Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Ebrill 2016

29 Ebrill 2016

Annwyl gydweithiwr

Anaml y cewch ebost misol cymharol fyr gen i, ond dyma un o’r achlysuron hynny. Go brin y bydd neb yn colli cwsg am y peth, ond mae cymaint o bethau ar y gweill ar hyn o bryd fel ei bod yn anodd dweud rhyw lawer am y cyd-destun yn gyffredinol, ar wahân i’r ffaith fod popeth yn dibynnu ar beth fydd yn digwydd yn ystod y misoedd nesaf.

Erbyn fy ebost nesaf, byddwn yn gwybod canlyniad etholiadau’r Cynulliad a chyfansoddiad y llywodraeth nesaf, rwy’n tybio. Caiff yr argymhellion yn Adolygiad Diamond eu cyhoeddi wedi hynny (ddechrau Mehefin yn ôl pob tebyg) ynglŷn â sut i gefnogi myfyrwyr ac ariannu prifysgolion yng Nghymru, ac mae llawer yn dibynnu ar hynny. Bydd angen i ni aros tan fis Mehefin hefyd am ganlyniad y refferendwm ynghylch aelodaeth Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd. Ar wahân i’r refferendwm ynghylch annibyniaeth yr Alban yn 2014, o bosibl, ni allaf gofio unrhyw bleidlais o’r fath fydd yn cael effaith mor bellgyrhaeddol. Erbyn hynny, mae’n debygol iawn y bydd llywodraeth San Steffan wedi cyflwyno papur gwyn am addysg uwch yn Lloegr. Bydd y papur yn amlinellu cynlluniau ar gyfer deddfu ynghylch materion sy’n ymwneud â threfnu ymchwil yn y DU, Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu arfaethedig Lloegr, sicrhau ansawdd, a materion eraill cysylltiedig. Dyma fydd y broses aildrefnu mwyaf yn seilwaith addysg uwch ers Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, a does dim dwywaith y bydd yn effeithio arnom ni yma yng Nghymru, er mai yn Lloegr yn unig y bydd llawer o’r gofynion yn berthnasol. Mae Gweinidog y Prifysgolion a’r Gwyddorau, Jo Johnson, hefyd wedi comisiynu adolygiad o’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), a disgwylir adroddiad tua diwedd yr haf neu yn yr hydref. Go brin bod angen i mi amlygu pwysigrwydd y canlyniad. Yn olaf, mae Universities UK, o dan arweiniad Syr David Bell (Is-Ganghellor Prifysgol Reading), wedi lansio ymchwiliad i asiantaethau’r sector. Mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau fel yr Academi Addysg Uwch, yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, Sefydliad Arweinyddiaeth Addysg Uwch, Jisc, y Sefydliad Sicrhau Ansawdd, a phedair o asiantaethau tebyg eraill sy’n gysylltiedig â’r sector. Nid wyf am fynd i ormod o fanylion ond, yn syml, mae Cyngor Ariannu Addysg Uwch Lloegr yn rhoi’r gorau i ariannu’r sefydliadau hyn, felly bydd angen i brifysgolion dalu amdanynt. Mae grŵp Syr David Bell yn ystyried beth fydd goblygiadau hyn a sut gallai gael effaith arwyddocaol ar y prifysgolion yn ogystal â’r asiantaethau o dan sylw, wrth gwrs.

Yn ôl yr arfer, fe wnaf fy ngorau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y ffactorau allanol hyn a cheisio egluro’r peryglon a’r cyfleoedd i Brifysgol Caerdydd mewn sector addysg a allai fod yn dra gwahanol.

Ychydig iawn y gallwn ei wneud ynglŷn ag unrhyw un o’r materion uchod. Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw’r ymchwilwyr a allai fod yn cyflwyno eu gwaith ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf. Erbyn hyn ceir gorchymyn sy’n mynnu bod mynediad agored at bob erthygl a gyhoeddir ar ôl 1 Ebrill 2016. Rhaid i unrhyw allbwn a gyflwynir i’r REF nesaf gadw at y gofyniad hwn a orfodwyd yn allanol, o fewn yr amserlen ddynodedig. Felly, anogaf bob ymchwilydd i ddarllen y cyfarwyddiadau perthnasol i wneud yn siŵr bod modd iddynt gyflwyno eu gwaith ar gyfer REF 2020. Mae hwn yn fater pwysig a brys, felly cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn gwybod yn union beth sydd angen ei wneud.

Yn olaf (gan gadw at fy addewid i fod yn gryno’r mis hwn!), hoffwn longyfarch yr Athro Karen Holford a Dr Kelly BéruBé sydd wedi cael eu cydnabod yn Seremoni Wobrwyo gyntaf Gwobrau Womenspire Chwarae Teg, am eu hymrwymiad i gyfle cyfartal ac am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod yng Nghymru. Enillodd Karen wobr ‘Menywod mewn Addysg’ a chyflwynwyd gwobr ‘Arloeswr ym Mhynciau STEM’ i Kelly am ei gwaith yn hyrwyddo STEM fel dewis gyrfaol i fenywod. Mae Karen a Kelly yn esiamplau rhagorol i eraill, ac rwyf yn falch iawn o’u llwyddiant.

Cofion gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor