Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Streic: Bydd yr holl ddysgu ac addysgu yn ailddechrau’r wythnos nesaf

16 Mawrth 2018

Annwyl fyfyrwyr,

Heddiw (dydd Gwener 16 Mawrth) yw diwrnod olaf y streic bresennol gan aelodau’r Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU).

Wrth i mi ysgrifennu’r neges hon, bydd yr holl staff sydd wedi cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol yn ôl yn y gwaith o ddydd Llun (19 Mawrth) ymlaen ac rwy’n rhagweld y bydd wythnos lawn o weithgareddau dysgu ac addysgu yn mynd rhagddi cyn i wyliau’r Pasg ddechrau.

Bydd ysgolion academaidd hefyd yn cyfathrebu â chi yn ystod yr wythnos i roi gwybodaeth am sut y byddant yn cefnogi eich dysgu mewn achosion lle collwyd neu tarfwyd ar ddosbarthiadau yn ystod y gweithredu diwydiannol.

Rwy’n ymwybodol iawn bod y streic wedi bod yn destun pryder ac wedi tarfu ar lawer ohonoch. Mae’n ddrwg iawn gennym bod y sefyllfa hon wedi codi, ac rydym yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi dealltwriaeth glir i’r holl fyfyrwyr o’r camau lliniaru y byddwn yn eu cymryd o ganlyniad i’r tarfu a achoswyd gan y streic.

Fel y bydd rhai ohonoch eisoes yn gwybod, mae UCU hefyd wedi nodi y gallem wynebu rhagor o ddiwrnodau streic, os nad ydym yn dod i gytundeb boddhaol ynglŷn â’r anghydfod presennol.

Nid yw’r dyddiadau hyn wedi eu cadarnhau eto, ond mae UCU wedi awgrymu efallai y byddant yn targedu’r cyfnod asesu ac arholiadau.

Rwy’n gobeithio’n fawr y byddwn yn dod i gytundeb fel nad yw’r streic yn digwydd. Fodd bynnag, os bydd streic, hoffwn eich sicrhau y byddwn yn gwneud pob ymdrech i wneud yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.

Y sefyllfa bresennol yw ein bod yn gweithio’n agos â chydweithwyr ar draws y Brifysgol i sicrhau ein bod yn blaenoriaethu ein hymrwymiadau dysgu ac addysgu i chi.

Rwy’n obeithiol y byddwn yn gallu cadarnhau’r camau penodol y byddwn yn eu cymryd a sut y byddwn yn eich cefnogi i gyflawni’r canlyniadau dysgu ar gyfer eich rhaglen astudio cyn gwyliau’r Pasg.

Rydw i wedi gofyn i’r holl Benaethiaid Ysgol ysgrifennu atoch â’r wybodaeth hon erbyn dydd Gwener 23 Mawrth.

Yn olaf, roedd yn siomedig nad oedd UCU wedi cefnogi cynnig i ddatrys yr anghydfod parhaus yr wythnos hon, yn enwedig gan fod UCU ac UUK wedi cytuno arno yn ACAS yn dilyn sawl diwrnod o drafodaethau a oedd i’w gweld yn adeiladol.

Mae UUK wrthi’n cynllunio rhagor o drafodaethau brys ag UCU ar hyn o bryd. Rwy’n obeithiol y bydd UCU ac UUK yn dod o hyd i ffordd o barhau i gael trafodaethau adeiladol a gweithio at gael ateb dros y diwrnodau ac wythnosau nesaf. Byddwn yn rhannu unrhyw newyddion â chi ynglŷn â’r trafodaethau hyn.

Yn y cyfamser, dylech barhau i fonitro’r wybodaeth a gyhoeddir am y streic drwy Newyddion Myfyrwyr a thrwy’r cwestiynau ac atebion i fyfyrwyr ar y fewnrwyd.

Yn gywir,

 

Amanda Coffey

Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd