Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 23 Hydref 2017

23 Hydref 2017
  • Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd ffioedd dysgu yng Nghymru’n codi uwchlaw £9,000 ac y byddai manylion llawn cyllideb Llywodraeth Cymru’n cael eu cyhoeddi ar 24 Hydref.
  • Nodwyd bod Cyd-Gadeiryddion y Cyngor Gwyddoniaeth a Thechnoleg, yr Athro Sir Mark Walport a’r Athro Fonesig Nancy Rothwell wedi sôn am Led-ddargludyddion Cyfansawdd a rôl Caerdydd mewn ymchwil a hyfforddiant yn eu llythyr i’r Prif Weinidog ynglŷn â manteisio ar wyddoniaeth a thechnoleg i sicrhau budd economaidd ledled y DU.
  • Nodwyd bod nifer yr ymwelwyr yn y Diwrnod Agored ddydd Sadwrn yn uwch na’r llynedd, er gwaethaf y tywydd.
  • I godi Proffil Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, cytunwyd y byddai pob aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol yn eirioli dros nodwedd warchodedig, a gofynnwyd i aelodau roi gwybod i’r Athro Holford am y nodwedd yr hoffent eirioli drosti.
  • Nodwyd bod mwy na 100 o aelodau staff wedi bod i Gynhadledd Hydref y Gwasanaethau Proffesiynol yn y Deml Heddwch, i benderfynu ar y ffordd orau o fynd ati i gynnal y prosiect Trawsnewid Gwasanaethau, ac i ymgynghori ar y Strategaeth Pobl newydd.
  • Cafodd y Bwrdd achos busnes oedd yn amlinellu’r angen i’r Ysgol Pensaernïaeth symud i un safle; cytunodd y Bwrdd i neilltuo cyllid ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb.
  • Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar y cynnydd yn erbyn argymhellion a chynllun gweithredu Adolygiad Bhugra. Nodwyd nad oedd y papur wedi sôn am y newid mewn diwylliant yn yr Ysgol Meddygaeth, ac y dylai’r diweddariad nesaf i Fwrdd Gweithredol y Brifysgol gynnwys astudiaethau achos sy’n dangos y newid diwylliannol hwn.

Cyflwynwyd i’r Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol

  • Adroddiad misol y Prif Swyddog Gweithredu
  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd