Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Diweddariad i’r ohebiaeth rhwng yr Is-Ganghellor ac aelodau UCU sydd ar streic

23 Mawrth 2018

Annwyl lofnodwyr

Fe gofiwch fy mod wedi mynd ati i gyflwyno eich pryderon yng nghyfarfod Grŵp Russell, felly ysgrifennaf atoch i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y mater. Fe eglurais wrth UUL yn ogystal â Bwrdd Ymddiriedolwyr a Grŵp Gweithredol USS pa mor gryf yw’r teimladau a’ch barn ynglŷn â phrisiad 2017. Yn ôl yr amserlen a bennwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau, rhaid cwblhau’r prisiad yr haf hwn, a bydd adolygiad cywir, cynhwysfawr, academaidd wybodus o’r dull prisio yn cymryd sawl mis o leiaf. Mae UUK ac UCU eisoes wedi cytuno i greu grŵp gyda chadeirydd annibynnol i wneud y gwaith hwn. Y sefyllfa ffurfiol ar hyn o bryd yw bod penderfyniad y Cyd-bwyllgor Cenedlaethol ar 23 Ionawr, sef mabwysiadu cynnig gwreiddiol UUK, yn weithredol o hyd, a bydd yn gwneud hynny oni bai bod y Cyd-bwyllgor Cenedlaethol yn cytuno i’w wrthdroi. Byddwch yn ymwybodol, fodd bynnag, bod y cyfnod ymgynghori 60 diwrnod statudol a oedd wedi’i gynllunio i ddechrau ar 19 Mawrth wedi’i ohirio. Os na fydd y Cyd-bwyllgor Cenedlaethol yn dod i gytundeb pellach, ac na chaiff y penderfyniad gwreiddiol ei roi ar waith, bydd yn rhaid i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr weithredu rheol 76.4 cynllun USS. Bydd hyn yn golygu cynnydd o 11% mewn cyfraniadau o 1 Ebrill 2019, gyda’r gweithwyr yn talu 3.85% ohono a’r gweithwyr yn talu 7.15%. Mae’r Rheoleiddiwr wedi datgan yn gyhoeddus (ac yn yr FT) y bydd ymddiriedolwr yr USS yn cael cerydd neu ddirwy os bydd yn methu â chymryd camau amserol. Rydw i’n sylweddoli nad yw hyn yn newyddion calonogol, ond roeddwn am gyfleu yr hyn a ddywedwyd wrtha i yn y ffordd orau y gallaf.

Mae’r sefyllfa’n parhau i fod yn un anodd dros ben, ond credaf fod ewyllys gryf i ganfod ateb. Gyda lwc, mae cyfle o hyd i drafod y sefyllfa bresennol ymhellach. O ran y dyfodol, os gall y grŵp adolygu ddod o hyd i ffordd gynaliadwy o gynnal y lefel bresennol o fudd-daliadau heb orfodi cynnydd sylweddol mewn costau, a bod y Rheoleiddiwr yn cytuno, rydw i’n siŵr y caiff ei mabwysiadu.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Vice-Chancellor/Is-Ganghellor

Cardiff University/Prifysgol Caerdydd