Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Gwella’r amgylchedd dysgu digidol

17 Medi 2018

Mae’n bleser gennyf lansio ap y myfyrwyr mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Nawr bydd myfyrwyr yn gallu cael gwybodaeth wedi’i theilwra mewn un man yn syml ac yn gyfleus o’u ffonau.

Bydd yr ap yn gallu eu helpu i gynllunio eu diwrnod, gan roi mwy o amser iddynt ganolbwyntio ar eu hastudiaethau a’u gweithgareddau allgyrsiol. Mae’r ap yn gwbl ddwyieithog a gall myfyrwyr ddewis Cymraeg neu Saesneg fel eu hiaith ddiofyn. Rydyn ni’n credu y bydd myfyrwyr newydd yn ystyried y mapiau o’r campws yn arbennig o ddefnyddiol, a bydd yr holl fyfyrwyr yn gallu cael mynediad at eu ebyst, ceisiadau llyfrgell, a’r amgylchedd dysgu ar-lein. Bydd myfyrwyr sydd ag amserlen addysgu yn gallu gweld y wybodaeth hon pan fydd hi’n cael ei chyhoeddi ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.

Mae gennym dros 33,000 o fyfyrwyr yn ein cymuned, ac mae’n hanfodol i ni allu rhannu gwybodaeth bwysig yn gyflym ac yn effeithiol, a gwneud yn siŵr bod help a chefnogaeth ar gael yn hawdd i’n myfyrwyr. Mae’r ap newydd ar gael i’r holl fyfyrwyr o’r siopau apiau – drwy chwilio am “Cardiff University Students”.

Cyfrannodd myfyrwyr yn fawr at y broses o greu’r ap, a byddant yn parhau i weithio gyda ni i’w ddatblygu ymhellach a’i wella dros y misoedd nesaf.