Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Ein Datganiadau Ariannol ar gyfer 2016-17

19 Rhagfyr 2017

Yn gyntaf oll, Nadolig llawen iawn a blwyddyn newydd lewyrchus i bob un ohonoch. Rydw i’n ddiolchgar i fy nghydweithwyr am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn ystod fy chwe mis cyntaf yma. Mae ymgyfarwyddo â’r Brifysgol wedi bod yn brofiad hynod bleserus a gwerth chweil, ac mae wedi helpu i baratoi ar gyfer ein strategaeth newydd yn 2018.

Wrth i 2017 ddirwyn i ben, rydym wedi bod yn brysur yn cau pen y mwdwl ar ein Datganiadau Ariannol ar gyfer 2016/17. Dyma ddogfen ar gyfer y rheini sy’n hoff o ffigurau ac sy’n rhoi manylion ein hincwm a’r modd yr ydym wedi gwario ein harian. Mae’n bleser gennyf eich hysbysu ein bod mewn sefyllfa ariannol gadarn er gwaetha’r hinsawdd ariannol heriol sydd ohoni, a hon oedd fy neges hefyd yn fy nghyflwyniad yn ystod anerchiad blynyddol yr Is-Ganghellor ym mis Hydref.

Mae ein strategaeth bresennol yn gofyn am warged arian gweithredol o 5% ac, yn ôl ein ffigurau, fe wnaethom gyflawni 8% yn ystod 2016/17. Unwaith eto, rydym wedi cynyddu ein darpariaeth addysgu yn unol â thwf mewn niferoedd myfyrwyr, ond nid yw pethau’n fêl i gyd. Mi fydd yr esgid fach yn gwasgu ar brifysgolion dros y blynyddoedd nesaf ac rydym eisoes wedi profi hynny. Er y cynnydd mewn incwm addysgu – ein prif ffynhonnell incwm, bu gostyngiad o £7m yng nghyfanswm ein hincwm yn 2016/17 i £505m. Roedd hyn o ganlyniad i ostyngiad yn ngrantiau’r cyngor cyllido a gostyngiad bach mewn incwm ymchwil. Yn y cyfamser, cynyddodd ein gwariant yn 2016/17 wrth i ni barhau i ganolbwyntio, yn amlwg, ar addysgu ac ymchwil.

Er ein bod mewn sefyllfa ariannol gref, rydym ni a phrifysgolion ledled y wlad yn wynebu heriau, a byddwn yn parhau i fod yn bwyllog yn ariannol yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd ariannol. Rwy’n edrych ymlaen at flwyddyn lwyddiannus i Brifysgol Caerdydd wrth i ni roi ein strategaeth newydd ar waith, ac adeiladu ar y cynnydd ardderchog yr ydym yn ei wneud.