Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Mai 2019

31 Mai 2019

Annwyl gydweithiwr

Ar un ystyr mae cyhoeddiad y Prif Weinidog ei bod am ymddiswyddo, a’r tebygolrwydd y bydd ei holynydd yn ei swydd erbyn diwedd mis Gorffennaf yn amlwg yn trawsnewid sefyllfa’r wlad. Mewn ffordd arall, oni bai y cynhelir etholiad cyffredinol (sy’n ymddangos yn annhebygol o ystyried perfformiad alaethus y Blaid Geidwadol mewn etholiadau diweddar), mae’r rhifyddeg seneddol yn parhau’r un fath a bydd pwy bynnag fydd yn ymgymryd â’r swydd yn wynebu’r un problemau ag y mae Mrs May wedi gwneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ni fydd y cytundeb y daeth iddo gyda’r Comisiwn Ewropeaidd yn newid ac ni ddaeth erioed yn agos at dderbyn cefnogaeth yn y senedd, felly mae’n ymddangos mai’r canlyniad mwyaf tebygol bellach yw naill gadael heb gytundeb ddiwedd mis Hydref neu oedi parhaus a allai, i bob pwrpas, rwystro Brexit yn llwyr.  Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn ymddangos yn benderfynol o sicrhau y dylid parchu ewyllys glir y Senedd i beidio â chymeradwyo gadael heb gytundeb, sy’n gadael (os yw Mr Bercow’n llwyddiannus) y dewis o gael ail refferendwm. Hyd yma nid yw’r Senedd wedi gallu cynnull mwyafrif ar gyfer hyn, a dyw Llafur chwaith ddim wedi gallu dod i gonsensws. Felly mae sefyllfa ddisymud Brexit yn debygol o barhau i’r dyfodol rhagweladwy, er bod y tebygolrwydd o adael heb gytundeb ddiwedd mis Hydref bellach yn ymddangos yn llawer mwy tebygol. Ar yr ochr gadarnhaol, cyhoeddodd gweinidog prifysgolion Lloegr, Chris Skidmore, y bydd myfyrwyr o’r UE sy’n dechrau ym mlwyddyn academaidd 2020/21 yn cadw statws ffioedd cartref ac yn gymwys am gymorth ariannol. Mae’r datblygiad hwn (os caiff ei ddilyn gan Lywodraeth Cymru, sy’n debygol) i’w groesawu, gan roi mwy o sicrwydd a lleihau’r risg, beth bynnag a ddaw ar 31 Hydref eleni.

Yn anffodus mae cyhoeddi adolygiad Augar ddiwedd mis Mai’n cyflwyno cyfres newydd o risgiau, a’r pennaf yw’r gostyngiad arfaethedig yn y ffioedd cartref o £9000 i £7500. Mae’r adolygiad yn berthnasol i Loegr yn unig, ond ar sawl mesur byddai’n anodd iawn i’r system yng Nghymru beidio â dilyn oherwydd y cysylltiadau rhwng y ddwy wlad. Fel sy’n digwydd mor aml, nid yw buddiannau’r gweinyddiaethau datganoledig wedi’u hystyried ac ychydig o ymgynghori, os o gwbl, a wnaed, er gwaethaf y canlyniadau amlwg i Gymru yn benodol yn sgil newid o’r maint hwn i’r drefn ffioedd. Byddai cost flynyddol gostyngiad o’r fath i’r brifysgol hon o ddeutu £23m, a byddai’n anodd iawn delio â hyn heb fesurau lliniaru. Y perygl yw y byddai ehangu cyfranogiad a phrofiad y myfyriwr yn dioddef, a bydd angen i ni gynnal trafodaethau dwys gyda llywodraeth Cymru os caiff y mesurau hyn eu rhoi ar waith. Wedi dweud hynny, roedd adolygiad Augar yn gysylltiedig yn agos â Mrs May yn bersonol, ac er bod rhai pethau deniadol ynddo i rai o’r ymgeiswyr sy’n brwydro i’w holynu, byddai angen deddfwriaeth ar y newidiadau hyn ar adeg pan fo materion pwysig eraill i ymdrin â nhw a mwyafrif ansicr ar gyfer unrhyw raglen o ddeddfwriaeth seneddol. Er ei bod yn bwysig egluro’r effaith niweidiol y gallai’r cynigion amlycaf yn adroddiad Augar ei gael ar brifysgolion a myfyrwyr, am gymharol ychydig o fantais, mae gobaith o hyd y gallai diwygiadau Diamond, a gafodd groeso yng Nghymru, ac sy’n gwthio arian at y rheini sydd ei angen fwyaf ar yr adeg pan fyddant ei angen, gan sicrhau lefelau priodol o gyllid i brifysgolion, gynnig gwell model i Loegr ei ddilyn na’r cynllun di-sail hwn.

Hoffwn dynnu eich sylw at adroddiad a gyhoeddwyd ddechrau’r mis ar y bwlch cyrhaeddiad ymhlith myfyrwyr BAME. Arweiniwyd y gwaith ar y cyd gan y Farwnes Valerie Amos, Cyfarwyddwr SOAS Prifysgol Llundain, a Mr Amatey Doku, Is-lywydd Addysg Uwch, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Mae’r adroddiad yn cynnwys awgrymiadau am amrywiaeth o fesurau yn cynnwys darparu arweinyddiaeth gref, cynnal sgyrsiau am hil a newid y diwylliant, datblygu amgylcheddau amrywiol a chynhwysol o ran hil (a dyma rywbeth sydd angen i ni ganolbwyntio arno), casglu tystiolaeth a dadansoddi’r data, a deall beth sy’n gweithio. Eisoes mae gennym grŵp gorchwyl a gorffen bwlch cyrhaeddiad BAME (dan gadeiryddiaeth Deon EDI Dr Sam Hibbitts) sy’n llunio cynllun gweithredu; i gefnogi eu gwaith byddaf i a fy nghydweithwyr yn defnyddio’r rhestr wirio ddefnyddiol ar gyfer gweithredu sefydliadol ac yn cydweithio gyda’r grŵp hwn, Undeb y Myfyrwyr, y Grŵp Llywio Cydraddoldeb Hil (dan gadeiryddiaeth Michelle Alexis), ysgolion academaidd a gwasanaethau proffesiynol i sicrhau ein bod yn gwneud gwelliannau gwirioneddol yn y maes hwn ac ar fater ehangach hiliaeth. Wrth ddarllen yr adroddiad yr hyn a’m trawodd fwyaf oedd geiriau agoriadol Amatey Doku (sydd wastad yn haeddu gwrandawiad):  ‘Yn olaf, gofynnaf i arweinwyr prifysgol, y mae arweiniad cryf ganddyn nhw yn hanfodol ar y materion hyn, beidio â thrin y bwlch cyrhaeddiad BAME fel gêm niferoedd. Bydd dadansoddeg data a thargedau’n hanfodol i sicrhau atebolrwydd a thryloywder, ond rhaid i ni beidio â cholli golwg ar y ffaith ein bod yn ymdrin â bywydau unigolion sy’n wynebu gwahaniaethu systematig ym mhob rhan o gymdeithas.’ Dyna beth sydd angen i ni gadw mewn cof wrth i ni ymdrin â’r problemau niweidiol hyn a chynnig ein cefnogaeth i’n holl fyfyrwyr a staff sy’n wynebu’r ymddygiad hwn yn eu bywydau bob dydd.

Gan symud at faterion eraill, llongyfarchiadau i’r Athro Bernard Schutz, sydd wedi derbyn anrhydedd arbennig drwy gael ei ethol i’r Academi Gwyddorau Cenedlaethol uchel ei pharch yn America am ei waith ar donnau disgyrchol, ac i’r Athro Anwen Williams, sef ein hail Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Rydym yn falch iawn o’r ddau ac mae’n braf gweld eu cyfraniadau’n cael eu cydnabod fel hyn.

Yn olaf da oedd gweld ein bod wedi codi saith lle yn y Complete University Guide ddechrau’r mis i safle 26, gan wella ein sgoriau neu aros yr un fath ym mhob mesur ond am un. Yn ôl ein harfer, dydym ni ddim yn gosod gormod o bwys ar y pethau hyn, ond mae pobl eraill yn eu darllen, ac mae’n sicr yn dda gweld y gwelliant hwn.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor