Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

A ydym wedi troi’r gornel ar ieithoedd?

22 Mai 2015

Dyna oedd y syniad yn rhedeg drwy fy mhen pan fynychais lansiad cynllun Ieithoedd i Bawb Prifysgol Caerdydd yn Undeb y Myfyrwyr ar ddydd Iau 21 Mai. Mae’r duedd Brydeinig i osgoi dysgu ieithoedd yn adnabyddus, ac yn wir mae ieithoedd mewn ysgolion a phrifysgolion wedi bod mewn dirywiad hirdymor. I Almaenegwr fel fi mae hyn bob amser wedi bod yn destun pryder a dryswch. Y rheswm arferol a gyflwynir yw bod Saesneg yn iaith mor amlwg yn y byd, ac i fod yn onest ni wnaeth penderfyniad y llywodraeth Lafur yn 2004 i roi terfyn ar ddysgu iaith yn orfodol ar ôl 14 oed helpu. Beth bynnag am hynny efallai (ac yn wir cafodd y penderfyniad hwnnw ei wyrdroi yn ddiweddar yn Lloegr er nad yng Nghymru), byddai’n syndod – os un i’w groesawu – i ddysgu bod ein myfyrwyr yn awyddus i ddysgu ieithoedd eraill.

Wel dyna’r union syndod pleserus a gefais i pan ddysgais am boblogrwydd ein cynllun Ieithoedd i Bawb. Mae’n ymddangos yn ei gyfnod cyntaf o weithredu bod 2500 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan ac – yn bwysicaf oll – 71% wedi cwblhau’r cwrs. I unrhyw un sy’n gwybod am ddysgu iaith mae hynny’n ffigwr rhyfeddol. Yn y digwyddiad lansio siaradodd myfyrwyr a oedd wedi cymryd rhan gydag angerdd mawr am eu profiad, ac ymddangosodd eraill mewn fideo sydd i’w gweld yma.   Mae eu brwdfrydedd, cymhelliant ac ymrwymiad yn amlwg, a gallaf yn sicr argymell dysgu iaith ar gyfer y llawenydd pur a ddaw yn ei sgil.

Roeddwn i eisiau cyflwyno cynllun Ieithoedd i Bawb i gefnogi un elfen o’n strategaeth Y Ffordd Ymlaen, sef cael 17% o’n myfyrwyr cartref i weithio, astudio neu wirfoddoli dramor erbyn 2017. Gwir, nid oes angen i chi gael iaith i fynd dramor os byddwch yn dewis gwlad lle mai Saesneg yw’r iaith frodorol, neu lle mae’r Saesneg yn cael ei siarad yn eang. Ond rhan o’r cyfoeth o fyw mewn diwylliant arall yw profi’r byd trwy brism iaith arall, a dod i adnabod pobl ar eu telerau eu hunain. Ceisir sgiliau ieithyddol yn y farchnad swyddi wrth gwrs, ac mae’n fonws pendant er y bydd treulio amser strwythuredig dramor ynddo’i hun ar gyfartaledd yn arwain at ganlyniadau academaidd gwell a gwell rhagolygon cyflogaeth. Mae dysgu iaith yn hynod o werth chweil, ac rwyf wedi cael fy nghalonogi’n fawr iawn gan ymateb ein myfyrwyr, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn wreiddiol o’r DU. Mae Dr Catherine Chabert a’i thîm, o’r Ysgol Ieithoedd Modern wedi creu rhaglen arbennig o drefnus sy’n cynnwys Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Mandarin Tsieineaidd, Eidaleg a Japaneaidd. Mae’r cyrsiau ar gael ar lefelau gwahanol ac yn cael eu teilwra yn fawr iawn i anghenion myfyrwyr. Maent yn agored i bob myfyriwr ac yn cael eu darparu am ddim. Credwn fod hyn yn ein gwneud yn unigryw yn y DU; ac rydym yn ôl pob tebyg yn unigryw hefyd gan ein bod yn ddiweddar wedi agor Ysgol Ieithoedd Modern dan arweinyddiaeth ragorol yr Athro Claire Gorrara, yn hytrach na bod wedi cau un.

Mae perfformiad rhagorol yr Ysgol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn cyfiawnhau’r penderfyniad hwnnw; mae llwyddiant Ieithoedd i Bawb yn cadarnhau hynny. Rwy’n falch iawn ein bod yn rhoi i’n myfyrwyr werth gwych am arian am y ffioedd maent yn talu, ac efallai hyd yn oed yn bwysicach, ein bod yn eu paratoi i fod yn ddinasyddion byd-eang ar gyfer yr 21ain ganrif.   Bydd y sgiliau iaith maent yn eu caffael gyda ni yn eu paratoi yn dda ar gyfer gweddill eu bywydau, ac yn rhoi cyfleoedd mewn bywyd iddynt na fyddent fel arall wedi eu cael. Mae hynny’n rhywbeth i fod yn falch ohono.