Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 3 Mehefin 2015
3 Mehefin 2015- Nododd yr Athro Price i’r digwyddiad Llwybrau at Ieithoedd, a gynhaliwyd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yn ddiweddar, roi sylw i brosiectau estyn-allan ac iddo ddenu amryw byd o bobl. Tynnwyd sylw hefyd at arolwg y Cyngor Prydeinig o Dueddiadau Iaith Cymru ac at y tueddiadau sy’n peri pryder ynghylch addysgu ieithoedd tramor modern yn ysgolion uwchradd Cymru.
- Nodwyd cyhoeddi adroddiad Viewforth Consulting Cyf a’r prif ddatganiadau ynddo fod Caerdydd yn werth dros £1 biliwn i economi’r DU a’i bod hi’n creu dros 13,000 o swyddi yng Nghymru.
- Nodwyd yr ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch newidiadau i’r lwfans i fyfyrwyr anabl ac fe’i cymeradwywyd yn amodol ar wneud rhai newidiadau mân iddo. Cytunwyd ei bod hi’n briodol cyflwyno ymateb cadarn a manwl i’r ymgynghoriad gan y bydd y newidiadau’n amharu ar y grŵp hwnnw o fyfyrwyr ac am fod tuedd i’r grŵp penodol hwnnw o fyfyrwyr dangyflawni.
- Cyflwynwyd i’r Bwrdd achosion busnes dau adeilad y System Arloesi ar y Campws Arloesi newydd. Câi’r Ganolfan Arloesi a SPARK eu cynnwys yn y naill adeilad a’r Cyfleuster Ymchwil Drosiannol ar gyfer Catalysis a Lled-ddargludyddion yn y llall. Yn amodol ar wneud rhai newidiadau mân i’r achosion busnes ac egluro rhywfaint arnynt, cymeradwyodd y Bwrdd hwy ill dau a chânt eu cyflwyno’n awr i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau iddo graffu arnynt a’u cymeradwyo cyn iddynt gael eu symud ymlaen i’r Cyngor.
- Cafodd y Bwrdd y gofrestr o risgiau mawr. Cytunwyd arni ac fe aiff hi ymlaen i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau a’r Cyngor yn awr i’w nodi.
- Y Ffordd Ymlaen: cyflwynwyd papur i’r Bwrdd ar y cynnydd o ran cyrraedd y targedau. Nodwyd y newidiadau ac fe aiff hwn yn awr ymlaen i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau a’r Cyngor i’w nodi.
- Nodwyd Cynllun yr Achos Busnes ar gyfer Mai 2015 ac fe aiff ymlaen i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau a’r Cyngor yn awr i’w nodi.
- Nodwyd adroddiad yr UUK ar Effeithlonrwydd, Effeithiolrwydd a Gwerth am yr Arian, a pha mor barod yw Caerdydd yn hynny o beth.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
- Y Newyddion Diweddaraf am y System Arloesi. Nododd yr adroddiad i Fwrdd Trosolwg Strategol y System Arloesi gyfarfod ar 28 Ebrill 2015 ac iddo gael cyflwyniad gan yr Athro Graham Hutchings ynghylch Sefydliad Catalysis Caerdydd a chan Dr Phil Buckle ynghylch Sefydliad y Lled-ddargludyddion.
- Adroddiad Misol a Blaen-Gynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata. Rhoes yr adroddiad y newyddion diweddaraf am y cysylltiadau cyfredol â’r cyfryngau a’r ymgyrchoedd yn y cyfryngau. Ceir crynodeb o’r ymdriniaeth yn y cyfryngau yn: https://flipboard.com/@cardiffuni/cardiff-university-in-the-media—may-2015-v6k4tm0ay.
- Yr Adroddiad Misol ar Weithgarwch Ymchwil ac Arloesi. Nododd yr adroddiad benodi’r Athro Diane Huffaker i Gadair mewn Uwch-Beirianneg a Defnyddiau. Bydd ei phenodiad yn adeiladu ar gryfderau ym Mhrifysgol Caerdydd ym meysydd cynyddol optoelectroneg, dyfeisiau lled-ddargludo a defnyddiau. Rhoes yr adroddiad y newyddion diweddaraf am ymweliad yr MRC ynghylch Cyllid Trosiannol, ac am ymweliad yr NERC. Rhoes y papur y wybodaeth ddiweddaraf hefyd am y dyfarniadau ymchwil hyd at 30 Ebrill 2015 a nododd y dylai’r tueddiadau cyfredol fod yn fodd i’r Brifysgol gyrraedd ei tharged ar gyfer 2014/15 o ran cyfanswm y dyfarniadau.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014