Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 9 Mai 2016

9 Mai 2016
  • Cafodd yr Athro Amanda Coffey ei llongyfarch ar ei phenodiad yn Ddirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd. Bydd yn olynu’r Athro Patricia Price yn y flwyddyn academaidd nesaf.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am ysgoloriaethau/bwrsariaethau’r DU/UE. Cytunwyd ar ei argymhellion.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am bolisi ffioedd dysgu ac isafswm lefelau ffioedd ar gyfer 2017/18. Cytunwyd ar ei argymhellion.
  • Cafodd y Bwrdd ddrafft Cynllun Ffioedd a Mynediad 2017/18 a chytunodd i ddirprwyo awdurdod i’r Rhag Is-Ganghellor i gymeradwyo fersiwn derfynol y Cynllun Mynediad a Ffioedd er mwyn ei gyflwyno i’r Cyngor.
  • Cafodd y Bwrdd adroddiad am ganlyniadau etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn

  • System Arloesedd Caerdydd, Prosiectau Adeiladu Cyfalaf
  • Yr Adroddiad Misol ar Weithgarwch Ymchwil ac Arloesi.
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.