Ymrwymedig i’n Technegwyr
12 Tachwedd 2018Mae technegwyr yn rhan hanfodol o bob prifysgol. Maen nhw’n gymuned arloesol gydag amrywiaeth eang o dalentau ar draws ystod eang o ddisgyblaethau. Maen nhw’n darparu arbenigedd technegol sy’n sail hanfodol i addysgu, ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth. Rwy’n siŵr y bydd llawer o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, fel fi, yn cofio’r technegydd caredig a’u helpodd nhw drwy sawl problem yn union fel y staff darlithio neu’r goruchwylwyr. Mae diffyg technegwyr ar draws pob diwydiant yn y DU. Dyma un o’r rhesymau pam mae prifysgolion yn cymryd camau nawr i wneud yn siŵr bod rolau technegwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cydnabod, eu datblygu a’u cynnal.
Roeddwn yn falch iawn o glywed ein bod yn un o lofnodwyr cyntaf yr Ymrwymiad i Dechnegwyr. Hoffwn ddiolch i’r Gweithgor, a gadeirir gan Carolyn Donoghue, ac yn arbennig, Fiona Gagg, Rhodri Baker a Liese Ganderton sydd wedi gweithio gyda thechnegwyr eraill er mwyn lansio Cynhadledd y Technegwyr ac annog pobl i ymgysylltu â HEaTED. Nhw hefyd wnaeth sefydlu’r grŵp Yammer Technet hefyd. Mae cydweithwyr o Adnoddau Dynol wedi chwarae rôl hanfodol hefyd – gan gynnwys Cath Hancock a Liz Connolly. Rwy’n siŵr y caiff ein cynllun gweithredu ei roi ar waith gyda’u brwdfrydedd a’u gwaith caled.
Yr wythnos hon, roeddwn wrth fy modd yn mynd i dderbyniad gyda’r hwyr yn Nhŵr Llundain i glywed mwy am gyflawniadau’r Ymrwymiad i Dechnegwyr hyd yma yn ogystal â’r dyheadau ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Disgrifiodd Is-gangellorion, arweinwyr technegol ac yn hollbwysig, y technegwyr eu hunain yr effaith y cafodd hyn arnynt. Roedd yn arbennig o deimladwy clywed gan y technegwyr yn uniongyrchol am eu profiad gwell ac ymdeimlad o falchder yn sgîl ymrwymiad eu sefydliad i’r fenter. Rydym yn gobeithio y gallwn wneud yr un ymrwymiad yma yng Nghaerdydd. Roeddwn yn falch o dderbyn plac ar ran y Brifysgol ac, fel y gwelwch yn y llun, roedd Beefeater cyfeillgar am gymryd rhan hefyd!
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014