
Mae llawer o gydweithwyr wedi bod yn gweithio’n galed mewn gwyliau diwylliannol Cymreig yr haf hwn, i arddangos eu hymchwil a’u gwaith addysgu.
Daeth miloedd o bobl i’n pabell i fwynhau ein gweithgareddau ymarferol yn Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd a Tafwyl yn y ddinas.
Es i i’r ddau ddigwyddiad, a gadawodd ansawdd y gweithgareddau hyn gryn argraff arnaf i ac, yn bwysicach, ar y nifer fawr o ymwelwyr – gan gynnwys llawer o ddarpar fyfyrwyr.
Mae cydweithwyr bellach wrthi’n paratoi am yr un fawr, yr Eisteddfod Genedlaethol, a gynhelir yn Llanrwst, Sir Gonwy, rhwng 3 a 10 Awst 2019.
Unwaith eto, ein blaenoriaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol fydd amlygu ein hymchwil a’n haddysg, felly rydym wedi trefnu amrywiaeth sylweddol o ddarlithoedd, trafodaethau a gweithgareddau ar y Maes.
Hefyd, bydd gennym amrywiaeth o weithgareddau ymarferol yn y pentref gwyddonol a fydd yn boblogaidd ymysg ymwelwyr iau’r Eisteddfod.
Rwy’n falch o ddweud bod y gwaith hwn yn rhan allweddol o ‘genhadaeth ddinesig’ y Brifysgol – y gwaith pwysig rydym yn ei wneud mewn partneriaeth â’n cymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt.
Rydym yn brifysgol Gymreig â meddylfryd rhyngwladol, ond mae gwreiddiau ein cryfder a’n hunaniaeth yn ein diwylliant unigryw, ac rydym yn cyfrannu cryn dipyn at ein cymunedau. Mae’n rhaid i ni gofio eu bod nhw’n cyfrannu llawer atom ni hefyd.
Os ydych yn ddigon ffodus i fod yng ngogledd Cymru ac yn mynd i’r Eisteddfod, ewch i fwrw golwg ar ein gweithgareddau, ac os ydych yn gweithio yn yr ŵyl, pob lwc – a mwynhewch.