Calon y Gymuned
31 Mawrth 2017Yn ddiweddar, bues i’n Grangetown i gwrdd â rhai o’r bobl sydd y tu ôl i brosiect ymgysylltu’r Brifysgol, sy’n creu partneriaethau yn y gymuned.
Mae’r Tîm Porth Cymunedol, sy’n gweithio’n agos â Phrosiect Pafiliwn Grange a Gweithredu Cymunedol Grangetown, wedi llwyddo i gael grant datblygu gwerth £50,000 gan y Gronfa Loteri Fawr. Bydd hyn yn datblygu eu syniadau i drawsnewid yr hen bafiliwn a’r lawnt fowlio yn Grangetown.
Bues i, yr Is-Ganghellor yr Athro Colin Riordan a’r Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata Claire Sanders, i’r pafiliwn i gael clywed mwy gan dîm y prosiect a rhai o’r partneriaid lleol sy’n gwneud gwir wahaniaeth yn y gymuned. Roedd yn wych cwrdd â phlant ysgol, myfyrwyr, arweinwyr busnes, cydweithwyr o’r Brifysgol ac aelodau o gymuned Grangetown.
Mae trawsnewid yr hen bafiliwn bowlio yn lleoliad ac adnodd sy’n ffynnu, yn rhan fawr o’r hyn y maen nhw’n ei wneud, ond mae mwy i’r gwaith na hynny. Fe wnaethom glywed hefyd sut mae’r bartneriaeth rhwng y Brifysgol a’r gymuned wedi helpu i ddatblygu fforwm busnes lleol; gweithio gyda Gweithredu Cymunedol Grangetown a’r gwasanaethau argyfwng i lansio wythnos diogelwch y gymuned; helpu i greu grŵp rhedeg a fforwm i bobl ifanc; cefnogi datblygiad diwrnodau codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl; ac wedi dod â chymdogion yn agosach at ei gilydd drwy drefnu parti stryd lwyddiannus.
Mae mwy i’w wneud o hyd, ond dylai’r tîm fod yn falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma mewn cyfnod byr.
Darllen ebost yr Is-Ganghellor at yr holl staff, lle mae’n sôn am ei ymweliad at Bafiliwn Grange.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014