhau i gynnig y dewis hwn i fyfyrwyr yn y dyfodol, fel y bo’n ofynnol.
Monitro Cynnydd Blynyddol: Cafodd y ffurflenni Monitro Cynnydd Blynyddol ar draws y Brifysgol eu diwygio, am y ddau reswm canlynol:
Yn gyntaf, roeddem eisiau sicrhau bod pob myfyriwr ôl-raddedig ymchwil yn parhau i gael cymorth academaidd a phersonol effeithiol tra oedden nhw’n gweithio o bell. Roedd hyn yn cynnwys eich helpu i ddiwygio eich cynlluniau ymchwil i liniaru unrhyw effeithiau posibl gan Covid-19 ar eich astudiaethau, yn ogystal â rhoi mewnbwn i’ch cefnogi i reoli heriau ychwanegol fel cyfrifoldebau gofalu.
Lle roedd effaith ar gasglu data allweddol, rydym wedi annog myfyrwyr i ganolbwyntio ar rannau craidd eraill o astudiaethau ôl-raddedig, gan gynnwys darllen llenyddiaeth ac adolygiadau, hyfforddiant a chaffael sgiliau newydd drwy adnoddau ar-lein ac ysgrifennu’r ymchwil a / neu benodau. Mae hyn wedi galluogi nifer o’n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i barhau gyda’u hymchwil, er ein bod yn cydnabod bod effeithiau ar gasglu data a mynediad at lyfrgelloedd a chyfleusterau’r Brifysgol yn achos pryder i chi o hyd (gweler yr adran ar gael mynediad at gyfleusterau isod).
Roedd y pryder ofal hwn yn sail i’r ail reswm am ein newid i fonitro cynnydd blynyddol, yn benodol fel y gallem eich sicrhau bod gennych gyfle i roi gwybod am unrhyw effeithiau gan Covid-19 ar eich astudiaethau. Drwy gydol eich amser yng Nghaerdydd, byddwn yn parhau i gofnodi unrhyw effeithiau sy’n gysylltiedig â Covid-19 drwy eich monitro cynnydd blynyddol, gan sicrhau trafodaethau parhaus ynghylch cynlluniau ymchwil amgen, a rhoi ymdeimlad da i ni o effaith Covid-19 ar ein cymuned ymchwil ôl-raddedig.
Estyniadau heb gost: Er mwyn ymateb i geisiadau gan fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, newidion ni ein gweithdrefnau fel y gall myfyrwyr blwyddyn olaf, sydd o fewn chwe mis i’w dyddiad cau cyflwyno, wneud cais am estyniad heb gost, yn gysylltiedig â Covid-19, i’w dyddiad cyflwyno o hyd at dri mis, lle y bo’n ofynnol. Nod hyn oedd lleihau unrhyw bryderon uniongyrchol a allai fod wedi bod gan ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ynghylch cwblhau eu traethawd ymchwil erbyn dyddiad cau heriol, yn enwedig wrth i ni symud i weithio o bell.
Gwe dudalennau: Llunion ni dudalennau penodol i ymchwilwyr ôl-raddedig ar ein gwefan, gan sicrhau y gallech chi ddod o hyd i wybodaeth yn hawdd am y gefnogaeth yr oeddem yn ei rhoi yn ei lle i’ch helpu. Rydym yn diweddaru’r rhain yn rheolaidd, ac maen nhw’n ffynhonnell wybodaeth dda am yr holl waith yr ydym yn ei wneud i helpu ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mesurau cymorth eraill sy’n cael eu datblygu
Gan ein bod bellach yn cael ymdeimlad gwell o sut gallai’r ychydig fisoedd nesaf edrych i’r Brifysgol rydym yn dechrau ystyried ffyrdd eraill y gallwn gynnig rhagor o gymorth i chi. Mae’r rhain yn cynnwys:
Cael mynediad at gyfleusterau: Erbyn hyn mae uwch dîm rheoli’r Brifysgol wedi cytuno ar gynllun fesul cam er mwyn dychwelyd i labordai. Mae’r egwyddorion sy’n llywio’r dull hwnnw yn cynnwys: (a) sicrhau diogelwch staff a myfyrwyr; (b) cael ymchwilwyr a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ddychwelyd yn araf i’r cyfleusterau, ar sail blaenoriaeth; ac (c) adeiladu nifer yr ymchwilwyr yn y Brifysgol, wrth geisio cydbwyso gofynion addysgu ac ymchwil yn nhymor yr Hydref. Fel rhan o’r gwaith hwnnw byddwn yn edrych yn benodol ar sut gallwn sicrhau cymorth i’n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, yn enwedig y rhai ohonoch chi sydd ar bwyntiau allweddol wrth gasglu data yn eich doethuriaeth, a lle mae angen mynediad ar fyrder i gyfleusterau’r Brifysgol.
Asesu arholiadau llafar terfynol yn gefnogol: O gofio nad yw’n hawdd i ni gael pob aelod o staff a myfyriwr ymchwil ôl-raddedig i ddychwelyd i’r Brifysgol ar hyn o bryd, yn ogystal â’r posibilrwydd y gall Covid-19 darfu yn y dyfodol (e.e. petai rhagor o gyfnodau o gyfyngiadau symud), rydym eisiau sicrhau bod yr arholiad llafar terfynol ar gyfer pob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig yn asesu’r hyn y bu’n bosibl gwneud cynnydd arno wrth wneud ymchwil yn ystod y pandemig. Felly, rydym ar fin dechrau gweithio ar ddulliau asesu arholiadau llafar sy’n canolbwyntio ar ansawdd yn hytrach na maint. Bwriad y rhain fydd cefnogi’r myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig hynny sydd wedi profi effeithiau mawr ar gasglu data na fydd hi’n hawdd eu cywiro. Byddwn yn ymgynghori â chydweithwyr ar draws y Brifysgol, ac â myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn ystod y broses hon.
Addysgu: Yn ystod y tymor academaidd nesaf, efallai bydd angen i ni addasu ein darpariaeth dysgu ac addysgu er mwyn bodloni gofynion cadw pellter cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys darpariaeth ar-lein i gyd-fynd â dosbarthiadau a gynhelir ar y campws. Rydym yn awyddus i sicrhau bod gan fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gyfleoedd i addysgu yn ystod y flwyddyn, lle mae’n ddiogel iddyn nhw wneud hynny. Byddwn yn gweithio gyda Deoniaid Ôl-raddedig Colegau i ystyried beth yw’r ffordd orau o gynnig y cyfleoedd hynny’n ddiogel, a pha hyfforddiant a chymorth ychwanegol sydd eu hangen i’ch helpu i gyflwyno addysgu o ansawdd uchel i’n myfyrwyr israddedig. Bydd adborth a mewnbwn gan fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy’n cefnogi ein haddysgu yn hanfodol wrth ddatblygu’r dulliau hyn.
Estyniadau wedi’u cyllido: Mae rhai cyllidwyr, fel UKRI ac Ymddiriedolaeth Wellcome, wedi cyhoeddi estyniadau wedi’u cyllido i’w myfyrwyr PhD blwyddyn olaf. Yn y cyd-destun hwn, caiff y flwyddyn olaf ei diffinio fel y cyfnod wedi’i gyllido sy’n dod i ben rhwng 1 Mawrth 2020 a 31 Mawrth 2021. Mae’r cymorth hwn wedi creu sefyllfa lle mae gan rai myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig fynediad at gyllid i barhau â’u hastudiaethau, lle maen nhw wedi cael tystiolaeth eglur o effeithiau arwyddocaol yn gysylltiedig â Covid-19 ar eu hymchwil, tra nad yw myfyrwyr wedi’u cyllido gan y Brifysgol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael hynny.
Er mwyn rhoi sylw i’r gwahaniaeth hwn, mae tîm uwch reoli’r Brifysgol wedi cytuno i ystyried – fesul achos unigol – estyniadau wedi’u cyllido (o hyd at uchafswm o dri mis) i fyfyrwyr PhD cymwys (sydd â chyfnod cyllido sy’n dod i ben rhwng 1 Mawrth 2020 a 31 Mawrth 2021, a lle nad oes modd i fyfyrwyr gael cyllid gan unrhyw gorff ariannu arall). Rhoddir yr estyniadau hyn a ariennir i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy’n cael cyflogau PhD drwy’r Brifysgol yn uniongyrchol, ac nad ydynt yn gallu diwygio eu cynlluniau ymchwil i roi cyfrif am Covid-19 ac sy’n wynebu her sylweddol er mwyn cyflwyno eu traethawd hir heb amser ychwanegol i gwblhau gwaith allweddol. Rydym wrthi yn gweithio ar broses a set o feini prawf ar gyfer asesu’r estyniadau hyn, a byddwn yn eu darparu cyn hir.
Ar gyfer ein myfyrwyr blwyddyn 1af ac 2il flwyddyn, byddwn yn mynd ati i ddeall maint effaith Covid-19 yn well. Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â gwaith sydd gan UKRI ar y gweill ar y myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig blwyddyn 1af ac 2il flwyddyn y mae’r Cynghorau’n eu cefnogi. Ar yr un pryd, byddwn yn parhau i weithio’n galed i roi amrywiaeth o fesurau cefnogi eraill ar waith i chi, fel (a) cynlluniau ymchwil wedi’u diwygio; (b) monitro effeithiau sy’n gysylltiedig â Covid-19 drwy fonitro cynnydd blynyddol; (c) asesu cefnogol yn yr arholiad llafar terfynol; yn ogystal â (ch) parhau i roi mynediad at gronfeydd caledi fel y bo’n ofynnol.
Lobïo’n Allanol: Rydym yn sylweddoli bod hwn yn gyfnod
heriol i bob aelod o’n staff, i’n hymchwilwyr ôl-ddoethurol, yn ogystal
ag i’n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Mae ein cymuned ymchwil wedi
dangos hyblygrwydd a chadernid enfawr mewn sefyllfa wirioneddol anodd,
ac rydym yn dal i fod yn hynod o ddiolchgar i chi am eich amynedd wrth i
ni weithio gyda chi i ddeall y ffordd orau i ni eich helpu. Fel rydym
wedi’i wneud o ddechrau cyfyngiadau symud y DU, byddwn yn parhau i
ddadlau gyda chyllidwyr a llywodraethau dros gael cymorth ariannol
ychwanegol i ymchwil, fel ein bod mewn sefyllfa well i liniaru
effeithiau Covid-19 ar ein hymchwilwyr iau.
I gloi, eich llesiant a’ch diogelwch chi yw ein blaenoriaeth o hyd, ac
felly cofiwch edrych ar y wybodaeth yr ydym wedi’i rhoi ar ein
tudalennau gwe sy’n rhoi rhagor o ddolenni a chyngor ynghylch llesiant.
Hefyd, mae’n bwysig eich bod yn parhau i drafod yn rheolaidd â’ch
cyfarwyddwr ynghylch sut i wneud eich ymchwil o bell, a sut gallech chi
ddiwygio eich cynlluniau ymchwil i addasu i’r tarfu sy’n gysylltiedig â
Covid-19. Yn y cyfamser, da chi, cymerwch ofal ohonoch chi eich hunain,
ac o’ch anwyliaid. Edrychwn ymlaen at fod gyda’n gilydd i gyd unwaith
eto yn y Brifysgol pan fydd hynny’n bosibl.
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, naill ai drwy
PVC-Research@caerdydd.ac.uk (Kim Graham) neu PVC-Education@caerdydd.ac.uk
(Claire Morgan). Mae eich Deoniaid Ôl-raddedig a’ch Cyfarwyddwyr
Ymchwil Ôl-raddedig Coleg ar gael i’ch helpu hefyd, i roi cyngor fel y
bod angen, neu i helpu i’ch cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth eraill a
fydd yn sicrhau y gallwch barhau i fod yn llwyddiannus yn eich
astudiaethau.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014