Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Diwrnod Cenedlaethol Amser i Siarad a Diwrnod Iechyd Meddwl y Brifysgol

9 Mawrth 2018

Rydw i’n ysgrifennu’r blog hwn ar 1 Mawrth 2018, sef Diwrnod Iechyd Meddwl y Brifysgol.  Mae hon yn ymgyrch genedlaethol i ganolbwyntio ein hymdrechion ar hybu iechyd meddwl pobl sy’n byw, gweithio ac astudio mewn Addysg Uwch.  Wrth i’r eira ddisgyn, rydw i’n meddwl yn ôl i 1 Chwefror, diwrnod cenedlaethol Amser i Siarad, pan gefais y fraint wirioneddol o lofnodi Addewid Amser i Newid newydd ar ran y Brifysgol. Cafodd ei gyflwyno i ni i gydnabod ein cynllun gweithredu newydd ac ein gwaith i leihau stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu.

Mae Ymgyrch #Let’sShare wedi’i datblygu i gefnogi Amser i Newid, mudiad ar dwf sy’n ceisio newid sut mae pawb yn meddwl ac yn ymddwyn yng nghyd-destun iechyd meddwl. Mae’n annog pob un ohonom i rannu mwy am ein hiechyd meddwl ein hunain ac annog pobl eraill i fod yn fwy agored am eu hiechyd meddwl, fel ffordd i’n cynorthwyo ni ein hunain, cynorthwyo pobl eraill, a helpu i drechu’r stigma sydd yn y maes o hyd.  Mae pum prif neges ganddi:

Rhannu  – eich teimladau gyda phobl eraill

Annog  – eraill i siarad am eu hiechyd meddwl

Nodi – pan mae angen cymorth iechyd meddwl

Newid – yr iaith yr ydym yn ei defnyddio am iechyd meddwl

Un – peth bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr

 

Roeddwn i bron yn fy nagrau wrth i sawl aelod dewr o staff a myfyrwyr rannu eu profiadau iechyd meddwl eu hunain ar ffilm i gefnogi’r Ymgyrch, a dangoswyd y fideo pwerus hwn am y tro cyntaf ar y noson.  Cofiwch wylio’r fideo. Rydw i’n siŵr y bydd yn ein hatgoffa o’n dyletswydd fel cymdeithas i ofalu am y bobl o’n cwmpas, a allai fod yn ymladd brwydr nad oes neb yn ymwybodol ohoni. Mae gymaint o bobl sy’n dioddef o’u salwch yn dawel o ganlyniad i’w pryder fod stigma yn gysylltiedig â’r salwch o hyd.  Hoffwn ddiolch i’r hyfryd Jo Pinder (ein Hymarferydd a Chwnselydd Lles Seicolegol) a drefnodd y digwyddiad cyfan, a’n staff a myfyrwyr dewr oedd yn barod i rannu eu profiadau iechyd meddwl ac oedd wrth law ar y noson i annog eraill i siarad. Diolch hefyd i’r holl westeion a aeth i’r digwyddiad bythgofiadwy hwn.

Yn y llun gyda’n haddewid wedi’i lofnodi mae (Ch-Dd) Jo Pinder, Ben Lewis, Karen Holford a Hollie Cooke.

Ewch ati i  gael gwybod rhagor  am  Ymgyrch  #Letsshare  a sut y gallwch gymryd rhan yng  ngwaith  Amser i Newid  y Brifysgol. Chwiliwch am arddangosfa #LetsShare fydd i’w gweld mewn amryw leoedd ar draws y Brifysgol.