Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 19 Mawrth 2018

19 Mawrth 2018
  • Cafodd y Bwrdd bapur am grŵp o brifysgolion meincnodi y gallai Caerdydd gymharu ei hun â nhw wrth adolygu dangosyddion perfformiad allweddol Y Ffordd Ymlaen.
  • Cafodd y Bwrdd bapur drafft am fonitro Y Ffordd Ymlaen 2018-2023 a sut i adrodd ar y dangosyddion perfformiad allweddol, gan nodi defnydd o fethodoleg RAG ac amserlenni ar gyfer datblygu’r adroddiad llawn.
  • Cafodd y bwrdd gynllun ymgorffori Y Ffordd Ymlaen 2018-2023. Nododd y papur gamau i gefnogi’r ymdrech i gyflawni’r dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer 2018-20, gan gynnwys crynodeb lefel uchel o flaenoriaethu camau gweithredu.
  • Cafodd y Bwrdd yr ymateb i wahoddiad CCAUC am fynegiad o ddiddordeb ar gyfer prentisiaethau gradd yng Nghymru a’i gymeradwyo.
  • Cafodd y Bwrdd newyddion strategol ystadau a’i nodi, byddai hyn nawr yn cael ei anfon ymlaen at y Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau.
  • Cafodd y Bwrdd gynllun cyfathrebu drafft ar gyfer staff a myfyrwyr ynghylch anghydfod pensiynau USS.
  • Cafodd a nododd y Bwrdd y gofrestr Brexit, byddai hyn y mynd ymlaen i’r Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau.
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd agenda ddrafft y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau i’w nodi.
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd agenda ddrafft y Pwyllgor Llywodraethu i’w nodi.
  • Nodwyd bod galwad Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol EPSRC newydd ar draws yr holl ddisgyblaethau.
  • Nodwyd bod presenoldeb da ar y Digwyddiad Cwrdd i Ffwrdd Effaith Ymchwil dros ddau ddiwrnod a bod cyfraniadau’r bobl allanol oedd yn bresennol wedi’i groesawu; byddai’r Bwrdd yn cael crynodeb yn ddiweddarach.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Diweddariad misol o geisiadau myfyrwyr
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop
  • Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata