Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol 18 Ebrill 2016

18 Ebrill 2016
  • Cafodd y Bwrdd Gweithredol lythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru i CCAUC. Nodwyd nad oedd unrhyw beth annisgwyl o ran blaenoriaethau ariannu, ac roedd y llythyr hefyd yn cynnwys cais i CCAUC weithio mewn partneriaeth â darparwyr i ddatblygu Strategaeth ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru, gan edrych ymlaen dros y degawd nesaf.
  • Cafodd y Bwrdd Gweithredol bapur ar Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Trafodwyd cyfleoedd ar gyfer y Brifysgol o ran y thema Arloesedd a Digidol.
  • O dan Faterion sy’n Codi, trafodwyd cynnig Ysgol y Biowyddorau ar gyfer Cyfleuster E-ddysgu ac E-asesu (E-leaf). Nodwyd nad oes gan Ystadau’r gallu i wneud y gwaith y flwyddyn academaidd hon, ond byddai’n edrych ar amserlen oddeutu Nadolig 2016, yn amodol ar yr arian sydd ar gael.
  • Nodwyd bod Undeb y Myfyrwyr wedi lansio ymgyrch yn erbyn y diwylliant o fod yn anaeddfed a thrin menywod yn israddol (anti-lad culture), a bod y Brifysgol wedi cynnig y gallai fod angen ailystyried y term ‘anti-lad‘, ond ni dderbyniwyd y pwynt.
  • Nodwyd bod yr Athro Price wedi mynd i gyfarfod a gynhaliwyd gan CCAUC ar gyfer Dirprwy Is-Gangellorion Grwpiau Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru, i ystyried cynigion CCAUC ar gyfer sicrhau ansawdd. Un o ofynion y cynigion hyn yw comisiynu adolygiad allanol.
  • Nodwyd bod y pum prosiect ymgysylltu blaenllaw wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Times Higher Education (THELMAs) yng nghategori ‘Menter Cyfnewid/Trosglwyddo Gwybodaeth y Flwyddyn’.
  • Nodwyd na fyddai modd dychwelyd yn y REF unrhyw bapur a gyhoeddwyd, nad yw wedi’i gofrestru fel papur sy’n cydymffurfio â gofynion mynediad agored erbyn Gorffennaf 2016, ac wrth ystyried pa mor ddifrifol yw’r risg, gofynnwyd i Ddirprwy Is-Gangellorion Colegau i godi’r mater yng nghyfarfodydd Bwrdd nesaf y Colegau. Mae llawer o wybodaeth ar gael ar y fewnrwyd ynghylch mynediad agored, a dylid cyfeirio staff yma iddynt gael eglurhad pellach.
  • Cafodd y Bwrdd Gweithredol yr achos busnes ar gyfer Canolfan y Myfyrwyr cyn i’r Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau ei weld ar y ffordd i’r Cyngor.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn

  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
  • Adroddiad misol Ymchwil ac Arloesi.
  • Adroddiad am weithgareddau Rhyngwladol ac Ewropeaidd
  • Y newyddion diweddaraf am y System Arloesedd.
  • Adroddiad am weithgareddau Ymgysylltu.