Adolygiad Reid o Drefniadau Ariannu Ymchwil ac Arloesedd yng Nghymru
13 Mehefin 2018Mae cyhoeddi adolygiad yr Athro Graeme Reid o Gyllid Ymchwil ac Arloesedd yng Nghymru yn ddiweddar, yn achos i ddathlu.
Roeddwn yn aelod o’r panel cynghori fu’n edrych ar y cryfderau, y bylchau a’r potensial er mwyn datblygu ymchwil a gweithgarwch arloesedd cryf yn y dyfodol.
Roedd yn adeiladu ar argymhellion yr Athro Ian Diamond ar gyfer ariannu ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth yn ei adolygiad o addysg uwch a threfniadau cyllid myfyrwyr yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru – a gomisiynodd adroddiad Reid – wedi ymrwymo i gyflwyno’r argymhellion, sy’n cynnwys:
- sefydlu Swyddfa Ymchwil ac Arloesedd Cymru newydd yn Llundain i gynyddu amlygrwydd a dylanwad ymchwil o Gymru;
- £30m yn ychwanegol y flwyddyn i gymell ymchwilwyr i ennill rhagor o arian gan fyd busnes a thu hwnt i Gymru; a
- chreu un brand cyffredinol ar gyfer ei gyllid ymchwil ac arloesedd i gynyddu amlygrwydd, cydlyniad ac effaith ymchwil ac arloesi a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yng Nghymru.
Mae hyn oll i’w groesawu’n fawr wrth i ni wynebu heriau Brexit, ac maent yn clymu’n dwt â’r cyfleoedd a gyflwynir gan Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol.
Ar hyn o bryd, mae ein prifysgolion yn cyfrif am bron i hanner y sylfaen ymchwil yng Nghymru. Maent mewn sefyllfa dda i adeiladu partneriaethau a manteisio ar gyfleoedd ymchwil ac arloesedd.
Yn ystod ei adolygiad, gwelodd yr Athro Reid enghreifftiau o effaith a llwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol ar draws rhagoriaeth ymchwil prifysgolion yng Nghymru.
Serch hynny, gallwn wneud mwy. Mae’n hanfodol – fel yr amlygwyd gan Dasglu Cynyddu Gwerth Cymru mewn adroddiad diweddar – bod ein buddiannau’n cyd-fynd, ein bod yn adeiladu dulliau cyfathrebu o ansawdd uchel ac yn cynnal perthynas ardderchog.
Rhaid i Gymru hwyluso a chyflymu gwaith mewn cyd-ganolfannau Ymchwil a Datblygu ar gampysau sy’n canolbwyntio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg. Bydd Campws Arloesedd Caerdydd, sy’n cael ei ddatblygu gan Bouygues UK, yn ein galluogi i wneud hynny.
Yn ogystal, rhaid i brifysgolion a chyflogwyr gydweithio’n agosach er mwyn ymateb i anghenion sgiliau’r wlad drwy gyd-ddylunio cwricwla, ail-sgilio gydol oes, a datblygiad proffesiynol parhaus.
Mae’n werth cofio bod gan brifysgolion Cymru’r ganran uchaf o ymchwil sy’n ‘arwain y byd’ o ran effaith, yn y Deyrnas Unedig.
Fel y nododd yr Athro Reid, mae cyllideb gynyddol UKRI erbyn hyn yn cyflwyno cyfleoedd o bwys i fusnesau a phrifysgolion Cymru ennill cyllid ychwanegol a llywio cystadleurwydd ar y cyd yn y sector ymchwil ac arloesedd.
Rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014