Arbenigwr amgylcheddol yn cynghori Bwrdd Gweithredol y Brifysgol
26 Medi 2019Yn niwrnod cwrdd i ffwrdd diweddar Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, cawsom sesiwn PESTLE, i ystyried y risgiau, yr heriau a’r cyfleoedd Gwleidyddol, Economaidd, Cymdeithasol, Technolegol, Cyfreithiol ac Amgylcheddol sy’n wynebu’r Brifysgol. Byddwn yn rhannu sesiynau PESTLE y dyfodol drwy flog Bwrdd Gweithredol y Brifysgol.
Gwahoddais yr Athro Lorraine Whitmarsh, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Newid Hinsoddol a Thrawsnewid Cymdeithasol i’n helpu i ddeall beth yw’r newidiadau amgylcheddol pwysicaf a ragfynegir ar gyfer y flwyddyn nesaf a beth yw’r prif bethau y mae angen i Fwrdd Gweithredol y Brifysgol eu hystyried. Ysgogi’r drafodaeth, ehangu’r meddylfryd a chyflwyno syniadau newydd i ni eu hystyried oedd y nod, wrth i ni adolygu ein strategaeth cynaliadwyedd amgylcheddol a’n cynllun gweithredu.
Roeddwn eisiau rhannu cyfraniad arbenigol Lorraine a’r materion a drafodom ni.
Beth yw’r pynciau llosg cyfredol?
Mae’r newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth, technoleg werdd a phlastigau’n faterion pwysig i bolisi a’r cyhoedd; gellir dadlau mai’r newid yn yr hinsawdd yw’r un mwyaf sylfaenol a hanfodol – a gall mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd helpu i fynd i’r afael â materion amgylcheddol ehangach (e.e. mae lleihau’r defnydd o adnoddau’n lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn golygu llai o blastig a llygredd arall).
Yn sgîl cyhoeddiad adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar gyfer Newid Hinsawdd (IPCC) ynghylch cyfyngu ar y newid yn yr hinsawdd i 1.5oC o gynhesu byd-eang[1], fe ddiwygiodd llywodraeth y DU ei deddfwriaeth ynghylch y newid yn yr hinsawdd (Deddf y Newid yn yr Hinsawdd) i nod mwy uchelgeisiol o gynhyrchu dim allyriadau ar y cyfan erbyn 2050. Mae hyn yn golygu trawsffurfio cymdeithas yn gyflym ac yn systematig i fod yn un garbon isel a chynaliadwy. Er bydd rhywfaint o’r newid hwn yn deillio o arloesedd technolegol, bydd cyfran fawr (62%) yn gofyn am newidiadau sylweddol gan gymdeithas a’i harferion.[2] Yn benodol, bydd angen lleihad sylweddol i sut a faint rydym yn teithio ac yn treulio nwyddau. Bydd llawer o’r newidiadau y gofynnwyd amdanynt yn cynnig sgîl-fanteision – er enghraifft, gall defnyddio dulliau mwy actif o deithio (e.e. seiclo a cherdded) a bwyta deiet sy’n seiliedig ar blanhigion wella iechyd; a gall defnyddio llai o ynni wrth aerdymheru ein cartrefu a’n busnesau arbed arian.[3]
Yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ddarn arloesol o ddeddfwriaeth sy’n mynnu bod cynaliadwyedd yn cael ei ymgorffori ym mhob agwedd ar bolisi. Ynghyd â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’r genedl wedi ymrwymo i leihau ei hallyriadau ar draws pob sector; ac mae’n rhaid i’r sector cyhoeddus fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Anogir Sefydliadau Addysg Uwch i fod yn rhan o’r ymdrechion hyn, yn ogystal â chefnogi ymdrechion i wella dealltwriaeth o gynaliadwyedd ar draws cymdeithas Cymru, a thrwy ymchwil ac arloesedd ynghylch y newid yn yr hinsawdd, i gyflwyno atebion ar ei gyfer.[4]
Ochr yn ochr â chwtogi allyriadau er mwyn lleddfu’r newid yn yr hinsawdd, bydd angen i Sefydliadau Addysg Uwch fel Prifysgol Caerdydd ystyried effeithiau’r newid yn yr hinsawdd sy’n gwaethygu, ac sydd i’w profi yn y DU ac ar draws y byd yn barod. Yng Nghymru, mae’r rhain yn cynnwys hafau poethach a sychach, sy’n arwain at sychder a thonnau gwres, a’r effeithiau cysylltiedig ar iechyd (trawiad gwres, llosg haul ac ati); a gaeafau mwy cynnes a gwlyb, sy’n arwain at fwy o lifogydd, yn ogystal â mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol (e.e. stormydd), erydu a chynnydd yn lefel y môr, tarfiadau ar gyflenwadau o fwyd a’r seilwaith teithio, lledaeniad clefydau, difodiant rhywogaethau, ac yn y blaen.[5]
Beth yw’r newidiadau pwysicaf a ragfynegir ar gyfer y flwyddyn nesaf?
Dros y 12 mis nesaf, gwelwn newidiadau pwysig i bolisi Cymru a’r DU; o ran arloesedd technegol, amodau hinsoddol (e.e. mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol), fel y nodir yn barod, a phwysau gan y cyhoedd (pobl ifanc yn arbennig) yn ogystal â’n staff a’n myfyrwyr i weithredu.
Polisi. Yn nhermau datblygiadau polisi, gan fod y rhan fwyaf o ddeddfwriaeth amgylcheddol y DU wedi dod o Ewrop, bydd ymadawiad y DU o’r UE yn cael effaith sylweddol ar allu’r wlad i lywodraethu’r amgylchedd – gyda risgiau uchel iawn i ansawdd aer a dŵr, systemau bwyd, bywyd gwyllt, ac ati, os ydym yn gadael heb gytundeb.[6] Bydd Bil newydd yr Amgylchedd, sydd ar ei ffordd drwy’r senedd ar hyn o bryd, yn ceisio mynd i’r afael â’r bwlch hwn mewn llywodraethiant amgylcheddol, ac mae’n canolbwyntio’n benodol ar: wella ansawdd aer; adfer a hybu natur; gwella sut y rheolir gwastraff ac effeithlonrwydd adnoddau; a gwella dŵr wyneb, dŵr daear a sut rheolir dŵr gwastraff.
Technoleg. O ran newid technolegol, mae cerbydau trydan yn dod yn fwyfwy fforddiadwy a seilwaith gwefru ar gael yn fwy eang; ar yr un pryd mae arloesiadau eraill mewn systemau ynni (e.e. gwresogi hydrogen) a TG (e.e. technoleg glyfar, rhyngrwyd y pethau) yn cael eu datblygu’n gyflym a byddant ar gael yn y dyfodol agos. Mae cyfleoedd pwysig yma i Brifysgol Caerdydd fod ar reng flaen gwaith ymchwil a datblygu ym maes carbon isel / yr amgylchedd; er gallai’r datblygiadau hyn gynnig atebion i’r Brifysgol fod yn fwy cynaliadwy yn ei gweithrediadau ei hun (e.e. fideo-gynadledda i ddisodli teithio; fflyd o gerbydau trydan; rhannu symudedd).[7]
Cymdeithas. Yn gymdeithasol, mae mwy a mwy o bryderon ymysg y cyhoedd ynghylch y newid yn yr hinsawdd; mewn gwirionedd, mae pryderon ynghylch y newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd ar eu huchaf erioed.[8] Ers rhyddhau adroddiad yr IPCC ym mis Hydref 2018, rydym hefyd wedi gweld protestiadau cyhoeddus, wedi’u trefnu gan Extinction Rebellion a rhai eraill, a streiciau gan ysgolion ar draws y byd, wedi’u sbarduno gan yr actifydd o Sweden, Greta Thunberg. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn bryder arbennig ymysg pobl ifanc; dyma’r prif bryder ymysg pobl dan 30 oed am y tair blynedd ddiwethaf yn ôl arolwg Fforwm Economaidd y Byd i bobl ifanc y byd.[9]
Beth yw’r materion nad ydym yn eu hystyried eisoes?
Ar wahân i’r datblygiadau uchod, mae’n debygol y gwelwn ni’r amgylchedd yn troi’n bryder cyffredinol i gymdeithas, ac yn ofyniad i sefydliadau ei ystyried, yn yr un modd â newidiadau a disgwyliadau ynghylch hawliau dynol a chyfleoedd cyfartal. Yn y ffordd hon, mae’n synhwyrol bod Prifysgol Caerdydd yn cadw un cam ar y blaen i ddisgwyliadau cymdeithas a gofynion ynghylch polisi, ac ymgorffori cynaliadwyedd i mewn i’w gweithrediadau a’i gweithgareddau. Yn fwy uchelgeisiol fyth, fodd bynnag, gallai Caerdydd ddewis bod ar reng-flaen y pontio carbon isel drwy fachu ar gyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd, fel a amlinellir isod. Yn olaf, er mai 2019 yw blwyddyn gweithgarwch gwyrdd DEFRA, sydd wedi gweld newidiadau cymdeithasol digynsail o ran pryder a gweithgarwch, fe fydd 2020 yn flwyddyn gritigol arall. Cynhelir cynadleddau hinsoddol byd-eang y Cenhedloedd Unedig – COP26 – yn Glasgow, a Claire Perry fydd Llywydd y Gynhadledd. Mae hyn yn cynrychioli cyfle i’r DU hyrwyddo ei pholisi sydd ar flaen y gad yn fyd-eang ynghylch yr hinsawdd, ac amlygu ymchwil, arloesedd ac ymdrechion addysgiadol prifysgolion y DU. Rhaid canolbwyntio ymdrechion cyfathrebu ar y cyfle hwn i arddangos gwaith Prifysgol Caerdydd yn y maes hwn.
Beth yw’r cyfleoedd a’r pethau i gynhyrfu yn eu cylch?
Mae cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd yn cwmpasu pob agwedd ar waith y Brifysgol, gan gynnwys addysg, gweithrediadau, ymchwil a’i chenhadaeth ddinesig. Yng Nghanolfan CAST[10], rydym yn amlinellu hyn yn nhermau ‘sgîl-fanteision’ gweithredu dros yr hinsawdd – h.y. manteision ychwanegol lleihau allyriadau – megis:
- Iechyd staff a myfyrwyr: e.e. hyrwyddo dulliau teithio actif (cerdded/seiclo) a bwyta llai o gig; gwneud yn siŵr nad yw swyddfeydd a phreswylfeydd yn rhy boeth yn ystod tywydd poeth.
- Arbed costau: e.e. biliau ynni llai drwy gamau effeithlonrwydd ac adnoddau adnewyddadwy; costau llai drwy ddefnyddio llai o ddeunyddiau a theithio lai; lleddfu tarfiadau oherwydd peidio â theithio er lles yr hinsawdd drwy weithio gartref.
- Incwm: e.e., manteisio ar gyfleoedd am ymchwil ac arloesedd sy’n gysylltiedig â phontio carbon isel.
- EDI: e.e. mae cynadleddau rhithwir yn fwy cynhwysol (e.e. i ofalwyr).
- Pobl: e.e. bydd bod yn gyflogwr cynaliadwy yn helpu i ddenu’r staff a’r myfyrwyr gorau a’u cadw.
- Enw da: e.e. bydd hyrwyddo cynaliadwyedd yn cefnogi ein cenhadaeth ddinesig.
Yn olaf,
mae’n amlwg bod ein staff a’n myfyrwyr am i’r Brifysgol fod yn fwy uchelgeisiol
o ran mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd – dylem ddefnyddio’r brwdfrydedd
a’r arbenigedd hyn i wireddu’r cyfleoedd a restrir yma a chyfleoedd eraill sy’n
codi yn y dyfodol.
[1]IPCC (2018). Special Report: Global Warming of 1.5 Degrees. https://www.ipcc.ch/sr15/chapter/spm/
[2] CCC (2019). Net Zero: The UK’s contribution to stopping global warming. Pwyllgor y DU ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd, Llundain.
[3] Jennings, N., Fecht, D. & De Matteis, S. (2019). Co-benefits of climate change mitigation in the UK: Papur Hysbysu Sefydliad Grantham Rhif 31. https://www.imperial.ac.uk/media/imperial-college/grantham-institute/public/publications/briefing-papers/Co-benefits-of-climate-change-mitigation-in-the-UK.pdf
[4]Llywodraeth Cymru (2019). Ffyniant i Bawb. Low-Carbon Delivery Plan. https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-06/low-carbon-delivery-plan_1.pdf
[5] CCC (2017). UK Climate Change Risk Assessment 2017 Evidence Report: Summary for Wales. https://www.theccc.org.uk/wp-content/uploads/2016/07/UK-CCRA-2017-Wales-National-Summary.pdf
[6] Burns, C., Carter, N., Cowell, R., et al. (2018). Environmental policy in a devolved United Kingdom: Challenges and opportunities after Brexit. https://www.brexitenvironment.co.uk/wp-content/uploads/2018/10/BrexitEnvUKReport.pdf
[7]Swyddfa’r Llywodraeth o Wyddoniaeth (2019). The Future of Mobility: A time of unprecedented change in the transport system. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/780868/future_of_mobility_final.pdf
[8] BEIS (2019). BEIS Public Attitudes Tracker: Wave 29 – key findings. https://www.gov.uk/government/statistics/beis-public-attitudes-tracker-wave-29
[9] WEF (2018). Global Shapers Survey. http://www.shaperssurvey2017.org/
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014