Neges gan yr Is-Ganghellor i’r myfyrwyr
6 Ebrill 2020Annwyl fyfyriwr,
Ysgrifennaf atoch i roi’r newyddion diweddaraf i chi am sut rydym yn ymateb i’ch pryderon ynghylch asesu, sut gallwn eich helpu a chefnogi eich lles yn ystod yr argyfwng, yn ogystal â materion ymarferol fel llety.
Yn gyntaf, mae rhai wedi gofyn a fyddwn yn mabwysiadu ymagwedd ‘dim anfantais’ o ran asesu. Yn ei hanfod, mae hynny’n golygu na chewch farc is o ganlyniad i gwblhau asesiadau’r haf. O’r cychwyn cyntaf rwyf wedi datgan yn glir ei bod yn egwyddor hollbwysig na ddylai unrhyw fyfyriwr fod o dan anfantais o ran eu cyflawniad o ganlyniad i argyfwng Covid-19. Felly, ein bwriad yw mabwysiadu’r ymagwedd hon.
Mae hwn yn faes cymhleth a allai amrywio o raglen i raglen ac o Ysgol i Ysgol. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod yr ymagwedd yn deg ac na fyddwn yn achosi unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Rydym yn gweithio’n galed yn cau pen y mwdwl ar y manylion o ran gorfod amrywio dulliau asesu o ganlyniad i ddysgu o bell. Mae angen amser arnom i wneud yn siŵr bod y camau a gymerwn yn cynnal safonau academaidd, yn bodloni gofynion cyrff proffesiynol, a’u bod yn deg ac yn glir. Byddwn yn cyflwyno canllawiau fydd yn egluro hyn ymhellach cyn gynted â phosibl.
Felly, mae’n bwysig eich bod yn parhau i ganolbwyntio eich ymdrechion ar weithio a gwneud eich gorau glas, pa bynnag fath o asesiadau a gynhelir yn yr haf. Drwy wneud hyn byddwch yn gallu gwneud y mwyaf o’ch addysg a byddwn ni yn gallu cydnabod eich ymdrechion er gwaethaf yr amgylchiadau anodd hyn. Byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth am ein hymagwedd ‘dim anfantais’ drwy eich Ysgol a Dysgu Canolog erbyn 17 Ebrill fan bellaf, os nad cyn hynny os oes modd.
Ni fyddwn yn cynnal arholiadau wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ffisegol yn y Brifysgol – caiff amserlen ar gyfer arholiadau o bell ei chyhoeddi cyn 24 Ebrill, ac nid 17 Ebrill fel y nodwyd yn wreiddiol, er mwyn rhoi rhagor o amser i Ysgolion baratoi’r cynlluniau asesu mwyaf priodol.
Yn y cyfamser, mae gennym gronfa o adnoddau ar eich cyfer i’ch helpu i ddysgu o bell, adolygu ac astudio, felly nid oes angen i chi aros am ragor o wybodaeth.
Cysylltwch â’ch Ysgol cyn gynted â phosibl os ydych yn cael unrhyw drafferthion wrth ddysgu o bell neu os ydych yn astudio mewn amodau nad ydynt yn ddelfrydol neu’n cael problemau ymarferol fel mynediad i’r we.
Gorau po gyntaf y rhowch wybod i’ch tiwtoriaid er mwyn iddynt allu eich helpu.
Mae amgylchiadau esgusodol yn faes arall lle rydym wedi gwneud trefniadau arbennig (dilynwch y ddolen a sgrolio i lawr). Nid oes angen i chi roi gwybod am amgylchiadau esgusodol sydd wedi deillio o ddysgu ac asesu o bell o ganlyniad i argyfwng y coronafeirws. Bydd Pennaeth eich Ysgol yn rhoi gwybod i’r Bwrdd Arholi am yr amgylchiadau hyn.
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni os ydych yn sâl neu os oes digwyddiadau andwyol eraill sy’n effeithio ar eich gallu i ymgymryd ag asesiadau. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio’r ffurflen cofnodi digwyddiad sydd ar gael drwy eich cyfrif SIMS ar-lein i hunan-ardystio a datgan nad oeddech mewn sefyllfa i gael eich asesu oherwydd amgylchiadau esgusodol.
Hoffwn dynnu eich sylw at y gwasanaethau cefnogi a lles myfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer. Rydym yn sylweddoli y gallech fod yn poeni ac yn fwy gorbryderus yn ystod cyfnod gwirioneddol ddigynsail. Mae’r gofynion i aros gartref a mynd allan gyn lleied â phosib yn peri straen na fyddai’r rhan fwyaf ohonom yn ei brofi fel arfer. Yn anffodus, yn unol â rheolau’r Llywodraeth, ni allwn gynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb yn y modd arferol ac rydym wedi gorfod mynd ati’n gyflym i gyflwyno dulliau gweithio o bell er mwyn cefnogi myfyrwyr.
Ar ben hynny rydym wedi addasu mewnrwyd y myfyrwyr er mwyn rhoi gwybodaeth bwysig am sut i wella neu gynnal eich lles yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
Mae ein Tîm Ymyrraeth Myfyrwyr wedi mabwysiadu dull digidol o weithio felly maent yn parhau i dderbyn atgyfeiriadau gan fyfyrwyr. Mae ein Tîm Ymateb i Ddatgeliadau hefyd yn gweithio o bell ac yn defnyddio dulliau digidol er mwyn parhau i gefnogi myfyrwyr sy’n profi trais a cham-drin.
Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, mae Talk Campus yn ffordd o gael gafael ar gefnogaeth yn gyflym. Safle rhwydweithio cymdeithasol yw hwn sy’n cynnig man diogel i siarad yn ddienw am unrhyw beth heb gael eich beirniadu. Cefnogir Talk Campus gan rwydwaith iechyd meddwl blaenllaw, Talk Life, ac mae’n cael ei fonitro gan dîm proffesiynol yn ogystal â myfyrwyr sy’n profi’r un heriau â chi.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd yn yr adrannau Iechyd a Lles ar y Fewnrwyd.
Ers imi ysgrifennu atoch ddiwethaf ar 24 Mawrth, mae’r cyngor ynghylch teithio wedi newid. Mae’n bwysig nodi’r mai’r cyngor diweddaraf yw peidio â theithio gartref os ydych yn aros yn y Brifysgol, ac mae’n rhaid i chi gadw at y gofyniad hwn. Ar ben hynny, dylech hefyd gadw at gyfyngiadau presennol y Llywodraeth ynghylch gweithgareddau awyr agored a dilyn y cyngor a gyflwynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Os ydych wedi gadael eich llety yn y Brifysgol, ni fyddwch yn cael dychwelyd o dan y rheolau hyn, felly ni fyddwn yn codi tâl arnoch ar gyfer eich trydydd tymor.
Rydym hefyd wedi lansio Gwasanaeth Cysylltu i Fyfyrwyr lle mae 250 o staff yn gwirfoddoli eu hamser i ffonio’r holl fyfyrwyr sy’n aros yng Nghaerdydd. Maent yn gwneud hynny’n wythnosol ac yn cyfeirio at dimau cefnogi arbenigol ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd, arian a lles.
Yn olaf, rydym wedi clywed am achosion o ddarparwyr llety preifat yn dod â chontractau i ben gan adael rhai myfyrwyr heb unman i fyw.
Os ydych yn gwybod am unrhyw fyfyriwr sydd yn y sefyllfa hon, cysylltwch â’r Swyddfa Preswylfeydd drwy ebostio residences@caerdydd.ac.uk ac fe wnawn bopeth posibl i ddod o hyd i ystafell ar eu cyfer yn llety’r Brifysgol. Dylech nodi eu bod nhw’n derbyn nifer fawr o ebyst ar hyn o bryd, ac felly dylech ychwanegu ‘Dim lle i fyw’ i’r llinell pwnc.
Dymuniadau gorau,
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014