Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 11 Mehefin 2018

11 Mehefin 2018
  • Nodwyd y byddai’r Athro Stephen Bentley yn rhoi’r gorau i’w rôl Deon Rhyngwladol Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ar 31 Gorffennaf 2018 ac mai’r Athro Omer Rana fyddai’n cymryd ei le.
  • Bu’r cais diweddar i Lywodraeth Cymru am gyllid GCRF yn llwyddiannus.
  • Nodwyd fod Wythnos Her Fawr Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg yn digwydd yr wythnos hon. Daeth y syniad am y digwyddiad gan yr Ysgol Pensaernïaeth a fu’n cefnogi Wythnos Her Fawr Ysgolion lwyddiannus iawn ers nifer o flynyddoedd. Dyma’r digwyddiad cyntaf ar draws y Coleg a’r nod yw annog myfyrwyr i weithio ar brosiectau amser real.
  • Nodwyd bod lansio’r strategaeth Cynaladwyedd Amgylcheddol newydd yn Ras Volvo Ocean wedi cael croeso da, gyda’r Is-Ganghellor yn cael ei ganmol yn y Senedd yn dilyn y digwyddiad.
  • Nodwyd bod nifer o aelodau o gymuned y Brifysgol wedi’u hanrhydeddu am eu cyfraniad eithriadol i gymdeithas yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines:
    • Dyfarnwyd CBE i’r Athro Billie Hunter, Athro Bydwreigiaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, am wasanaethau i fydwreigiaeth ac addysg bydwreigiaeth yn y DU ac Ewrop.
    • Dyfarnwyd CBE i’r Athro Graham Hutchings, Athro Regius mewn Cemeg a Chyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Prifysgol Caerdydd, am wasanaethau i gemeg ac arloesedd.
    • Dyfarnwyd MBE i’r Athro Haley Gomez, o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, am wasanaethau i astroffiseg, seryddiaeth a gweithgareddau allgymorth.
  • Cafodd y Bwrdd Gweithredol gyflwyniad drafft y Brifysgol i’r Cyd-banel Arbenigol. Roedd yr ymateb wedi’i baratoi gan Grŵp Technegol Prisio Actiwaraidd USS Prifysgol Caerdydd ar ran y Brifysgol.
  • Cafodd y Bwrdd y cynnig am broses llwybr carlam wedi’i chynllunio i gyflawni cytundeb cyflym a chymeradwyaeth i gontractau risg isel gyda busnesau allanol a phartneriaid eraill. Cytunwyd y dylai’r Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd beilota dull gweithredu llwybr cyflym gyda chontractau am gyfnod cychwynnol o chwe mis ac adrodd yn ôl i’r Prif Swyddog Gweithredu.
  • Cafodd a chymeradwyodd y Bwrdd Archwiliad drafft Crwsibl Gwyddoniaeth ac Arloesedd De Cymru cyn iddo gael ei anfon at yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol 29 Mehefin 2018.
  • Cafodd a chadarnhaodd y Bwrdd bolisi Gwasg Prifysgol Caerdydd. Byddai’r Senedd yn ystyried y papur ar 20 Mehefin 2018.
  • Cafodd a chymeradwyodd y Bwrdd, yn amodol ar fân newidiadau, y Fframwaith Llywodraethu Diwygiedig. Mae’r fframwaith yn crynhoi’r trefniadau llywodraethu allweddol fel y maent yn berthnasol i’r Brifysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd ac fe’i diweddarwyd i sicrhau bod gweithrediad y Brifysgol yn fwy tryloyw a hygyrch yn ogystal ag ymgorffori newidiadau oedd wedi’u gwneud ers y fersiwn diwethaf.
  • Cafodd y Bwrdd bapur yn darparu gwybodaeth am gorff Ymchwil a Datblygu newydd y DU (UKRI) fel y manylir yn ei Brosbectws Strategol, gyda ffocws penodol ar ei ymrwymiadau datganedig, y cyllid a ryddhawyd hyd yma (ac a gadarnhawyd fel cyllid ar y gweill) a rhai sylwadau ar ffyrdd newydd o weithio yn y tirlun cyllido newydd.
  • Cafodd a nododd y Bwrdd y strategaeth Materion Cyhoeddus newydd oedd wedi’i ddatblygu mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid mewnol i gefnogi amcanion Y Ffordd Ymlaen 2018-23. Mae’r strategaeth yn egluro sut y bydd Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda rhanddeiliaid gwleidyddol yn y blynyddoedd nesaf i fodloni dyheadau corfforaethol, ac mae’n egluro ymagweddau mwy strwythuredig at reoli rhanddeiliaid allweddol, mynychu cynadleddau plaid a threfnu digwyddiadau ymgysylltu.

Derbyniodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd
  • Adroddiad misol prosiectau Ystadau
  • Diweddariad ar yr amgylchedd allanol