E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Ionawr 2019
1 Chwefror 2019Annwyl gydweithiwr
Gyda Brexit yn cael cymaint o’n sylw (rhywbeth y bydda i’n ei drafod nes ymlaen), efallai y byddwch yn fodlon i mi ddechrau ebost y mis hwn drwy roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Trawsffurfio Caerdydd.
Erbyn hyn, mae Bwrdd Gweithredol y Brifysgol wedi cyflwyno papur swyddogol am y pwnc i’w ystyried gan y Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Chwefror. Bydd y papur yn egluro i ba gyfeiriad y bydd Trawsffurfio Caerdydd yn ein tywys. Fel y gwyddoch, nod y rhaglen yw helpu’r Brifysgol i fod yn gynaliadwy yn ariannol mewn amgylchiadau anodd, a llwyddo i gyflawni’r dyheadau a nodwyd yn Y Ffordd Ymlaen, 2018-23. Roedd y ddogfen honno yn destun ymgynghoriad dwys ac eang am gyfnod o ddwy flynedd. Felly, er gwaethaf yr amgylchiadau ariannol, mae’n bwysig ein bod ni, fel cymuned y Brifysgol, yn cyflwyno’r gwelliannau a nodwyd yn y ddogfen o ran ein hymchwil, dysgu ac addysgu, ac ym meysydd arloesedd, cenhadaeth ddinesig a gweithgareddau rhyngwladol.
Wrth gwrs, bydd angen sêl bendith y Cyngor cyn cyflwyno papur Trawsffurfio Caerdydd, ac ni fyddai’n briodol i mi fynd i fanylion cyn iddo gael ei ystyried, ond bydd yn dangos sut rydym yn bwriadu lleihau ein diffyg gweithredu eleni a bod mewn gwarged yn 2019-20. Fel yr wyf wedi sôn o’r blaen, er nad oes modd gwarantu na fydd diswyddiadau gorfodol yn y dyfodol, ein nod yw cyflawni ein hamcanion drwy ddulliau gwirfoddol os oes modd. Fel y byddwch yn gwybod, agorodd y cynllun diswyddo gwirfoddol ar 3 Ionawr a bydd yn parhau i fod ar agor tan ddiwedd Mai, a byddwn yn gallu adolygu’r sefyllfa wedi hynny. Bydda i ac aelodau eraill o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol yn cwrdd â Phenaethiaid a Rheolwyr Ysgolion ar ôl cyfarfod y Cyngor, a bydd Deborah Collins, ein Prif Swyddog Gweithredu newydd, yn cynnal digwyddiad ar gyfer Rhwydwaith Arweinyddiaeth y Gwasanaethau Proffesiynol. Ar ben hynny, byddwn yn cynnal tri digwyddiad ar gyfer yr holl staff ynghylch Trawsffurfio Caerdydd yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 18 Chwefror. Bydd dau o’r rhain yn Cathays, a’r llall yn y Mynydd Bychan. Mae’r manylion ar y fewnrwyd ac wedi’u cyhoeddi yn Blas hefyd. Bydd yn bwysig dros ben gwrando ar safbwyntiau a theimladau cydweithwyr a myfyrwyr ledled y Brifysgol, a’u deall. Bydd digonedd o gyfleoedd eraill i gyflwyno sylwadau ar unrhyw gynigion a allai gael eu cynnig a’u gwella wrth eu datblygu ymhellach. Yn benodol, hoffwn eich sicrhau y bydd eich llwyth gwaith, a lles staff yn gyffredinol, yn parhau i fod yn flaenoriaeth lwyr yn y dyfodol, a bydd yn rhan annatod o raglen Trawsffurfio Caerdydd. Mewn gwirionedd, mae gwella prosesau a gweithdrefnau er mwyn lleihau llwyth gwaith yn rhan bwysig o’r elfen trawsffurfio gwasanaethau yn Trawsffurfio Caerdydd, ac rydym eisoes wedi lansio adolygiad o’n model llwyth gwaith (cewch wybod rhagor yma).
Rwy’n siŵr y byddwch yn awyddus i wybod hefyd pa baratoadau rydym yn eu gwneud os na fydd cytundeb ynghylch Brexit o ystyried y broses wleidyddol sydd ohoni. Yn y lle cyntaf, hoffwn ddweud ein bod yn paratoi cynlluniau wrth gefn yn rheolaidd os oes angen ymateb gan y Brifysgol gyfan. Felly, bydd ein paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o ddim cytundeb yn seiliedig i raddau helaeth ar gynlluniau sydd eisoes yn bodoli. Y flaenoriaeth gyntaf yw lles unrhyw staff sy’n ddinasyddion o wledydd eraill yn yr UE. Rydym eisoes wedi rhoi arweiniad a chefnogaeth ynghylch sut i wneud cais am statws sefydledig, a byddwn yn parhau i gynnig cymaint o gefnogaeth â phosibl yn ystod y cyfnod anodd ac ansicr hwn. O ran y myfyrwyr, rydym yn cydweithio’n agos â’n partneriaid Erasmus+ ac asiantaethau perthnasol i wneud yn siŵr bod y myfyrwyr sydd ar raglenni cyfnewid Erasmus yn cael eu diogelu. Rydym yn disgwyl cael arweiniad ynghylch unrhyw gamau y bydd angen i ni eu cymryd mewn cysylltiad â myfyrwyr o wledydd eraill yr UE sy’n awyddus i ennill gradd. Mae cydweithwyr o’r gwasanaeth Caffael yn ystyried goblygiadau methu dod i gytundeb ar gyflenwi nwyddau a gwasanaethau, ac maent yn cymryd rhagofalon lle ystyrir bod hynny’n ddoeth. O ran sut gallai hyn effeithio ar deithio, ni fyddwn yn gwybod beth fydd y risg tan yn nes at yr amser, a byddwn yn gwneud unrhyw baratoadau yn unol â hynny. O ran arian ymchwil yr UE, rydym yn cydweithio’n agos â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i fanteisio ar ffynonellau Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Rydym hefyd yn gwneud yn siŵr bod ein ceisiadau i Lywodraeth y DU sy’n cadw golwg ar arian Horizon 2020 yn parhau’n gyfredol. Rydym yn disgwyl cael rhagor o fanylion am warant y Trysorlys (a gyhoeddwyd yn 2016) fydd yn sicrhau’r arian ar gyfer prosiectau Horizon 2020 a rhaglen Erasmus+ os na fydd cytundeb. Mae’r Grŵp Cynlluniau Wrth Gefn ar gyfer Brexit yn ystyried y materion hyn yn rheolaidd ac yn cynnal cofrestr fanwl o risgiau, ond rhowch wybod os oes gennych unrhyw bryderon neu awgrymiadau penodol. Fe wnes i gwrdd â grŵp o academyddion yn gynharach y mis hwn i drafod rhai o’r problemau sy’n ymwneud â Brexit, felly rwy’n ymwybodol o’u pryderon ac rydym yn gwneud popeth posibl i liniaru’r risgiau a wynebwn.
Ar nodyn hapusach, roeddwn wrth fy modd bod Prifysgol Caerdydd wedi codi i’r 11eg safle yn arolwg blynyddol Stonewall o 100 cyflogwr gorau’r DU i bobl LGBT+. Rydym wedi codi tri lle o gymharu â’r llynedd ac rydym yn parhau i fod yn y safle uchaf o blith prifysgolion y DU ar y rhestr. Llongyfarchiadau mawr i bawb sy’n gysylltiedig. Roedd hefyd yn braf gweld bod Prosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd yn ddiweddar wedi gwrthdroi collfarn mewn achos a gynhaliwyd yn 2008. Roedd dwsinau o fyfyrwyr, gyda chymorth pro bono dau fargyfreithiwr sy’n gynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, ymysg y rhai fu’n gyfrifol am helpu i wrthdroi’r gollfarn. Dyma’r ail gollfarn i Brosiect Dieuogrwydd Caerdydd helpu i’w wrthdroi, a hyd yma, ni yw’r unig Brosiect Dieuogrwydd gan un o Brifysgolion y DU i wneud hynny.
Hoffwn longyfarch y cydweithwyr canlynol a gafodd eu henwi yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Llongyfarchiadau i’r Athro Nicola Phillips, OBE, am ei gwasanaeth ym maes ffisiotherapi, i’r Athro Barbara Ryan, MBE, am ei gwasanaeth ym maes optometreg, ac i’r Athro Derek Jones, MBE, am ei wasanaeth ym maes delweddu meddygol a chynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o’r gwyddorau. Mae pob un ohonynt yn glod i Brifysgol Caerdydd ac rydw i’n eu llongyfarch yn fawr ar eu rhagoriaeth. Mae’r Athro Bernhard Schutz o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi cael anrhydedd hynod fawreddog Medal Eddington am ei waith arloesol ym maes tonnau disgyrchiant. Mae’r gwaith hwn wedi helpu i ddangos pa mor bwysig yw dysgu sut i’w canfod er mwyn gwella ein dealltwriaeth o hanes y bydysawd. Mae’r Athro Schutz yn llawn haeddu’r anrhydedd hon ac mae’n brawf pellach o’i rôl hollbwysig wrth arwain y darganfyddiadau yn y maes hwn sy’n torri tir newydd. Ar ran y Brifysgol, hoffwn longyfarch yr Athro Schutz a diolch iddo am yr arbenigedd y mae’n ei roi i ni.
Yn olaf, gair o groeso. Mae Ms Deborah Collins yn ymuno â ni o Gyngor Southwark i fod ein Prif Swyddog Gweithredu newydd, fel y soniais uchod. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio’n agos gyda Deborah a dymunaf bob llwyddiant iddi yn ei rôl newydd. Ac mae’n bleser gen i groesawu ein Canghellor newydd, y Farwnes Jenny Randerson. Mae’r Farwnes Randerson yn ein hadnabod yn dda a hithau wedi cael Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn 2011, ac mae wedi bod yn Rhag Ganghellor ers 2017. Ar ran y Brifysgol, hoffwn longyfarch Jenny, a diolch a dymuno’n dda iddi. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda hi.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014