Dathlu llwyddiant ein myfyrwyr
11 Awst 2016Graddio yw un o fy hoff adegau o’r flwyddyn; mae’n gyfle gwych i ddathlu’r Brifysgol a’n myfyrwyr.
Rwyf wastad yn teimlo rhywfaint o densiwn yn ystod wythnos y seremonïau graddio – nid yn unig o ran y myfyrwyr sydd ar fin cael eu hanrhydeddu, ond hefyd ymysg y cyflwynwyr ar y llwyfan. Mae’r cyflwynwyr academaidd yn gwneud eu gorau glas i wneud yn siŵr eu bod yn darllen enwau’r miloedd o fyfyrwyr yn gywir, fel bod eu moment ar y llwyfan yn berffaith. Hoffwn ddiolch i’r holl staff, yn ogystal â holl staff y gwasanaethau academaidd a phroffesiynol, a gyfrannodd at gyfres arall o seremonïau godidog.
Cefais y fraint o gyflwyno tystysgrifau i fyfyrwyr MA, PhD ac MPhil mewn 5 seremoni raddio – tua 541 o fyfyrwyr mewn 48 awr. Fy hoff ran o’r seremonïau hyn yw’r adeg pan mae graddedigion yn troi i wynebu eu teulu a’u ffrindiau ac yn diolch iddynt am eu cefnogaeth. Mae bob amser yn emosiynol ac yn bendant yn uchafbwynt o’r seremoni.
Cafodd cyflawniadau’r staff eu cydnabod hefyd a hoffwn longyfarch yr Athro Emerita y Fonesig Teresa Rees a gafodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd. Pleser o’r mwyaf oedd gallu treulio amser gyda’r Fonesig Teresa a’r nofelydd arobryn Sarah Waters a gafodd ei hanrhydeddu hefyd yn ystod y seremonïau.
Ymhlith y 6,339 myfyrwyr a raddiodd eleni, roedd 3,218 ohonynt yn dod o Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Roedd y rhain yn cynnwys rhai cyrsiau a rhaglenni yr oedd y Coleg yn eu cynnig am y tro cyntaf. Yn benodol, dathlodd yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ei graddedigion cyntaf o raglen ‘Archwilio’r Gorffennol’.
Hefyd, buom yn dathlu llwyddiant y gyntaf o dair carfan i raddio ar raglen Meistr mewn Ymarfer Addysgol (MEP Cymru) yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae’r rhaglen hon, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn rhoi cyfle i athrawon sydd newydd gymhwyso ennill gradd Meistr o Brifysgol Caerdydd. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y graddiodd 198 o fyfyrwyr yn y garfan gyntaf hon. Edrychaf ymlaen at ddathlu llwyddiant yr ail a’r drydedd garfan yn ystod y blynyddoedd nesaf.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014