Canolfan Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd – adeilad gwirioneddol ryfeddol
31 Mawrth 2016Ddeunaw mis ers y rhaw gyntaf yn y ddaear erbyn hyn mae gennym gyfleuster delweddu’r ymennydd unigryw yn Ewrop. Mewn sawl ffordd mae’n gamp syfrdanol a fydd yn gosod Prifysgol Caerdydd – heb or-ddweud – mewn sefyllfa gystadleuol ar lwyfan y byd o ran datblygu technegau delweddu ac o ran deall sut mae’r corff yn gweithio – yr ymennydd yn bennaf, ond hefyd sut mae organau ac aelodau o’r corff yn gweithio.
Ni ddigwyddodd camp mor enfawr dros nos. Roedd y buddsoddiad gwreiddiol ar gyfer y Ganolfan Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd – rhyw ddeng mlynedd yn ôl erbyn hyn – mewn adeilad pwrpasol ynghyd â dau sganiwr: bryd hynny’r technolegau mwyaf blaenllaw o ran Magnetoenseffalograffeg (MEG) a Delweddu Cyseinedd Magnetig (MRI), wedi eu dilyn yn ddiweddarach gan Electro-enseffalograffeg (EEG ).
Mae’r rhain i gyd yn ddulliau o gyflwyno gwybodaeth o sut mae’r ymennydd yn gweithio; mae gan bob un ei ‘ongl’ ei hun ar weithrediad yr ymennydd, felly mae pob un yn cynhyrchu gwybodaeth ychydig yn wahanol. Wrth eu rhoi at ei gilydd, mae’r dulliau hyn yn rhoi dealltwriaeth fwy cyflawn o’r ymennydd. Yn ystod y deng mlynedd hynny adeiladodd y tîm ymchwil amlddisgyblaethol Canolfan Delweddu’r Ymennydd enw rhagorol am wneud gwaith ymchwil ar flaen y gad, i’r pwynt lle’r oedd y galw am y cyfleusterau wedi mynd y tu hwnt i allu’r Ganolfan bryd hynny i gyflenwi.
Wrth edrych yn ôl ar y 18 mis diwethaf, mae’n anodd credu faint o gynnydd a wnaed. Mae’n adeilad mawr – wel, mawr iawn – ac mae’n cynnwys lle i 200 o bobl, ymchwilwyr, staff proffesiynol ac ymwelwyr, gyda phum sganiwr o fath gwahanol, ynghyd â chyfleusterau labordy ar gyfer dadansoddi ymddygiad (gan gynnwys labordy cysgu mawr, ardaloedd profi ar gyfer perfformiad gwybyddol, yn ogystal â gweithredu biomecanyddol).
Roedd y prosiect yn dechnegol gymhleth; mae’r sganwyr yn offerynnau mawr, cain ac yn hynod ddatblygedig o ran technoleg. Mae’r ffaith fod y prosiect wedi gorffen mewn pryd ac o fewn y gyllideb yn ddim llai na rhyfeddol; mae’n dyst i gryfder tîm y Ganolfan Delweddu’r Ymennydd o dan arweiniad Derek Jones – yn ogystal â thîm ystadau proffesiynol iawn, ond hefyd cefnogaeth lem unigolion fel Gabe Treharne (Is-Gadeirydd y Cyngor) a ddaeth â sgiliau o’r parth masnachol, a rhagwelediad Elizabeth Treasure wrth feithrin uchelgais ein Canolfan Delweddu’r Ymennydd i weithio ar raddfa.
Mae Canolfan Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd yn adeilad gwirioneddol nodedig. Mae amser cyffrous o’n blaenau ar gyfer y rhai sy’n ddigon ffodus i fod yn defnyddio’r cyfleuster newydd a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymweld yn ystod un o’r diwrnodau agored.
Gwyliwch daith ffilm o’r Ganolfan Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014