Fy chwe mis cyntaf
8 Tachwedd 2017Yn ystod fy misoedd cyntaf fel Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, rydw i wedi ymweld â phob un o’n saith Ysgol ac wedi mwynhau siarad â chydweithwyr a myfyrwyr, yn ogystal â chymryd cip ar gyfleusterau ymchwil ac addysgu. Mae’r holl ddatblygiadau arloesol yn ein Hysgolion wedi gwneud argraff arnaf.
Wrth i’r flwyddyn academaidd newydd fwrw rhagddi, mae’n bwysig ein bod yn parhau i weithio ar ein blaenoriaethau a hoelio ein sylw ar y meysydd lle allwn ni wella, yn ogystal â dathlu lle’r ydym ni’n gwneud yn dda. Wrth baratoi ar gyfer lansio’r Ffordd Newydd Ymlaen rydym ni eisoes wedi dechrau gweithio ar ddatblygu cynlluniau gweithredu, ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chydweithwyr ar draws y Coleg i sicrhau ein bod yn cyflawni ein nodau strategol. Credaf mai dim ond mewn amgylchedd lle mae pob aelod o staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn gallu gwireddu eu llawn botensial y gallwn gyflawni hyn. Felly mae gwella cymorth yn un o flaenoriaethau Bwrdd y Coleg eleni. Yn ddiweddar, ymwelodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol, Karen Cooke a Manjit Bansal, Cadeirydd y Rhwydwaith BME+ a chyfarfod Bwrdd y Coleg i’n hysbrydoli a’n haddysgu ar newidiadau cadarnhaol mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae bwriad i adrannau a Cholegau eraill ymweld â Bwrdd y Coleg i wella ein diwylliant gweithio cydweithredol.
Mae ein myfyrwyr yn parhau i’n cydnabod am ansawdd uchel ein hadnoddau dysgu ac addysgu ac rydym wedi cael adborth arbennig o dda yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol ar gyfer ein rhaglenni Meistr Integredig, sy’n cael eu cynnig yn y mwyafrif o’n hysgolion. Rydym ni’n gwybod bod lle i wella mewn nifer o feysydd, ac rydw i wedi cwrdd â phob ysgol i drafod sut y gellid cyflawni hyn. Rydym ni wedi dechrau adolygiad treigl o’n haddysgu, a fydd yn canolbwyntio ar welliant parhaus a dathlu rhagoriaeth. Rydw i’n arbennig o falch pan mae ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i ennill gwobrau am eu hymdrechion, ac eleni enillodd un o’n graddedigion cyfrifiadureg, Samuel Martin, wobr yn y Gwobrau mawreddog i Israddedigion ar gyfer datblygu robot sganio 3D cost-isel y gellir ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd adfer trychineb.
Gwnaed argraff arnaf hefyd gan ein tîm Coleg gwych, a’u gwaith caled a’u hymrwymiad i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar y cwsmer ac yn ymateb i anghenion ein Hysgolion.
Ym mis Hydref, roeddwn i’n falch iawn o glywed bod yr Athro Graham Hutchings, Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd, wedi ennill y wobr Advanced Environmental Solutions Prize gan gwmni ENI o’r Eidal am ddatblygu proses sy’n defnyddio’r metel gwerthfawr aur fel catalydd i gynhyrchufinyl clorid yn hytrach na chatalydd mercwri hynod wenwynig. Caiff finyl clorid ei drosi yn PVC, y trydydd plastig polymer mwyaf poblogaidd yn y byd.
Yn olaf, lansiodd ein Cyfres gyntaf o Ddarlithoedd Coleg ym mis Medi gyda darlith hynod lwyddiannus gan yr Athro Patrick Sutton ar donnau disgyrchol. Yna, roedd Grŵp Ffiseg Ddisgyrchol Prifysgol Caerdydd yn dathlu dyfarnu Gwobr Nobel eleni mewn Ffiseg i Rainer Weiss, Barry C. Barish a Kip S. Thorne am gyfraniadau i’r synhwyrydd LIGO ac arsylwi tonnau disgyrchol. Yn ystod y degawd diwethaf, mae ein Grŵp Ffiseg Disgyrchiant, sy’n rhan allweddol o dîm LIGO, wedi gosod y sylfeini ar gyfer sut yr awn ati i ddarganfod tonnau disgyrchiant, ac maent wedi datblygu algorithmau a meddalwedd newydd sydd, erbyn hyn, yn offer safonol ar gyfer chwilio am y signalau hyn.
Fis diwethaf, roeddem ni’n falch iawn o groesawu’r Athro Aseem Inam o Ysgol Bensaernïaeth Cymru a gyflwynodd ddarlith hir-ddisgwyliedig ar “Drawsnewid Dinasoedd/Trawsnewid Trefolaeth” . Ymunodd yr Athro Inam â ni’r llynedd fel Cadeirydd Dylunio Trefol, gan arwain ar un o’n rhaglenni ôl-raddedig mwyaf llwyddiannus, yr MA mewn Dylunio Trefol sy’n cael ei gynnal ar y cyd â’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. Roedd hi’n ddiddorol iawn clywed sut mae myfyrwyr ar y cwrs yn defnyddio Caerdydd, y ddinas, fel eu labordy yn ogystal ag archwilio cynseiliau o amgylch y byd. Mae’r ffilm fer hon yn rhoi crynodeb diddorol iawn o’r hyn y mae’r cwrs yn ei gynnig https://www.youtube.com/watch?v=4nZHAcgA_nY
Rydw i’n edrych ymlaen at ddarlithoedd arddangos gan lawer mwy o’n cymuned ddawnus ar draws y flwyddyn academaidd nesaf ac yn gobeithio gweld cydweithwyr o bob rhan o’r brifysgol yn y darlithoedd, yn ogystal â’r derbyniad sy’n dilyn pob sgwrs.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014