Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 12 Mawrth 2018

12 Mawrth 2018
  • Cafodd y Bwrdd y newyddion diweddaraf ar lafar am yr anghydfod diwydiannol.
  • Nodwyd bod yr Is-Ganghellor a’r Athro Holford yn cwrdd â’r Llywydd, Ysgrifennydd ac un aelod arall o gymdeithas myfyrwyr Pobl a’r Blaned heddiw.
  • Nodwyd bod CCAUC wedi cynnig arian ar gyfer prentisiaeth radd ac y byddai papur ynglŷn â phrentisiaethau gradd ar gyfer 2018/19 – 2020/21 yn cyrraedd y Bwrdd yr wythnos nesaf.
  • Nodwyd bod y ddau gynnig cyfalaf ar gyfer cyllid cyfalaf Ymchwil ac Arloesedd CCAUC (mentrau’r Sefydliad Codio a Rhaglen Scale Up SETSquared) a gymeradwywyd gan y Bwrdd yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn llwyddiannus.
  • Nodwyd bod yr Is-Ganghellor wedi bod yn rhan o ymweliad UUKi i Frwsel a oedd yn cynnwys cyfarfod â’r Dirprwy Lysgennad Parhaol i’r UE ac y byddai’r Is-Ganghellor yn sôn am hyn yn ei ebost i’r holl staff yn ddiweddarach y mis hwn.
  • Cafodd y Bwrdd Gynllun Ffioedd a Mynediad drafft CCAUC. Cytunodd y Bwrdd i ddirprwyo awdurdod i’r Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd ar gyfer gwneud newidiadau pellach i’r Cynllun Ffioedd a Mynediad i’w baratoi ar gyfer ei gyflwyno i’r Cyngor.
  • Cafodd y Bwrdd y newyddion diweddaraf am Safonau’r Gymraeg a nodwyd bod y Brifysgol wedi cael dyddiad cau estynedig ar gyfer rhoi’r safonau ar waith, sef 1 Hydref 2018, er mwyn cydymffurfio â rhai Safonau penodol. Cymeradwyodd y Bwrdd yr adroddiad monitro blynyddol er mwyn iddo gael ei gadarnhau gan y Pwyllgor Llywodraethu a’r Cyngor, cyn iddo gael ei gyflwyno i Gomisiynydd y Gymraeg.
  • Cafodd y Bwrdd grynodeb o’r camau allweddol a’r cynnydd at roi argymhellion Adroddiad Bhugra ar waith, gydag argymhellion pellach i gynnal mentrau cydraddoldeb hil yn y tymor hir a sicrhau newidiadau diwylliannol cynaliadwy sylweddol ar draws y Brifysgol.
  • Cafodd y Bwrdd bapur ynglŷn â’r wybodaeth ddiweddaraf ar Gronfeydd Strwythurol Ewrop ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys cynigion newydd sy’n cael eu datblygu.
  • Cafodd y Bwrdd Ddatganiad y Brifysgol ar Gaethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl, a’i gymeradwyo cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cyngor. Pan fydd y Cyngor yn ei gadarnhau, byddai’r datganiad yn cael ei gyhoeddi yn unol â’r gofynion cyfreithiol.
  • Cafodd y Bwrdd bapur ynglŷn ag Wythnos Siarad Staff, a gynhaliwyd ym mis Chwefror. Cytunwyd y byddai cynnig diwygiedig ar gyfer fformat Wythnos Siarad Staff y flwyddyn nesaf yn cael ei ailgyflwyno, ac y byddai’n ystyried ffyrdd o wella ymgysylltiad staff (yn enwedig staff academaidd).

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor
  • Adroddiad chwarterol datblygu a chysylltiadau cynfyfyrwyr
  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
  • Diweddariad Archwilio mewnol
  • Adroddiad misol prosiectau Ystadau
  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd