Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Gwelliant ond llawer o waith i’w wneud

17 Rhagfyr 2019
Rob Williams

Heddiw, fe gyhoeddodd y Brifysgol ei datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf, 2019. Roeddwn am fachu ar y cyfle hwn i esbonio’r canlyniadau sydd, am nifer o resymau, yn fwy cymhleth nag arfer.

Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn her, ond mae rhai o’r penderfyniadau anodd rydym wedi’u gwneud wedi dechrau dwyn ffrwyth.

Cynyddodd ein hincwm 4% i £538m, yn bennaf drwy gynnydd mewn incwm o ffioedd dysgu (£279m) a’r swm mwyaf erioed o incwm ymchwil (£116m).

Drwy reoli ein costau gweithredol yn ofalus, gwnaethant gynyddu 2.3% i £552m. Cynyddodd nifer cyfartalog y staff 1% i gefnogi meysydd lle mae cynnydd yn nifer y myfyrwyr, a phrosiectau ymchwil newydd.

O ganlyniad, diffyg o £6.9m oedd ein canlyniad gweithredol gwaelodol ar gyfer 2018/19. Mae hwn yn welliant o £16m ers y llynedd, ond mae cryn waith gennym i’w wneud o hyd er mwyn dychwelyd i warged gweithredol cynaliadwy.

Mae ambell addasiad cyfrifeg eithriadol wedi cymhlethu canlyniadau ariannol eleni.

Y driniaeth anariannol o’n cyfran o ddiffyg cynllun pensiwn USS 2017 yw’r addasiad mwyaf arwyddocaol ymhlith y rhain. Ym mis Mawrth 2017, roedd gan y cynllun hwn ar gyfer staff academaidd a phroffesiynol ddiffyg o £7.5bn. Mae’n ofynnol i ymddiriedolwyr y cynllun baratoi cynllun adfer, a £141m yw cyfran y Brifysgol o hwnnw.

Gan fod hwn yn ofynnol o dan gontract, mae rheolau cyfrifeg yn mynnu bod darpariaeth bresennol yn cynyddu £93m i dalu’r atebolrwydd cyfan, sef £141m. £48m yw darpariaeth yr Ysgol ar hyn o bryd. Mae hwn yn ymrwymiad ariannol i dalu mwy o gyfraniadau pensiwn y cyflogwr dros y 14 blynedd nesaf.

Ers diwedd y flwyddyn, dangosodd prisiant wedi’i adolygu ym mis Mawrth 2018 ddiffyg o £3.6bn. Canlyniad hynny fydd gostyngiad o £59m yn narpariaeth y Brifysgol i £82m, a bydd hynny’n cael ei adlewyrchu yn natganiadau ariannol y Brifysgol y flwyddyn nesaf.

Felly, yn dilyn darpariaethau unigol ac enillion buddsoddi heb eu gwireddu, £117m oedd cyfanswm diffyg y Brifysgol ar gyfer 2018/19.

Er gwaethaf yr addasiadau cyfrifeg hyn, mae’r Brifysgol yn parhau i fod mewn sefyllfa ariannol gref, ond mae’r cynnydd mewn costau pensiynau yn y dyfodol ac ansicrwydd economaidd cyffredinol yn golygu bod yn rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar gynnig dyfodol sy’n gynaliadwy’n ariannol ac yn cefnogi ein dyheadau.

Wrth i’r ŵyl agosáu, hoffwn ddymuno Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda i chi.

Darllen ein Hadroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol 2018/19