Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

10 Chwefror 2020

Yr wythnos ddiwethaf fe es i dderbyniad yn y Senedd i nodi’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd. Er gwaethaf yr anawsterau sy’n wynebu Tsieina ar hyn o bryd roedd y digwyddiad yn un cadarnhaol, yn dathlu diwylliant Tsieina a Chymru a’r cysylltiad hirsefydlog rhwng y ddwy wlad drwy fusnes, diwylliant a’r byd academaidd.

Cyflwynwyd y digwyddiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, AC, ac roedd y Gweinidog Chen Wen yn bresennol hefyd o Lysgenhadaeth Tsieina. Cyn y digwyddiad cyflwynodd plant ysgol lleol waith celf, barddoniaeth a ffotograffiaeth yn dangos y cyfeillgarwch rhwng Cymru a Tsieina, gyda’r darnau buddugol yn cael eu harddangos. Roedd hefyd berfformiad gwych o’r Ddawns Llew eiconig.

Wrth siarad â’r rhai oedd yn bresennol, mynegodd Eluned Morgan ei chydymdeimlad â’r rhai a effeithiwyd gan Goronafeirws, ac roedd y cynrychiolwyr o Lysgenhadaeth Tsieina oedd yno yn gwerthfawrogi ei chefnogaeth a’i hanogaeth yn fawr.  

Fel y byddwch wedi darllen yn ein negeseuon diweddar, mae’r Brifysgol yn parhau i fonitro’r sefyllfa o ran Coronafeirws yn agos iawn, ac rydym mewn cysylltiad rheolaidd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff llywodraethol swyddogol eraill, er mwyn gallu ymateb i unrhyw gyngor neu arweiniad swyddogol. Mae ein cydweithwyr a myfyrwyr o Tsieina yn rhan annatod o’n diwylliant amrywiol yma yn y Brifysgol. Yn ystod y cyfnod anodd hwn mae’n rhaid i ni wneud popeth y gallwn i gefnogi’r rhai a effeithiwyd neu sy’n pryderu am effaith Coronafeirws – boed hynny yn Tsieina neu weddill y byd.

Cewch ragor o arweiniad a gwybodaeth ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael yma .