Neges gan yr Is-Ganghellor
10 Chwefror 2016Annwyl gydweithiwr
Yn fy ebost fis Ionawr, addewais roi gwybod i chi am ddatblygiadau o ran cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17. Yn dilyn y ddadl yn y Cynulliad Cenedlaethol ddoe, mae’n bleser gennyf ddweud mai £10m o doriadau fydd yn cael eu gwneud i arian Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru bellach, yn hytrach na’r £41m a ragwelwyd yn wreiddiol. Mae’n rhy gynnar dweud yn union sut gallai hyn effeithio ar faint o arian fydd ar gael ar gyfer Prifysgol Caerdydd, ond mae’n sicr yn agosach i’r hyn yr oeddem wedi’i ragweld. Hoffwn ddiolch i chi i gyd am eich cefnogaeth, a hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar ein pryderon ac wedi diwygio’r cynigion gwreiddiol. Cafodd ein hachos gefnogaeth eang ar draws y sbectrwm gwleidyddol, ac rwy’n hynod ddiolchgar am yr holl ymdrechion a wnaed ar ein rhan.
Mae’r setliad yn golygu bod yr esgid fach yn dal i wasgu (rydym, wrth gwrs, yn cydnabod bod arian cyhoeddus yn brin), ac rydym yn parhau i wynebu pwysau costau cynyddol mewn nifer o feysydd. Ond er ein bod yn dal i wynebu llawer o heriau, o leiaf mae modd i ni eu rheoli bellach.
Ers fy ebost diwethaf, byddwch yn ymwybodol ein bod wedi cyhoeddi manylion bond gwerth £300m a gaiff ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn cyfleusterau addysgu ac ymchwil newydd. Mae rhagor o wybodaeth am y bond ar y fewnrwyd ac rydym wedi creu ffilm fer gyda Mike Davies, ein Cyfarwyddwr Cyllid, yn egluro ein sefyllfa ariannol a natur y bond.
Rydym yn benthyca’r arian er mwyn buddsoddi’n hirdymor yn ein dyfodol, ac mae hyn yn rhan allweddol o’n strategaeth gyffredinol i ddod yn un o 20 prifysgol orau’r DU ac yn un o’r 100 prifysgol orau yn y byd. Bydd yn ein galluogi i greu cyfleusterau o’r radd flaenaf, ond ni allwn ei ddefnyddio i wneud iawn am y diffyg anochel y byddwn yn ei wynebu yn ein costau rhedeg o ddydd i ddydd.
I grynhoi, mae’r sefyllfa ymhell o fod yn ddelfrydol, ond rydym wedi llwyddo i osgoi’r argyfwng difrifol roeddwn yn ei ofni. Byddaf yn siŵr o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i faterion ddatblygu, a byddaf yn ysgrifennu atoch fel arfer ddiwedd y mis.
Cofion gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014