Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 4 Rhagfyr 2017

4 Rhagfyr 2017
  • Nodwyd bod y Brifysgol wedi ennill dwy wobr yng ngwobrau Times Higher Education yr wythnos ddiwethaf, ar gyfer Prosiect Phoenix a Phrosiect Bryngaer CAER.
  • Cafodd y Brifysgol gyhoeddiad ffurfiol am ei Gwobr Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down Prifysgol Caerdydd.
  • Nodwyd bod y Brifysgol wedi ennill dwy wobr yng Ngwobrau Pride CIPR Cymru, ar gyfer Cyswllt Caerdydd a #Cymdeithasol7.
  • Nodwyd bod y Pwyllgor REF wedi cael cyfarfod i adolygu REF Treigl II ac y gwnaed cynnydd yn y Colegau.
  • Cafodd y Bwrdd bapur a oedd yn amlinellu un ar ddeg o’r prif Ddangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer Y Ffordd Ymlaen 2018-23 a dangosyddion yr is-strategaethau. Cafwyd trafodaeth am nifer o’r dangosyddion a chytunwyd y dylid cyflwyno papur diwygiedig i’r Bwrdd ym mis Ionawr 2018, i’w ystyried ar yr un pryd â’r cynlluniau gweithredu.
  • Cafodd y Bwrdd yr Ymgynghoriad ar yr Adolygiad o God Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch a chytunwyd i gymeradwyo ymateb drafft y Brifysgol ac argymell y dylai gael ei gyflwyno i QAA.
  • Cafodd y Bwrdd bapur ar Ddatganiad o Fwriad 2017-22 Rhaglen Ymchwil Canser Integredig Prifysgol Caerdydd. Nodwyd bod y datganiad wedi cynnwys cyfraniadau gan wahanol rannau o gymuned ymchwil canser y Brifysgol, ac mai ei nod oedd datblygu cynllun ar gyfer y dyfodol.  Cytunwyd i gymeradwyo’r weledigaeth, uchelgais a’r cynlluniau.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am bolisi gweithredu optio allan LearnPlus. Roedd y papur yn amlinellu’r camau a gymerwyd a’r camau pellach sydd eu hangen er mwyn i Bolisi Optio Allan LearnPlus gael ei weithredu’n llawn o 2018/19 ymlaen, lle byddai’r holl ddarlithoedd a gweithgareddau addysgu addas yn cael eu recordio drwy system LearnPlus oni chytunir fel arall, gan hysbysu myfyrwyr am y penderfyniad hwnnw.  Cytunwyd i ddirprwyo awdurdod i Ddirprwy Is-ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd i oruchwylio’r gwaith o ymgorffori’r polisi ar draws yr holl Ysgolion mewn pryd ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2018/19, gan weithio’n agos gyda Dirprwy Is-gangellorion Colegau a Deoniaid Colegau.

Cyflwynwyd i’r Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol

  • Y newyddion diweddaraf am y System Arloesedd
  • Diweddariad misol Ymchwil ac Arloesedd
  • Diweddariad misol am y gweithgareddau ymgysylltu
  • Diweddariad ar yr amgylchedd allanol