Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Wal ymrwymiad.

3 Rhagfyr 2019
Yr Athro Karen Holford
Professor Karen Holford FREng, FLSW, CEng FIMechE

Yn ein cynhadledd i uwch-aelodau staff ym mis Hydref, fe wnaethom neilltuo prynhawn i edrych ar faterion sy’n ymwneud â chydraddoldeb hiliol.  Ymunodd Swyddogion Sabothol ac Ymgyrchu Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â Chadeiryddion grwpiau Cydraddoldeb Hiliol y Brifysgol, â ni i gydnabod y byddai angen gweithredu ar draws y Brifysgol i ymateb mewn modd ystyrlon i’r materion hyn.

Roedd yn bleser croesawu’r Athro Marcia Wilson o Brifysgol Dwyrain Llundain i agor y sesiwn gyda chyflwyniad ar Adeiladu Sefydliad Addysg Uwch Gwrth-hiliol, a oedd yn bwerus iawn yn fy marn i, ac a osododd y dôn a’r cyd-destun yn berffaith ar brynhawn hynod werthfawr. 

Aethom ymlaen i ystyried canfyddiadau cychwynnol Grŵp Bwlch Cyrhaeddiad BAME (prosiect partneriaeth gydag Undeb y Myfyrwyr) a safbwynt y Brifysgol o ran bwlch cyrhaeddiad myfyrwyr BAME a phrofiad gwahaniaethol myfyrwyr.

Yna rhoddwyd cyfle i gydweithwyr ystyried beth yw ein cyfrifoldebau fel arweinwyr wrth i ymateb i argymhellion gan adroddiad #closingthegap, beth yw’r heriau penodol ym Mhrifysgol Caerdydd a beth arall y gallwn ni ei wneud i’w goresgyn.

Fe’m trawyd gan y sgyrsiau agored, onest ac ysgogol a gafwyd ynghylch hil; roedd yn gam pwysig iawn tuag at newid y diwylliant a gwneud yn siŵr bod materion sy’n ymwneud â chynhwysiant a chydraddoldeb wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud.   Roedd rhai o’r sgyrsiau yn anodd, rhai yn hynod deimladwy a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n cymryd rhan am eu caredigrwydd. 

Un uchafbwynt penodol i fi oedd y wal ymrwymiad.  Trwy gydol y prynhawn, fe wnaethom ofyn i unigolion fyfyrio ar yr hyn a glywsant a phennu un peth y byddant yn ymrwymo i wneud i gefnogi ymrwymiad y Brifysgol i gydraddoldeb hiliol.  Ysgrifennwyd y rhain a’u postio (yn ddienw) ar y wal ymrwymiad. 

Gallwch weld y wal ymrwymiad yma i ddarllen yr ymrwymiadau personol a wnaed. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr i adeiladu ar y rhain a chyflawni newid cadarnhaol yng Nghaerdydd.