Sgwadron Awyr Prifysgol Cymru
9 Mai 2019Yn ddiweddar, bûm yng Nghinio Blynyddol Sgwadron Awyr Prifysgolion Cymru (UWAS). Fe wnes i fwynhau clywed am y ffyrdd amrywiol mae ein myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi a datblygu gyda’r Awyrlu Brenhinol a meysydd gwaith eraill y Lluoedd Arfog.
Mae UWAS yn un o 15 sgwadron awyr yn y DU ac mae’n cynnig hyfforddiant hedfan a milwrol i fyfyrwyr israddedig. Mae ein myfyrwyr yn datblygu sgiliau arwain, rhyngbersonol, trefnu a chyfathrebu yn ogystal â chael hyfforddiant mewn hedfan awyrennau bach trwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o fentrau cyffrous. Gyda’r holl weithgareddau wedi’u hintegreiddio i’r cwricwlwm, roedd yn amlwg o siarad â rhai o’r myfyrwyr yn y cinio bod hwn yn gyfle gwych ar gyfer datblygiad personol.
Cefais gyfle hefyd i gwrdd â chynrychiolwyr o gymuned ehangach y Lluoedd Arfog gan gynnwys Is-Cadlywydd Awyr Bethel, Pennaeth Ysgol Hyfforddi Hedfan Rhif 6 yr Awyrlu Brenhinol, Capten Grŵp Howard Edwards, Prif Swyddog Sgwadron Awyr St Athans Cymru yr Arweinydd Sgwadron Elford, ac Awyr-Lefftenant Gasson a Westwood. Clywais fwy am y gwaith rhagorol maent yn ei wneud. Roeddwn wrth fy modd yn cynrychioli’r Brifysgol ac yn siarad am weithio gyda chymuned y Lluoedd Arfog a’u cefnogi ers blynyddoedd lawer. Roedd y gwesteion yn falch iawn o glywed bod Caerdydd yn un o’r prifysgolion cyntaf yng Nghymru i arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog, sy’n nodi ein haddewid i gefnogi myfyrwyr sy’n gysylltiedig â’r Lluoedd Arfog.
Roedd yn ddigwyddiad difyr iawn mewn cwmni da gyda bwyd a diod ardderchog. Tynnodd fy sylw at y cyfraniad enfawr sy’n cael ei wneud gan ein Lluoedd Arfog, nid yn unig o ran amddiffyn a chefnogi’r DU a’r byd ehangach, ond hefyd o ran hyfforddi ein myfyrwyr mewn amrywiaeth eang o feysydd.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014