Skip to main content

Newyddion yr Is-GanghellorY diweddaraf am Gyfarfodau

Tair her i Addysg Uwch yng Nghymru

17 Hydref 2019
Professor Calvin Jones
Professor Calvin Jones

Ar ddiwrnod cwrdd i ffwrdd blynyddol Bwrdd Gweithredol y Brifysgol ym mis Medi, cawsom sesiwn PESTLE i ystyried y risgiau, yr heriau a’r cyfleoedd Gwleidyddol, Economaidd, Cymdeithasol, Technolegol, Cyfreithiol ac Amgylcheddol sy’n wynebu’r Brifysgol.  Byddwn yn rhannu sesiynau PESTLE y dyfodol drwy ein blog.

Gwahoddais yr Athro Calvin Jones, Dirprwy Ddeon ar gyfer Gwerth Cyhoeddus a Chysylltiadau Allanol, Ysgol Busnes Caerdydd, i’n helpu i ystyried yr heriau i Addysg Uwch yng Nghymru, a sut gallem ail-archwilio, ailddatblygu ac ailddatgan gwerth cyhoeddus Addysg Uwch, ynghyd â heriau ynghylch Brexit a’r newid yn yr hinsawdd i wneud yn siŵr bod ein model busnes yn datblygu i adlewyrchu newidiadau gwleidyddol, tueddiadau economaidd-gymdeithasol a therfynau caled ecolegol.

Roeddwn eisiau rhannu cyfraniad arbenigol Calvin ynghyd â’r materion a drafodwyd gennym:

Mae Addysg Uwch yng Nghymru, fel yng ngweddill y byd, yn wynebu ystod o heriau sydd angen ymateb ystyrlon a chyson, ond radicalaidd hefyd. Ar wahân i’r ystyriaethau mwy cyffredin ynghylch, er enghraifft, ffioedd a chyllid, lles staff ac iechyd meddwl myfyrwyr, mae nifer sy’n berthnasol i Gymru.

Brexit

Newyddion drwg i Addysg Uwch yn y tymor byr a chanolig fyddai unrhyw fath o Brexit, hyd yn oed gyda’r opsiynau mwy ‘meddal’ fyddai’n debygol o’n heithrio rhag grantiau ymchwil a rhwydweithiau’r UE, a rhaglenni cyfnewid myfyrwyr. Mae goblygiadau economaidd clir i hyn yng Nghymru. Er enghraifft, efallai bydd nifer o gwmnïau angor y gallai Sefydliadau Addysg Uwch ddymuno datblygu partneriaethau strategol/ymchwil â nhw (neu fod wedi gwneud hyn yn barod), megis Tata neu Airbus, mewn sectorau fydd yn debygol o fod yn fwyaf agored i niwed yn sgîl eithriad rhag y farchnad sengl neu’r undeb tollau. Heb eu presenoldeb lleol, efallai bydd perthnasau’n fwy anodd neu’n llai cynhyrchiol yn uniongyrchol (neu gyda chadwyni cyflenwi). Mae sectorau eraill yn llai agored i niwed uniongyrchol yn sgîl Brexit, sy’n gwasanaethu marchnadoedd lleol / y DU neu’r byd – er enghraifft, technoleg cyfathrebu, diwylliant a gwasanaethau ariannol. Efallai byddwn yn pryderu yma am effaith anuniongyrchol unrhyw ‘ddirwasgiad Brexit’ ar hyfywedd cwmnïau, yna ac ar allu llywodraethau i warchod sectorau sy’n ymwneud ag Addysg Uwch, fel diwylliant ar adeg crebachu cyllidol. Yn fwy cynnil, mae Brexit wedi datgelu rhwyg mawr yng nghymdeithasau’r DU, gyda’r rhai ‘elît’ yn bell i ffwrdd ac yn ddi-hid o ran poblogaethau sydd ‘wedi’u gadael ar ôl’. Efallai bydd ‘trwydded gymdeithasol’ prifysgolion i weithredu – yn enwedig y rheini fel Caerdydd sy’n denu cyfran is o fyfyrwyr o’u cyffiniau Cymreig nag ar gyfartaledd, a’r rhannau tlotach yn arbennig, yn agored i’w chwestiynu.

Y Newid yn yr Hinsawdd

Mae cyflymder y newid yn yr hinsawdd, yn ei hun ac fel testun pryder cymdeithasol, yn syfrdanol. Gan fod pobl yn ystyried bod academyddion ymhlith y gwaethaf o ran teithio busnes rhyngwladol, gallai hyn effeithio ar ba mor ddeniadol ydym i bobl ifanc (a staff) sy’n ymwybodol o’r hinsawdd a’n trwydded gymdeithasol ehangach. Yn ddiddorol (ac yn bryderus efallai), mae dadansoddiad gan Ysgol Busnes Caerdydd yn awgrymu mai dim ond 3% o’i hôl troed carbon ehangach a ddeilliodd o deithio academaidd rhyngwladol, gyda 30% yn deillio o deithiau myfyrwyr rhyngwladol i’w gwledydd cartref ac yn ôl i astudio. Yn y bôn, mae hyn yn golygu na all yr Ysgol fyth gydymffurfio â chytundeb Paris, gyda’i model busnes presennol (yn absenoldeb datblygiad tanwydd awyren carbon isel, sy’n annhebygol o ddigwydd). Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn cyfrannu dros hanner incwm ein Hysgol yn hawdd – a rhywbeth arall sy’n destun pryder yw bod y myfyrwyr hyn yn dod o wlad sy’n buddsoddi cryn dipyn yn ei Haddysg Uwch ei hun. Mae’r ffigur yn dangos yr ôl troed carbon presennol sydd wedi’i amcangyfrif yn fras fesul aelod o staff cyfwerth ag amser llawn yn yr Ysgol, o gymharu â chyllideb carbon y DU fesul pen ar gyfer 2028-32. Rhaid i ni weld trawsffurfiad radicalaidd dros y ddegawd nesaf.

Ailddatgan gwerth addysg uwch

Barn Ysgol Busnes Caerdydd yw bod yr heriau hyn, a rhai eraill, yn gofyn i ni ailystyried, ailddatblygu ac ailddatgan gwerth addysg uwch – a dyna pam rydym yn cyfeirio at Werth Cyhoeddus. Gan ein bod yn rhan o hyn, rhaid i ni feddwl yn ofalus am ddiben addysg, yn arbennig gan ystyried nad yw gyrfa am oes mor gyffredin, y bywyd can mlynedd a’r newidiadau cysylltiedig â thechnoleg i waith, a amlygwyd gan yr Athro Phil Brown. Mae gwaith dros y blynyddoedd diweddar gyda Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru wedi datblygu agwedd at ddeall sut rydym yn datblygu myfyrwyr sy’n addas ar gyfer y dyfodol’. Er enghraifft, i blant ysgol, mae’r dystiolaeth yn awgrymu addysg fydd yn addas ar gyfer y dyfodol:

  • Rhoi llai o bwyslais ar sgiliau cadw data a phrosesu cul, ac annog creadigrwydd, hyblygrwydd a datrys problemau yn ôl y cyd-destun
  • Canolbwyntio ar y dysgwr, pwrpasol a phwysleisio datblygiad personol yn hytrach nag ‘ysgolion cynnydd’ wedi’u safoni
  • Seiliedig ar bwrpas ac ymwybodol o foeseg, nid llawn offer a phrosesau
  • Datgysylltu cyflwyniadau’r dysgwr rhag mesurau o ansawdd sefydliadol
  • Defnyddio asesiadau amrywiol, ffurfiannol sy’n adrodd asedau’r dysgwr yn ansoddol
  • Ymwybodol a chynhwysol yn seicolegol
  • Ymgorffori cyfeiriad tuag at ddysgu gydol oes.

Gan fwyaf, mae’r argymhellion hyn yn gorgyffwrdd â’n hagwedd at ailstrwythuro addysg busnes ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion, gan wneud yn siŵr ein bod yn paratoi myfyrwyr yn iawn at waith ond ein bod hefyd yn sefyll dros rywbeth – ochr yn ochr â’n partneriaid, y myfyrwyr.

I grynhoi, mae Addysg Uwch yn y DU yn wynebu, os na fydd yn storm berffaith, o leiaf set o newidiadau gwleidyddol cydberthnasol, tueddiadau economaidd-gymdeithasol a therfynau caled ecolegol allai ddisodli ei model busnes ymhen ychydig flynyddoedd. Hyd yn hyn, ychydig iawn o ymgysylltu â’r materion hyn a welwyd gan sefydliadau ym maes addysg busnes neu’n fwy eang. Dyma gyfle i Gaerdydd gymryd awenau’r naratif, ond byddai hyn yn galw am newidiadau sylfaenol i’r ffordd yr ydym yn llunio strategaethau ac yn pennu amcanion, yn dod o hyd i gyllid ac yn ei ddyrannu, yn ymgysylltu â myfyrwyr ac yn ysgogi staff.