
- Croesawyd yr Athro Ruedi Allemann, Dirprwy Is-ganghellor newydd y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, i’w gyfarfod cyntaf fel aelod o’r Bwrdd.
- Nodwyd bod yr Athro Damien Murphy wedi’i benodi’n Bennaeth Cemeg dros dro.
- Nodwyd bod Dr Tom Hall wedi’i benodi’n Bennaeth newydd Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
- Nodwyd bod Cyngor Caerdydd wedi llofnodi Adran 106 ar gyfer Canolfan Bywyd y Myfyrwyr gan olygu bod modd mynd ati nawr i ddechrau’r gwaith paratoadol.
- Nodwyd bod Blog Brexit y Brifysgol wedi’i lansio gyda chynnwys academaidd am beth mae Brexit yn ei olygu i Gymru.
- Nodwyd ymweliad diweddar yr Is-Ganghellor â Namibia a’i gyfarfodydd lefel uchel gyda dau Ysgrifennydd Parhaol a’r Dirprwy Brif Weinidog.
- Cafodd y Bwrdd lythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017/18 a nododd, yn ôl y disgwyl, y byddai diffyg ariannol yn 2017/18.
- Cafodd y Bwrdd bapur am strategaeth recriwtio myfyrwyr o’r UE. Roedd y papur yn amlinellu perfformiad, strategaeth, gweithrediadau ac adnoddau’r Brifysgol ar gyfer recriwtio myfyrwyr o’r UE ar hyn o bryd, yn ogystal â’r safbwyntiau ynghylch llunio strategaeth newydd ar gyfer recriwtio myfyrwyr o’r UE ar ôl Brexit.
- Cafodd y Bwrdd bapur am brentisiaethau gradd a amlygodd y cyfleoedd y mae’r rhain yn eu cynnig i recriwtio rhagor o fyfyrwyr a chreu partneriaethau strategol gyda chwmnïau a diwydiant. Mynegwyd pryder yn y papur hefyd ynghylch y ffaith nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau sut yr oeddent yn bwriadu ariannu prentisiaethau israddedig a lefel uwch. Cytunwyd y byddai grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei sefydlu, wedi’i gadeirio gan yr Athro Holford, i edrych yn fanylach ar gyfleoedd ym maes prentisiaethau gradd.
- Cafodd y Bwrdd grynodeb am yr arolwg DLHE newydd.
- Adolygodd y Bwrdd gofrestr Brexit, a chaiff y papur ei gyflwyno nawr gerbron y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau a’r Cyngor i’w nodi.
- Cafodd y Bwrdd bapur diwygiedig Gonestrwydd Ymchwil.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.
- Adroddiad misol yr Ystadau
- Y newyddion diweddaraf am yr amgylchedd allanol