Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Catalyddion, dŵr glân a gwyrdd pur

17 Gorffennaf 2015

Rydw i wedi bod yn Sefydliad Catalysis Caerdydd yr Athro Graham Hutchings yr wythnos hon.

Roedd yn ymweliad diddorol dros ben. Mae’r ymchwil y mae’r Ganolfan yn ei chynnal (mae tua 70 o ymchwilwyr yn y labordai prysur ledled y Prif Adeilad) nid yn unig yn ddiddorol, mae hefyd yn torri tir newydd ac mae’n fwy na phosibl y bydd yn arbed bywydau, gwella iechyd a glanhau’r amgylchedd.

Cefais weld sut mae’r catalyddion yn gweithio mewn pibelli mwg cerbydau (dyfais sy’n gyfarwydd i lawer) a chefais wybod mai technoleg catalysis yw hanfod rhwng 80 a 90% o’r holl gynhyrchion a’i bod yn cyfrannu dros £50bn y flwyddyn i economi’r DU. Gwyliais enghraifft ymarferol o sut gallai technoleg catalysis ddisodli cemegau mewn peiriannau golchi ac, yn anad dim, sut gallai gael ei defnyddio i lanhau dŵr yn ddiogel ac yn llawer iawn cyflymach na chemegau.

Daeth i’r amlwg i mi fod modd dod o hyd i bethau newydd wrth chwilio am bethau eraill, a dangoswyd i mi sut gellir gwneud mwynau prin. Roedd hyn yn fy atgoffa o rôl alcemi yn natblygiad gwyddoniaeth fodern a sut rydym yn dal i chwilio am hanfod bywyd. Erbyn hyn, nid ail-greu aur (neu ‘wyrdd pur’ fel yn y bennod enwog o Blackadder) yw’r nod. Yn hytrach mae’n seiliedig ar sut y gall achub bywydau drwy buro dŵr neu gael gwared ar ronynnau peryglus o lygryddion.

Ymchwil sydd wedi’i sbarduno gan chwilfrydedd yw gwaith grŵp yr Athro Hutchings, ac maent wedi gwneud darganfyddiadau arloesol sy’n effeithio ar fywydau. Ar yr un pryd, mae’r grŵp wedi cynhyrchu dros £23m o incwm ers ei sefydlu yn 2008. Roedd yn ymweliad ysbrydoledig a chefais fy atgoffa pa mor hanfodol yw prifysgolion – mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau bob dydd, ac yn gwella iechyd pob un ohonom a chyfrannu at yr economi.

Yr wythnos ddiwethaf, rhoddodd y Cyngor (corff llywodraethu’r Brifysgol) sêl bendith i adeiladu dau adeilad System Arloesedd newydd yn ein Campws Arloesedd newydd ar Heol Maendy. Ar ôl ei adeiladu, bydd y Sefydliad yn symud i’r Adeilad Ymchwil Trosiadol yn ogystal â’r Cyfleuster Lled-ddargludyddion Cyfansawdd newydd fydd, gyda lwc, yn barod erbyn Hydref 2018.

Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd yn un o naw o sefydliadau ymchwil y Brifysgol. Cewch wybod rhagor amdanynt yma.