Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 7 Tachwedd 2016
7 Tachwedd 2016- Cafodd y Bwrdd bapur a oedd yn amlinellu cynlluniau gweithredu NSS Colegau, a oedd yn rhoi’r diweddaraf am y camau gweithredu yn y tri Choleg mewn ymateb i ganlyniadau NSS 2016. Nodwyd y byddai’n ddefnyddiol i’r Bwrdd a Grŵp Perfformiad Academaidd y Brifysgol weld manylion llawn y cynnydd, fesul Ysgol, ynghyd â system golau traffig i’w graddio.
- Cafodd y Bwrdd bapur am ganlyniadau’r Colegau yn elfen effaith y REF Treigl.
- Cafodd y Bwrdd gopi o’r hyn a gyflwynodd yr Ysgol Ieithoedd Modern, ynghyd â drafft o’r hyn a gyflwynodd y Brifysgol, i Ymchwiliad Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Addysg: Yr effaith y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar addysg uwch. Cytunwyd y byddai ymateb y Brifysgol yn elwa ar rai o’r ffeithiau am raglen Erasmus yn ymateb yr Ysgol Ieithoedd Modern, ac y dylai’r rhain gael eu cynnwys. Cytunwyd y dylid uno ymateb y Brifysgol ag ymateb yr Ysgol Ieithoedd Modern er mwyn creu un ymateb gan Brifysgol Caerdydd i Ymchwiliad Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Addysg, ac y gallai ymateb yr Ysgol Ieithoedd Modern gael ei gyflwyno fel cyflwyniad academaidd.
- Cafodd y Bwrdd ddrafft o’r dystiolaeth ysgrifenedig i’w chyflwyno gan y Brifysgol i Ymchwiliad Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Faterion Cymreig: Goblygiadau canlyniad refferendwm yr UE i Gymru. Cytunwyd y dylid ei chyflwyno, ar ôl gwneud ambell i fân ddiwygiad.
- Cafodd y Bwrdd bapur a oedd yn amlinellu rhaglen symudedd allanol. Mae’r papur hwn wedi mynd i Grŵp Brexit Addysg Uwch Llywodraeth Cymru, y mae’r Is-ganghellor yn aelod ohono.
- Cafodd y Bwrdd ddrafft o ddatganiad y Brifysgol ynglŷn â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Cytunwyd i argymell i’r Cyngor y dylid cyhoeddi’r datganiad yn unol â’r gofynion cyfreithiol.
- Cafodd y Bwrdd bapur am wella’r llwybrau at annibyniaeth yrfaol. Nodwyd bod yr Athro Kim Graham wedi cadeirio gweithgor, a oedd yn cynnwys arbenigwyr academaidd a phroffesiynol, er mwyn nodi’r heriau allweddol o ran cefnogi a galluogi dyheadau Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa (ECR) yn y Brifysgol. Cytunwyd i gymeradwyo argymhellion y gweithgor i ddatblygu Prifysgol Caerdydd fel ‘Prifysgol dechrau gyrfa’, a chytunwyd y dylai’r Bwrdd ystyried papur sy’n amlinellau’r cylch gorchwyl ac amserlen y gweithgareddau i gyflawni’r argymhellion.
- Nodwyd bod y llawlyfr metrigau TEF ar gyfer Prifysgol Caerdydd wedi cyrraedd, a bod yr adran Cynllunio’n gweithio ar yr hyn y mae’r metrigau’n ei ddweud wrthym a’r camau y dylwn eu cymryd. Mae angen cyflwyno’r cais TEF2 erbyn 26 Ionawr 2017, a bydd yn cynnwys y llawlyfr metrigau a naratif 15 tudalen; bydd rhagor o ganllawiau’n cyrraedd ym mis Tachwedd a bydd y Bwrdd yn ystyried drafft o gyflwyniad y Brifysgol ym mis Rhagfyr 2016.
- Nodwyd bod y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, wedi cael profiad cadarnhaol iawn wrth ymweld â’r Academi Meddalwedd Genedlaethol.
- Nodwyd bod yr Athro Treasure wedi mynd i lansiad yr Archwiliadau Gwyddoniaeth ac Arloesedd ym Manceinion.
- Nodwyd bod yr Is-ganghellor wedi mynd i gyfarfod Grŵp Russell-C9 yn Shanghai, a bod y trafodaethau wedi nodi bod cyfleoedd i gydweithio ym meysydd sgiliau, menter a myfyrwyr.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd
- Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
- Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
- Adroddiad misol yr Ystadau
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014